Archfarchnad Asda yn Y Barri yn rhannu llysiau am ddim
- Cyhoeddwyd

Roedd y llysiau ar gael i'w cymryd o fynedfa siop Asda yn Y Barri
Mae archfarchnad ym Mro Morgannwg wedi bod yn rhoi llwythi o fagiau o lysiau allan am ddim, wedi iddyn nhw fethu â chael eu gwerthu dros y Nadolig.
Roedd modd i siopwyr yn Asda yn Y Barri gymryd bagiau o foron, brocoli, sbrowts a phannas o drolïau oedd wedi eu gosod wrth fynedfa'r siop.
Dywedodd llefarydd ar ran Asda: "Doedden ni ddim eisiau gweld y bagiau olaf o lysiau yn ein siop yn Y Barri yn cael eu gwastraffu.
"Felly fe wnaethon ni'r penderfyniad i'w rhoi nhw i ffwrdd. Gobeithio y gwnaeth pobl eu mwynhau."
Cafodd yr archfarchnad eu canmol gan nifer o bobl ar y cyfryngau cymdeithasol am eu penderfyniad.
"Mae'n rhy hawdd i gwmnïau mawr daflu bwyd i ffwrdd a pheidio â meddwl am yr oblygiadau ehangach, yn enwedig gyda chymaint o bobl yn mynd i fanciau bwyd," meddai Aled Williams, 45, wrth WalesOnline.
Dywedodd Asda ei bod hi'n bosib fod hyn wedi digwydd mewn siopau eraill hefyd, ond mai penderfyniad i'r canghennau unigol oedd hi i roi bwyd allan am ddim ai peidio.
Straeon perthnasol
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2017
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2017