Nifer y plant sy'n cael eu haddysg gartref yn dyblu

  • Cyhoeddwyd
addysg gartref

Mae BBC Cymru wedi datgelu tystiolaeth fod nifer cynyddol o blant - llawer ag awtistiaeth - yn cael eu haddysgu gartref am nad ydyn nhw'n gallu ymdopi yn yr ysgol.

Fe wnaeth ffigyrau ddangos fod nifer y plant sydd yn cael eu dysgu gartref wedi dyblu yn y pedair blynedd diwethaf, gyda'r nifer uchaf ymysg disgyblion uwchradd hŷn.

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi mynegi pryder fod rhieni mewn rhai achosion yn cael eu hannog i dynnu eu plant allan am nad yw'r ysgolion eisiau iddyn nhw effeithio ar y canlyniadau.

Mae'r gyfraith yn dweud fod yn rhaid i blant gael addysg, ond does dim rhaid i hynny ddigwydd yn yr ysgol a does dim rhaid dilyn cwricwlwm penodol.

'Neb yn dewis hyn'

Mae Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru yn dweud fod problem benodol ymysg plant ag awtistiaeth, gan fod yr awyrgylch yn yr ysgol yn gallu bod yn rhy heriol.

Mae gan Erika Lye dri mab ag awtistiaeth sydd yn cael eu haddysg gartref, ac mae hi'n rhedeg grŵp addysg yn y cartref yn Rhos, Castell-nedd Port Talbot.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n haws anfon eich plentyn i'r ysgol," meddai un rhiant â phlant awtistig

Mae'n dweud fod 80% o'r plant sy'n mynychu ar y sbectrwm awtistiaeth, a dyw llawer ohonyn nhw ddim yno o wirfodd.

"Mae'n haws anfon eich plentyn i'r ysgol. Fyddai neb yn dewis hyn petai system well," meddai.

"Petai'r wladwriaeth yn gweithio fe fydden ni'n rhoi ein plant yn yr ysgol."

Canlyniadau

Does dim rhaid i rieni gofrestru eu plant er mwyn iddyn nhw gael addysg yn y cartref, felly does dim ffigyrau swyddogol ar gyfer y niferoedd.

Ond fe wnaeth pob awdurdod lleol yng Nghymru ond un ymateb i gais rhyddid gwybodaeth BBC Cymru yn gofyn faint o blant oedd wedi eu tynnu allan neu eu dadgofrestru o'r ysgol.

Mae'r nifer hwnnw wedi dyblu dros y pedair blynedd diwethaf, o 864 yn 2013-14 i 1,906 yn 2016-17.

Mae nifer uchaf yr achosion dadgofrestru'n digwydd yn yr ysgol uwchradd, ac ar ei fwyaf pan mae plant yn 15 oed, ychydig cyn eu harholiadau TGAU.

Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o blant 15 oed yn cael eu tynnu allan o'r ysgol - ychydig cyn iddyn nhw sefyll eu harholiadau TGAU

Yn 2016-17 cafodd 332 o blant 15 oed eu tynnu allan o'r ysgol, o'i gymharu â 156 o blant 11 oed.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland ei bod yn "pryderu" fod rhai plant yn cael eu tynnu allan o'r ysgol er mwyn gwella canlyniadau.

"Mae rhai rhieni wedi dweud wrtha i eu bod nhw wedi cael eu hannog i roi addysg yn y cartref oherwydd y gall eu plentyn fod yn effeithio data perfformiad yr ysgol neu'r awdurdod lleol pan mae'n dod at arholiadau neu bresenoldeb," meddai.

Deddfwriaeth

Does dim ffigyrau swyddogol, ond mae rhywfaint o dystiolaeth yn awgrymu fod nifer uchel o blant sy'n cael eu haddysg gartref hefyd ag anghenion addysg arbennig, yn enwedig awtistiaeth.

Mae ymgyrchwyr yn awyddus i weld mwy o gefnogaeth er mwyn i'r plant hynny allu aros yn y system addysg gyffredin.

"Mae llawer o rieni yn canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd ble nad oes ganddyn nhw opsiynau eraill, a'r unig beth allan nhw ei wneud i helpu eu plant yw cynnig addysg yn y cartref er nad ydyn nhw eisiau neu'n teimlo fod ganddyn nhw'r gallu i wneud hynny," meddai Meleri Thomas o Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae llawer o rieni yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis, yn ôl Meleri Thomas

Mae adroddiad diweddaraf Tribiwnlys Anghenion Addysg Arbennig Cymru, dolen allanol yn dangos fod teuluoedd â phlentyn awtistig yn cyflwyno llawer mwy o apeliadau am ddiffyg cefnogaeth i'w plentyn yn yr ysgol o'i gymharu â'r rheiny ag anghenion dysgu eraill.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru wrthi'n diwygio'r system ar gyfer cynorthwyo'r rheiny sydd yn cael trafferthion yn yr ysgol.

Maen nhw eisoes wedi cyflwyno deddfwriaeth yn ymwneud ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn rhoi mwy o bwyslais ar anghenion unigol y plentyn.

Ond mae Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru wedi galw ar y llywodraeth i gyflwyno hyfforddiant gorfodol mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth.