Ffasiwn cerdd dant
- Cyhoeddwyd
Maen nhw'n gynlluniau sydd wedi ysbrydoli nifer fawr o ferched Cymru dros y degawdau a nawr gallwch chi werthfawrogi rhai o ffasiynau blodeuog Laura Ashley yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth.
Ers i Laura a Bernard Ashley sefydlu'r cwmni yn y Canolbarth ar ddechrau'r 70au mae'r dyluniadau lliwgar wedi dod yn gyfarwydd ar hyd a lled y byd nid yn unig ar ffurf ffrogiau ond hefyd ar ddodrefn a phapur wal.
Pan oedd y cwmni ar ei anterth byddai llwyfannau Cymru wedi bod yn llawn o gorau merched, cantorion ac adroddwyr yn gwisgo y dillad gafodd eu cynhyrchu yn ffatri'r cwmni yng Ngharno.
Tybed a fydd 'na ambell i enghraifft ar lwyfan yr Wŷl Cerdd Dant yn Llandysul ddydd Sadwrn 11 Tachwedd?
Dyma i chi flas o'r arddangosfa yn Aberystwyth:


Ydy rhai o'r rhain yn procio'r cof?

Nôl a ni i'r saithdegau!


Laura Ashley: Y cynllunydd ifanc wrth ei gwaith


Roedd 'na fwy na cynlluniau blodeuog i'w cael


Oedd gennych chi ffrogiau tebyg i'r rhain?


Barod am swper yn y Berni Inn!


Dilyn y patrymau...

Oes gennych chi luniau ohonoch chi yn eich hoff ffrog Laura Ashley?
Cysylltwch gyda cymrufyw@bbc.co.uk