Ail-gyhoeddi adroddiad camdriniaeth Macur
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi ail-gyhoeddi adolygiad barnwr i'r camdriniaeth mewn cartrefi plant yn y gogledd yn dilyn marwolaeth un o'r bobl a gafwyd yn euog o'r troseddau.
Yn wreiddiol roedd enw Gordon Anglesey wedi cael ei adael allan o adroddiad yr Arglwyddes Ustus Macur, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2016.
Ond fe gafodd y cyn uwch-arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru ei garcharu yn Hydref 2016 ar ôl i lys ei gael e'n euog o ymosod yn anweddus ar ddau fachgen.
Cafodd Gordon Anglesea ei ddefrydu i 12 mlynedd o garchar am ymosod yn anweddus ar un bachgen ac o dri cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen arall.
Bu farw ddeufis yn ddiweddarach yng ngharchar Rye Hill.
Dim rheswm dros gelu enw
Mewn datganiad ysgrifenedig i'r senedd fore Mawrth, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns: "Yn dilyn marwolaeth Gordon Anglesea does dim rheswm bod cyfeiriadau ato yn yr adroddiad yn cael eu celu, heblaw am mewn achosion ble mae'n bosib adnabod y dioddefwr, tystion neu unigolion eraill.
"Felly heddiw, rydw i wedi ail-gyhoeddi adroddiad Macur gyda chyfeiriadau at Gordon Anglesea wedi eu cynnwys. Mi fydd yr enwau eraill sydd wedi cael ei celu yn aros yn ddirgel."
Roedd yr Arglwyddes Ustus Macur wedi adolygu yr ymchwilad Waterhouse i'r camdriniaeth o blant mewn cartrefi yn y gogledd yn y 70au a'r 80au yn dilyn pryderon bod gofynion yr ymchwiliad gwreiddiol yn rhy gyfyng.
Fe ddaeth ei hymchwiliad i'r casgliad nad oedd yna gamdriniaeth honedig gan ffigyrau amlwg.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain: "Cafodd yr enwau eu celu yn yr adroddiad gwreiddiol wedi i'r Arglwyddes Ustus Macur gynghori bod angen gwarchod dioddefwyr, tystion ac achosion oedd yn dal i aros i gael eu clywed.
"Mae'r fersiwn hwn o'r adroddiad nawr yn cynnwys enw Gordon Anglesea, heblaw am achosion lle gellir adnabod unigolion bregus."
Mae'r fersiwn a gyhoeddwyd ddydd Mawrth yn datgelu bod Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn awyddus i erlyn Gordon Anglesea rai blynyddoedd yn ôl, ond bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi penderfynu peidio bwrw 'mlaen.
Yn ôl Mrs Ustus Macur, fe wnaeth y penderfyniad atal rhai tystion rhag dod ymlaen i roi tystiolaeth i ymchwiliad Waterhouse.
Fe wnaeth Macur hefyd ymchwilio i gysylltiadau Anglesea gyda'r seiri rhyddion, ac a wnaeth hynny gyfrannu at gelu gwybodaeth, ac fe ddatgelodd hefyd bod un tyst yn credu bod lluniau oedd yn dangos y cyn-blismon yn cymryd rhan mewn gweithgaredd rhyw anghyfreithlon wedi cael eu dinistrio.
Er hynny daeth Mrs Ustus Macur i'r casgliad terfynol bod "ymdrechion sylweddol wedi eu gwneud i gasglu tystiolaeth yn erbyn Gordon Anglesea" gan ymchwiliad Waterhouse.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2016
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2016