'Dim angen cofrestr' o lobïwyr yn y Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Y Cynulliad Cenedlaethol

Ddylai lobïwyr a grwpiau sy'n cynrychioli gwahanol ddiddordebau sy'n ceisio dylanwadu ACau ddim gorfod arwyddo cofrestr benodol am y tro, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Yn hytrach, mae adroddiad y pwyllgor safonau yn argymell mai'r cam nesaf ddylai fod asesu sut mae cofrestrau o'r fath eisoes yn gweithio yn yr Alban ac yn San Steffan.

Fel rhan o gynllun peilot, fydd yn cael ei asesu yn 2020, fe fydd grŵp o ACau yn cael eu hannog i ddatgelu manylion yn wirfoddol.

Mae yna alw hefyd i annog lobïwyr i beidio â defnyddio eu cardiau mynediad i'r Cynulliad er mwyn cael mynediad dirwystr i swyddfeydd ACau.

Dylanwad

Mae lobïwyr yn cynnwys cwmnïau neu unigolion sy'n cael eu talu er mwyn ceisio dylanwadu ar benderfyniadau llywodraeth.

Mae'r AC Neil McEvoy ac ymgyrchwyr eraill wedi bod yn gofyn am system sy'n fwy tryloyw wrth ystyried gweithgareddau'r lobïwyr.

Dywedodd pwyllgor safonau'r Cynulliad mai bach iawn oedd y dystiolaeth oedd yn cefnogi sefydlu cofrestr wirfoddol.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhai Aelodau Cynulliad yn cymryd rhan mewn cynllun gwirfoddol fydd yn cael ei asesu yn 2020

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Jayne Bryant: " Mae'n amlwg o'r dystiolaeth sydd wedi ei gasglu nad oes yna ateb hawdd i'r cwestiynau am sut i ddiffinio lobïo na chwaith i rannu gwybodaeth am y gweithgarwch.

"Mae e'n rhan o ddiddordeb cyhoeddus i asesu'r effaith mae grwpiau sy'n ceisio dylanwadu ar wleidyddion yn ei gael.

"Ond mae'r pwyllgor wedi dod i'r casgliad nad oes tystiolaeth ddigonol ar hyn o bryd ynglŷn â'r ffordd orau i'r cyhoedd allu cael mynediad i wybodaeth o'r fath, unwaith mae wedi ei gasglu."

Fe wnaeth aelodau'r pwyllgor argymell cyhoeddi manylion yr holl weithgareddau sy'n derbyn nawdd neu gefnogaeth ACau o fewn adeilad y Cynulliad.

Maen nhw hefyd eisiau gweld cardiau mynediad holl staff y Cynulliad yn cael eu canslo unwaith mae'r deiliaid yn rhoi'r gorau i'w swyddi, a hynny er mwyn rhwystro lobïwyr rhag eu defnyddio er mwyn cael rhwydd hynt i gyfarfod neu siarad ag ACau drwy fynd i'w swyddfeydd.

Yn 2013, fe benderfynodd y pwyllgor safonau y dylai ACau wynebu mwy o graffu, ond nad oedd angen cofrestr swyddogol.

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones nad oes gan lobïwyr fynediad i weinidogion.