Comisiynydd yn anfodlon gyda chyfarwyddyd addysg cartref

  • Cyhoeddwyd
Plentyn

Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi dweud ei bod hi'n siomedig gyda chyfarwyddyd newydd Llywodraeth Cymru ar addysg yn y cartref.

Dywedodd Dr Sally Holland wrth BBC Cymru nad yw'r cyfarwyddyd newydd - sydd yn anstatudol - yn gwarchod hawliau plant Cymru.

Mae Dr Holland yn galw am gofrestr orfodol o'r plant sydd yn derbyn addysg gartref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn dal i "ystyried cyflwyno deddfwriaeth".

Dywedodd Dr Holland fod angen deddfau i sicrhau bod rhieni yn dweud wrth yr awdurdodau lleol bod eu plant yn derbyn addysg yn y cartref, yn dilyn ymchwiliad gan BBC Cymru i farwolaeth y bachgen wyth oed, Dylan Seabridge.

Mae arbenigwyr diogelu hefyd wedi galw am gofrestr gan ddweud fod y cyfarwyddyd presennol yn "wrthgyferbyniad llwyr" i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau plant.

Mae rhai awdurdodau lleol hefyd wedi dweud nad ydi'r cyfarwyddyd presennol yn ddigon cryf.

'Dim digon da'

Dywedodd Dr Holland fod yr amharodrwydd i ddeddfu ar addysg yn y cartref yn "annealladwy".

"Dwi ddim yn credu bydd Cymru yn diogelu hawliau plant Cymru nes bydd symudiad i ddeddfu yn y maes," meddai.

"Dwi'n gobeithio pan ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n edrych ar nifer o fesurau, gan gynnwys y potensial i ddeddfu, y byddai hi'n symud ymlaen yn bendant gyda hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Holland fod yr amharodrwydd i ddeddfu ar addysg yn y cartref yn 'annealladwy'

"Rwyf wedi cyflwyno tystiolaeth glir i'r llywodraeth yn nodi nad yw cyfarwyddyd anstatudol yn ddigon da i blant Cymru.

"Mae gan bob un yr hawl i addysg a hawl i'w lleisiau gael eu clywed ynglŷn â'r addysg yna. Tydi'r arweiniad anstatudol yma ddim yn mynd â ni ymhellach lawr y ffordd yna."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi gwrando yn ofalus ar y pryder ynglŷn â diogelu plant sydd yn derbyn addysg yn y cartref.

"Fel gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddynodi yn ei datganiad ysgrifenedig, bydd y cyfarwyddyd newydd yn rhan o becyn o fesurau mae hi yn ei ystyried, gan gynnwys y potensial i gyflwyno deddf."

'Ymyrryd'

Dywedodd prif weithredwr sefydliad New Foundations Home Education, Jayne Palmer, fod y cyfarwyddyd anstatudol yn "ymyrraeth ar lonyddwch".

Mae hi'n dadlau ei fod yn rhoi gormod o bŵer i'r awdurdodau lleol a bod cofrestr orfodol yn syniad drwg.

"Dwi'n credu bydd mwy o deuluoedd yn cuddio yn hytrach na chymryd y risg o gael eu hadnabod gan yr awdurdodau addysg lleol, a chael pobl yn dioddef o ganlyniad i rai sydd ddim yn gwybod beth maen nhw'n neud," meddai.

Dywedodd bod y deddfau presennol yn "fwy na digon" i ganiatáu'r gwasanaethau cymdeithasol neu swyddogion addysg i gael mynediad at blentyn os oes 'na bryderon yn codi.

Yn ôl yr ymgynghorydd addysg Robin Hughes nid deddfu o reidrwydd yw'r ateb.

Dywedodd wrth y Post Cyntaf: "Tydi deddfu a gwneud pethau yn angenrheidiol yn ôl y ddeddf nid o reidrwydd yn gam sy'n sicrhau be mae'r asiantaethau fel y comisiynydd plant yn ei angen."

"Mae pethau wedi symud yn eu blaen. Mae'r canllawiau yn ganllawiau da iawn.

"Maen nhw'n glir ac yn eglur ac maen nhw'n cadarnhau disgwyliadau ar rheiny sy'n dewis addysgu plant gartra."