Dafydd Elis-Thomas yn ymuno â Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Dafydd Elis-Thomas wedi ymuno â Llywodraeth Cymru, wrth i'r Prif Weinidog Carwyn Jones ad-drefnu ei gabinet.
Bydd cyn-arweinydd Plaid Cymru'n cymryd rôl newydd fel Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.
Mae Carl Sargeant a Jane Hutt ymysg y rheiny sydd wedi gadael y cabinet - Mr Sargeant oherwydd "honiadau" yn ei erbyn.
Dywedodd Mr Jones fod y cabinet newydd yn "cydbwyso profiad a sefydlogrwydd gydag egni a brwdfrydedd ffres".
Newid dyletswyddau
Ymysg y rheiny sydd yn cael sedd yn y cabinet am y tro cyntaf mae Jeremy Miles a Julie James, tra bod Alun Davies hefyd wedi'i ddyrchafu.
Bydd Huw Irranca-Davies, Eluned Morgan a Hannah Blythyn hefyd yn ymuno â'r llywodraeth fel gweinidogion.
Mae Mr Miles wedi'i enwebu'n Gwnsler Cyffredinol, gan gymryd lle Mick Antoniw, tra bod Mr Davies wedi'i benodi'n Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Julie James fydd Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, gan olynu Ms Hutt.

Eluned Morgan yw'r gweinidog newydd dros y Gymraeg
Mae dyletswyddau gweinidogol Dafydd Elis-Thomas yn rhan o bortffolio Ken Skates gynt, sydd yn parhau fel Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth.
Bydd Ms Morgan yn cymryd cyn-bortffolio Mr Davies fel Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Gweinidog yr Amgylchedd fydd Ms Blythyn, gyda Lesley Griffiths bellach yn Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.
Bydd Mr Irranca-Davies yn gyfrifol am Ofal Cymdeithasol a Phlant, tra bod Rebecca Evans yn cael cyfrifoldeb dros Dai ac Adfywio.

Dadansoddiad Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick
Dyw Carwyn Jones ddim yn wleidydd sy'n hoff o adrefnu ei gabinet ond mewn gwirionedd doedd ganddo fawr o ddewis ond gwneud hynny y tro hwn.
Doedd dim modd cadw Carl Sargeant yn y cabinet ar ôl i'r blaid lansio ymchwiliad i'w ymddygiad ac fe ychwanegodd y ffaith bod y cyn-ysgrifennydd hefyd wedi colli'r chwip Llafur at bwysigrwydd sicrhau cefnogaeth Dafydd Elis-Thomas i'r llywodraeth.
Mae'r prif weinidog hefyd wedi ymateb i gwynion bod y baich ar ysgwyddau'r Ysgrifennydd Economi, Ken Skates yn llawer rhy eang a bod hynny wedi arwain at gamau gwag, megis y ffrae ynghylch y fodrwy haearn yng Nghastell Y Fflint.
Tasg Aelod Dwyfor Meirionydd fydd plismona pynciau sensitif felly o hyn ymlaen.
Fe achubodd Mr Jones ar y cyfle hefyd i ddod â nifer o newydd-ddyfodiaid 2016 i mewn i'r cabinet.
Dyw hi ddim yn syndod mai Jeremy Miles, Hannah Blythyn, Eluned Morgan a Huw Irranca-Davies sydd wedi eu ffafrio er y bydd ambell i aelod arall megis Jane Bryant, Hefin David a Lee Waters efallai'n teimlo eu bod wedi colli mas.

'Clirio'i enw'
Mewn datganiad brynhawn Gwener dywedodd Mr Sargeant, oedd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, ei fod yn gadael oherwydd "honiadau" yn ei erbyn.
Dywedodd nad oedd natur yr honiadau wedi eu datgelu iddo eto, ac yn y cyfamser mae hefyd wedi'i wahardd o'r blaid Lafur.
Bu sôn yn gynharach yn y dydd y gallai Mr Sargeant, AC Alun a Glannau Dyfrdwy, golli ei swydd ar ôl bod yn aelod o'r cabinet ers 2007.
Ond mae wedi dweud ei fod yn awyddus i ddychwelyd unwaith y mae wedi "clirio'i enw".

