'Melltith': 23,000 o dai yng Nghymru yn sefyll yn wag

  • Cyhoeddwyd
ty gwagFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae o leiaf 23,000 o dai preifat yn sefyll yn wag yng Nghymru, gyda rhai cynghorau yn gwneud defnydd o lai nag 1% ohonynt.

Yn 2012/13 roedd o leiaf 19,612 o adeiladau o'r fath, gyda'r nifer yn codi 19% ers hynny - rhywbeth mae un elusen wedi'i alw'n "felltith".

Dim ond 962 (4.9%) o'r tai gwag ddaeth nôl i ddefnydd yn 2012/13, gyda'r nifer yn cynyddu i 1,347 (5.8%) yn 2016/17.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda chynghorau i wneud defnydd o'r tai gwag unwaith eto.

Treth cyngor

Yn ôl y llywodraeth roedd cyfanswm o tua 1.4m o anheddau yng Nghymru ar 31 Mawrth 2016.

Dywedodd elusen dai Shelter Cymru: "Mae tai gwag yn felltith ar y gymuned ac yn wastraff llwyr o adnoddau. Maen nhw'n denu fandaliaeth a phryfetach."

Mae gwahaniaethau sylweddol yn bodoli rhwng cynghorau o ran nifer y tai gwag sydd yn dod nôl i ddefnydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i annog landlordiaid i adnewyddu tai er mwyn eu gwerthu neu eu rhentu

Llwyddodd Torfaen i wneud defnydd o draean eu tai gwag yn 2016/17 - 108 allan o 325 - ond yng Nghaerdydd dim ond 0.8% (10 allan o 1,318) oedd y ffigwr.

Er mwyn taclo'r broblem mae gan awdurdodau lleol y grym i godi tâl o hyd at 100% ar ben y dreth cyngor ar ail dai, neu dai sydd wedi bod yn wag ers sbel.

Mae Wrecsam, Sir y Fflint a Phowys yn codi 50% yn ychwanegol, mae Ynys Môn a Cheredigion yn codi 25%, ac mae Sir Ddinbych hefyd yn ystyried eu cynlluniau.

'Pwerau eang'

Dywedodd llefarydd ar ran Shelter Cymru: "Rydym yn croesawu'r ffaith fod rhai awdurdodau lleol wedi cynyddu'r dreth cyngor ar gyfer tai gwag, ond rydyn ni hefyd yn awyddus i edrych ar rôl landlordiaid cymdeithasol wrth adnewyddu a rheoli tai gwag yng Nghymru."

Ers 2006 mae awdurdodau wedi cael y grym i feddiannu, adnewyddu a gosod unrhyw dŷ sydd wedi bod yn wag am dros chwe mis dan Orchmynion Rheoli Anheddau Gwag.

Dim ond tair gwaith y maen nhw wedi cael eu defnyddio yng Nghymru mewn 11 mlynedd, ac maen nhw'n cael eu gweld fel cam olaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Mae gan awdurdodau lleol ystod eang o ddulliau a phwerau y mae modd eu defnyddio i annog perchnogion tai gwag i'w defnyddio nhw eto.

"Mae'r rhain yn cynnwys pwerau 'meddal' o ddylanwadu ac annog, yn ogystal â grantiau, benthyciadau a phwerau gorchymyn."

Mae Troi Tai'n Gartrefi, dolen allanol a'r Gronfa Benthyciadau Canol Trefi, dolen allanol yn ddau gynllun sydd gan Lywodraeth Cymru i gynnig benthyciadau fel ffordd o annog pobl i adnewyddu tai gwag.

"Mae'r cynlluniau hyn, sydd yn cael eu gweithredu gan awdurdodau lleol ac sydd yn dod i gyfanswm o dros £50m, yn darparu'r cyllid sydd ei angen ar berchnogion tai i'w hadnewyddu ar gyfer rhentu neu werthu."