Holl glybiau ieuenctid Gwynedd i gau?
- Cyhoeddwyd
Fe allai holl glybiau ieuenctid Gwynedd gael eu cau wrth i'r cyngor geisio dod o hyd i arbedion gwerth £270,000 o'u cyllideb.
Mae'r cyngor eisiau cau pob un o'r 42 clwb ieuenctid a chreu un clwb sirol fyddai'n gyfrifol am ddarparu ystod o weithgareddau ar draws y sir.
Yn ôl undeb Unsain, fe fyddan nhw'n gweithio gyda'r awdurdod i geisio gwarchod y "gwasanaeth hanfodol" i bobl ifanc.
Ddydd Llun, bydd Cyngor Gwynedd yn cychwyn ar ymgynghoriad chwe wythnos i'w gynlluniau.
'Gwasanaeth hanfodol'
Mae'r clybiau yn cael eu cynnal mewn 42 o ardaloedd ar wahanol nosweithiau o'r wythnos, ac yn cael eu staffio gan 142 o weithwyr ieuenctid.
Ym mis Hydref, fe benderfynodd y Cyngor nad oedd y gwasanaeth presennol yn gynaliadwy gan fod angen gwneud toriadau o £270,000.
Os fydd y newidiadau'n mynd yn eu blaen, fe fyddai pob un o glybiau ieuenctid Gwynedd yn cau, ac yn eu lle byddai clwb sirol yn cael ei greu i bobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed. Byddai gweithiwr ieuenctid yn cael eu rhoi ymhob ysgol uwchradd.
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Dr Sally Holland, ei bod hi'n "hanfodol" fod pobl ifanc Gwynedd yn gallu cael mynediad i addysg tu allan i'r cwricwlwm, beth bynnag fydd penderfyniad y cyngor.
"Mae gwaith ieuenctid yn darparu ystod o gyfleoedd dysgu sy'n ehangu ac yn cyfoethogi profiadau personol, cymdeithasol, emosiynol a democrataidd plant a phobl ifanc," meddai.
'Effaith negyddol'
Mae adroddiad gan undeb Unsain yn rhybuddio y byddai tynnu'r clybiau o gymunedau yn effeithio'n negyddol ar bobl ifanc, ond y gallai'r cynllun yma rwystro unrhyw effaith andwyol.
Yn ôl Geoff Edkins, swyddog rhanbarthol Unison, fe fydda nhw'n gweithio gyda'r Cyngor i warchod y "gwasanaeth hanfodol" i bobl ifanc Gwynedd.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 22 Rhagfyr.