Bydd Ms Hutt yn camu o'r neilltu fel Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ar ôl bod yn aelod o'r cabinet ers 1999.
Mae wedi bod yn gyfrifol am sawl portffolio yn ystod ei 18 mlynedd yn y cabinet, gan gynnwys addysg, iechyd a chyllid.
Mewn neges brynhawn Gwener dywedodd Ms Hutt, sydd wedi gwasanaethu fel gweinidog llywodraeth yn hirach nag unrhyw un arall yn y DU, ei bod am ddiolch i'w hetholwyr am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.
"Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i chwarae fy rhan ym mlynyddoedd cynnar y Cynulliad, gan helpu i sicrhau sefydlogrwydd a hyder yn Llywodraeth Lafur Cymru yn ystod y cyfnod yma," meddai.
"Mae cyfiawnder cymdeithasol a thegwch yn werthoedd sydd wastad wedi fy arwain, a dwi wedi cymryd pob cyfle i helpu siapio polisi ar gyfer anghenion Cymru dros ddau ddegawd datganoli."

Tomos Livingstone o Uned Wleidyddol BBC Cymru sydd yn edrych nôl ar gyfraniad Jane Hutt:
Does neb wedi goroesi yn yr oes ddatganoli fel Jane Hutt. Bu hi'n rhan o'r cabinet cyntaf un nôl yn 1999, dan arweinyddiaeth Alun Michael.
Wedi cyfnod hir - ac anodd - yn ceisio mynd i'r afael â rhestrau aros yn y gwasanaeth iechyd, bu'n weinidog dros addysg, dros gyllid a mwy nag un cyfnod yn trefnu busnes y Senedd a phrif chwip y llywodraeth.
Mawr oedd ei pharch ar draws y pleidiau, ac wrth i eraill gymryd y clod, y gwir oedd taw hi wnaeth y rhan helaeth o'r gwaith caib a rhaw pan oedd gofyn i'r blaid Lafur lyncu poer a thrafod gyda'r gwrthbleidiau.
Fe wnaeth y gwaith yna ddwyn ffrwyth yn 2000, pan arwyddwyd clymblaid â'r Democratiaid Rhyddfrydol, ac eto yn 2007 wrth i Lafur a Phlaid Cymru glymbleidio.
"Mae'n rhaid cadw'ch traed ar y ddaear," meddai hi heddiw. Ond rhyfedd bydd gweld bwrdd y cabinet heb ei thraed hi oddi tano.

'Codi pontydd'
Mewn datganiad, dywedodd Carwyn Jones fod Ms Hutt wedi llwyddo i "godi pontydd" a gweithio "drwy gyfnodau anodd" yn ystod ei chyfnod fel gweinidog.
"Fe gyflawnodd nifer o swyddogaethau'n rhagorol ac roedd ei hymroddiad a'i theyrngarwch yn ddi-gwestiwn," meddai.

Dywedodd Carwyn Jones fod Jane Hutt wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r llywodraeth
Ychwanegodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod gwasanaethu yn y llywodraeth am 18 mlynedd yn "gamp eithriadol", a bod Ms Hutt wedi gwneud hynny "mewn modd egwyddorol".
Ond dywedodd nad oedd "enwau newydd ac wynebau newydd yn cyfri' rhyw lawer", gan feirniadu Llafur yn dilyn 18 mlynedd o lywodraeth.
"Mae ad-drefnu'n Prif Weinidog yn weithred sydd mor ddibwys â chapten yn Titanic yn aildrefnu'r cadeiriau," meddai.
Ychwanegodd Dai Lloyd o Blaid Cymru nad oedden nhw'n "meddwl llawer o'r ad-drefnu hwn", gan ddweud y dylai portffolio'r economi a thrafnidiaeth fod wedi newid.
"Mae Cymru fel cenedl yn crefu am syniadau newydd ac am newid cyfeiriad," meddai.

Portffolios a chyfrifoldebau gweinidogol yn llawn:
Prif Weinidog Cymru - Carwyn Jones
Darpar Gwnsler Cyffredinol - Jeremy Miles
Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus - Alun Davies
Ysgrifennydd Cyllid - Mark Drakeford
Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Vaughan Gething
Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig - Lesley Griffiths
Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth - Ken Skates
Ysgrifennydd Addysg - Kirsty Williams
Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip - Julie James
Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon - Dafydd Elis-Thomas (dirprwy i Ken Skates)
Gweinidog Tai ac Adfywio - Rebecca Evans (dirprwy i Alun Davies)
Gweinidog yr Amgylchedd - Hannah Blythyn (dirprwy i Lesley Griffiths)
Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - Eluned Morgan (dirprwy i Kirsty Williams)
Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant - Huw Irranca-Davies (dirprwy i Vaughan Gething)
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2017