Sut i fwyta'n dda am ychydig geiniogau

  • Cyhoeddwyd
Salad cyw iar gyda cous cous: 8 ceinog
Disgrifiad o’r llun,

Salad cyw iâr gyda couscous. Pris = 8c

Mae'n siŵr fod nifer ohonoch chi wedi gorwario dros gyfnod y Nadolig ac yn chwilio am ffyrdd o arbed arian ar ddechrau blwyddyn newydd.

Mae Lisa Parry o Gaerdydd yn arbenigo ar gadw dau pen llinyn ynghyd trwy chwilio am y bwydydd sydd â sticeri melyn pris gostyngol arnyn nhw:

Mae siopa fel hyn wedi newid fy mywyd yn llwyr. Cyn i mi ddechrau, fydden i'n gwario tua £40 yr wythnos ar fwyd ac o'n i'n cael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Nawr, dwi'n gwario llawer llai ac yn medru rhoi arian heibio a chynilo.

Does dim byd yn bod ar y bwyd sydd â sticeri melyn arnyn nhw. Mewn diwrnod bydd y cynnyrch yn cael ei dynnu oddi ar y silffoedd, ond mae'n berffaith iawn i fwyta.

Rwy wedi dysgu pigo a dewis pa eitemau i'w prynu. Rwy'n casáu meddwl am fwyd yn cael ei wastraffu, felly prynwch bethau 'dych chi'n hoffi, neu bethau fedrwch chi eu defnyddio i goginio'r prydau y byddwch chi'n hoffi.

Mae gofyn fod yn ofalus gyda rhai pethau, ffrwythau er enghraifft. Maen nhw'n tueddu i droi yn eithaf cyflym felly mae'n rhaid bod yn barod i'w bwyta'n syth.

Disgrifiad o’r llun,

Bil cyffredin i Lisa: Llwyth o gig, pysgod, bara, salad ac eitemau bwyd amrywiol fyddai fel arfer yn costio tua £60, am £2.55

Os y dewiswch chi eich bargeinion yn ofalus, mi fedrwch chi baratoi prydau a'u rhewi, felly mae'n bosib gwneud siop wythnos gyfan gyda bwyd sydd gyda sticeri melyn arnyn nhw.

Mae'n bwysig cofio nad yw rhai cynhwysion cyffredin, ee tomatos tun, i'w cael ar y silff rhad, ond gan eich bod chi'n arbed cymaint o arian, does dim ots os oes rhaid i chi wario 'chydig o geiniogau yn fwy ar bethau felly. Ond mae'n bosib y gallwch chi gael y cynhwysion yma yn rhad weithiau os ydyn nhw ar special offer ar y pryd.

Nid y cyntaf i'r felin...

Y gamp yw bod yn yr archfarchnad ar yr amser pan mae 'na ddewis helaeth ar gael ar y silff arbedion. Yr amser gorau i gael gafael ar y bargeinion sticer felen yw rhwng 20:00 a 21:00 mewn archfarchnad sydd ar agor drwy'r nos, neu hanner awr i awr cyn i unrhyw archfarchnad gau.

Wnes i baratoi pot mawr o chili am £1.80 gyda chig eidion rhad a chynhwysion eraill. Mae hyn yn ddigon o fwyd am 20 pryd!

Disgrifiad o’r llun,

Pot o chilli am £1.80

Gwneud defnydd gwell o amser

Mi fedra'i gael gwerth wythnos o fwyd am lawer llai nag o'n ni'n arfer ei dalu, a dydyn ni ddim yn sôn am geiniog neu ddwy fan hyn neu fan draw, ond punnoedd, weithiau degau o bunnoedd.

Mae rhai'n dweud pethau fel, 'does dim amser gyda fi i chwilota o gwmpas a photsian gyda'r fath nonsens, rwy'n rhy brysur.'

Rwy'n gweithio'n llawn amser fy hun, a ddim yn cymryd mwy o amser i siopa na neb arall. Pan fydda i'n coginio, rwy'n paratoi prydau er mwyn eu rhewi, sydd yn ddefnyddiol pan rwy'n rhy brysur. Mater o ddefnyddio'r amser sydd gyda chi'n well, yn hytrach na threulio mwy o amser yw hi.

Mae hefyd yn ddewis personol. Mae'r wefr o arbed arian drwy siopa a choginio fel hyn yn rhoi pleser a boddhad i mi. Rwy'n mwynhau byw heb orddrafft a heb orfod poeni ar ddiwedd pob mis am arian.

Rwy'n dewis arbed arian wrth siopa yn y ffordd yma a siopa'n gall am fargenion 'ta beth, a dyna fy newis i, ond mae'n ddewis sydd wedi newid fy mywyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae hyd yn oed Martin Lewis yn falch o ddysgu rhywbeth newydd gan Lisa am arbed arian!