S4C: Gweinidog ddim am ofyn am fwy o arian
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog diwylliant newydd Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw'n bwriadu mynd "cap-mewn-llaw" i ofyn am ragor o arian i S4C gan San Steffan.
Gwnaeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ei sylwadau yn ystod ei anerchiad cyntaf ers ymuno a'r cabinet ddydd Gwener.
Wrth siarad o flaen cynhadledd ar ddyfodol darlledu Cymraeg yng Nghaerdydd, dwedodd i gyfrifoldeb ariannu S4C orwedd gyda Llywodraeth y DU, ac nad oedd ei "ffordd o weithredu" yn cyfateb i ofyn am fwy o arian.
Dwedodd y grwp sy'n cynrychioli cynhyrchwyr teledu annibynnol Cymru, TAC, ei bod yn "siomedig" am y sylwadau.
Dim angen cynyddu cyllideb
Yn ei araith dwedodd yr Arglwydd Elis-Thomas: "Ynglŷn â chyllid y sianel, dewch i mi wneud hi'n hollol glir mai cyfrifoldeb statudol Llywodraeth y DU yw cyllid S4C.
"Ac nid 'yn job i ydy mynd â 'nghap yn fy llaw i ofyn i unrhyw weinidog yn San Steffan i roi mwy o bres i Gymru. Dewch i ni gael hwnna yn hollol glir. Nid dyna fydd fy ffordd o weithredu."
Pan ofynnwyd a oedd yn credu bod angen cynyddu cyllideb S4C, atebodd: "Nac ydw. Mae hynny yn hollol glir.
"Alla i ddim penderfynu hynny. Achos, fel dwedes i yn yr anerchiad, dydw i ddim yn y busnes o fynd at Lywodraeth San Steffan a gofyn am arian i Gymru.
"Dydw i erioed wedi gwneud hynna. Dwi wastad wedi sicrhau bod achosion busnes cadarn dros unrhyw ddatblygiad yng Nghymru."
Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi galw am "ariannu digonol" i S4C.
Siomedig
Mae adolygiad annibynnol o'r sianel, dan ofal Euryn Ogwen Williams, yn ystyried dulliau ariannu, trefn llywodraethu a chylch gorchwyl S4C ac yn paratoi i gyflwyno adroddiad i Lywodraeth y DU ym mis Rhagyr.
Dwedodd Iestyn Garlick, cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), ei fod yn siomedig am ddatganiad yr Arglwydd Elis-Thomas nad oedd yn fodlon lobïo am ragor o gyllid i S4C.
Dwedodd wrth BBC Cymru: "Oedd o'n ddiddorol iawn clywed yr Arglwydd Elis-Thomas yn dweud na fyddai fe yn mynd efo'i gap yn ei law i Lundain i ofyn am arian ychwanegol i gyllid S4C.
"O'n i ychydig yn siomedig yn hynny, ond y cwestiwn wedyn: pwy sydd yn mynd i fynd? Ai dim ond TAC, ai dim ond S4C sydd yn mynd i? Neu oni ddylen ni i gyd gyda'n gilydd rhywsut fod yn lobio am ragor o arian."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2017