Cyflwynydd Wales Today, Jamie Owen yn gadael BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jamie Owen

Mae'r darlledwr Jamie Owen yn gadael BBC Cymru i ymuno â'r gwasanaeth newyddion o Dwrci, TRT World.

Mae'r gŵr o Sir Benfro wedi cyflwyno Wales Today ers dros 20 mlynedd - cyfnod fydd yn dod i ben wedi rhaglen nos Fawrth.

Ymunodd Mr Owen â'r BBC yn 1989 a dod yn gyflwynydd yn 1994. Mae hefyd wedi gweithio i wasanaethau radio'r BBC a chyflwyno mwy na 30 rhaglen ddogfen.

Dywedodd ei fod wedi mwynhau ei gyfnod gyda BBC Cymru, ond bod y "cynnig i gyflwyno newyddion rhyngwladol ar blatfform byd-eang yn gynnig rhy dda i'w wrthod".