Efeilliaid - ddwy waith!

  • Cyhoeddwyd

Dyw rhoi genedigaeth i un pâr o efeilliad ddim yn anarferol, ond nid yn aml iawn y mae mam yn cael dau bâr.

Ond dyna'n union ddigwydodd i ddwy fam fu'n siarad ar Bore Cothi ar BBC Radio Cymru ar 8 Tachwedd.

Mae Marcia Edwards ac Alwen Davies yn sôn am yr her a'r hwyl o fagu eu plant...

line

Marcia Edwards - "O'n i ddim yn disgwyl cael efeilliad ond mi oedd o'n sioc neis."

Marcia, ei gŵr Rhys a'r plantFfynhonnell y llun, Marcia Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Marcia, ei gŵr Rhys a'r plant

"Ges i Jac a Lois sy'n 19 oed a ges i set arall Alfie a Elsa-Jane, sy'n chwech. Oedd dim hanes o efeilliaid yn y teulu o gwbwl.

"Mi oedd o'n dipyn bach o sioc, y ddwy waith, yn enwedig yr ail dro. O'n i ddim yn disgwyl cael efeilliad ond mi oedd o'n sioc neis.

"Bysen i'n dweud bod rhaid cael rhyw fath o routine, ges i routine o'r dechra ac oedd hynny'n help. A hefyd gofyn am help, peidio trio ei wneud o dy hun. Mae lot o bobl o gwmpas sy' wrth eu bodda' yn helpu, ffrindia, teulu... ma' pawb yn excited ac eisio helpu chi hefyd.

"If you do it once you might as well do it twice, os da chi'n newid un nappy, might as well newid dau! Mae yn challenging weithie, yn enwedig y night feeds, ond mae lot o hwyl hefyd.

Yr efeilliaidFfynhonnell y llun, Marcia Edwards

"Dwi di bod yn lwcus iawn. Y tro cynta' mi oedd gynnai nain a taid a'r gŵr yn helpu lot a'r ail dro roedd Jac a Lois yn helpu adre yn nôl pethau, yn newid nappies a bwydo a phawb eisiau helpu, dan ni di bod yn lwcus iawn a rili joio y ddwy waith.

"Mae'r pedwar yn hollol wahanol, mae pawb yn licio gwybod am twins. Pan maen nhw'n fach mae pawb yn stopio ti yn y stryd ac eisio dweud helo, ac eisiau eu gweld nhw. Mae'n rili sbeshal, mae'n ffantastig.

"Os mae plant yn mynd yn ddistaw 'dach chi'n dechrau poeni, ac os ma' efeilliaid yn mynd yn ddistaw 'da chi rili dechrau poeni! Mae 'na rhywbeth yn mynd ymlaen! Dwi'n cofio Jac a Lois yn chwarae yn neis a rhannu, ac aethon nhw yn ddistaw... oedd Jac yn covered from head to toe mewn Sudocrem a Lois yn ei helpu fo! D'on i ddim yn gwybod beth i neud!"

Disgrifiad,

Mae Shân yn cael cwmni dwy fam, Marcia Edwards ac Alwen Davies, i glywed eu profiadau nhw.

Alwen Davies - "amser ddaru mi fwynhau yn fawr"

Cafodd Alwen Davies ei set cyntaf o efeilliaid, Gareth a Bethan, yn 1978. Yna cafodd Ffion ac Iwan eu geni ddwy flynedd yn ddiweddarach:

Bethan, Iwan, Gareth a Ffion yn blantFfynhonnell y llun, Alwen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bethan, Iwan, Gareth a Ffion yn blant

"Mi oedd o'n dipyn o sioc o glywed mod i'n mynd i gael efeilliaid. Roedd rhaid meddwl yn ddwys am y peth ac ymdopi, a dyna ddigwyddodd. Cafodd Gareth a Bethan eu geni, roedd y teulu'n hapus a mewn sioc a phawb yn ymdopi a fy helpu i.

"R'on i'n eitha' seis erbyn diwedd [yr ail feichiogrwydd] a wedi mynd i 15 stôn a mi oedd Dr Aled Williams yn dod i'r clinig yn Y Bala o Wrecsam, a fo o'dd yn deud y ddau dro, mod i'n siŵr o fod yn disgwyl efeillaid am fy mod i'n fwy nag y dylwn i fod, a dyna fo, efeilliaid arall amdani, Ffion ac Iwan.

"Oeddan ni'n mynd i Wrecsam am sgan a chael y canlyniad yn fanno ar y diwrnod. Dwi ddim yn credu oedd merched yn cael sgan bryd hynny onibai ei fod yn eithriad,

"Mae'r pedwar yn hollol wahanol, dydyn nhw ddim yn debyg o ran pryd a gwedd na dim arall chwaith. Dwi'n mynd yn ôl i pan o'n i'n eu magu, yr hen glytie oedd gynna i, ac mi oedd gen i tua hanner cant o'r rheiny achos oedd isho'r clwt a'r trowsus rwber a'r safety pins, oedd hynny'n golygu llawer iawn o waith. Mi oedd gen i'r hen beiriant golchi, oedd hi'n drydan, ond mangl i wasgu'r clytie!

"Ond dwi'n meddwl yn ôl ac yn dweud, amser hapus iawn o'u magu nhw a amser ddaru mi fwynhau yn fawr.

"Mi oedd gen i bram dwbwl ac mi oedd y ddau bob tro yn wynebu ei gilydd ac mi oeddan nhw'n sgwrsio yn eu hiaith eu hunain ac yn gwenu, a fel oedden nhw'n datblygu oedd 'na rhywbeth gwahanol wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, roedden nhw'n rhannu teganau efo'i gilydd ac yn hapus efo'i gilydd.

"Heddiw mae'r pedwar yn dal i fyw yn Llanuwchllyn a maen nhw yn reit ofalus o'i gilydd. "

line