Gorfodi cwmni cwrw i newid cynllun can wedi cwyn
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni cwrw crefft o Gymru wedi eu gorfodi i newid cynllun eu cynnyrch, yn dilyn cwyn fod y ddiod yn "rhy apelgar" i blant.
Roedd y gwyn yn erbyn Bragdy Tiny Rebel wedi codi pryderon fod y cynnyrch yn edrych yn rhy debyg i gan diod meddal.
Mae'r can cwrw coch 'Cwtch' sydd wedi ennill gwobr am y cwrw gorau ym Mhrydain yn 2015, yn cynnwys delweddau cartŵn o arth a graffiti.
Roedd y sawl a gyflwynodd y gwyn wedi dweud eu bod wedi "prynu'r ddiod gan feddwl mai diod feddal oedd".
Fe gytunodd y corff sy'n gosod safonau'r diwydiant bragu - Portman Group - fod y ddiod yn gallu apelio at blant dan 18 oed, ac fe allai hynny arwain at "orddefnydd o'r ddiod".
Fe wrthododd y panel gwynion eraill fod dyluniad y cynnyrch yn annog ymddygiad gwrthgymdeithasol a threisgar.
Roedd cwmni Tiny Rebel, sydd wedi eu lleoli yng Nghasnewydd, wedi dadlau fod y patrwm seicadelic wedi ei ysbrydoli gan ffilmiau Austin Powers.
Dywedodd cyd-sylfaenydd y bragdy, Bradley Cummings, ei fod yn derbyn y penderfyniad, ac y bydd "mân-newidiadau" yn cael eu cyflwyno i'r cynnyrch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2015