5 uchafbwynt Kris Hughes o ddysgu am farwolaeth dros y byd
- Cyhoeddwyd
“Mae wedi bod yn eitha’ mindblowing, a ti’n siarad efo rywun sydd wedi arfer efo byd marwolaeth. Hyd yn oed i fi mae wedi bod yn siwrnai ryfeddol.”
Mae Kristoffer Hughes wedi gweithio gyda chyrff y meirw fel technegydd mewn marwdai am dros 32 mlynedd ond mae ei brofiadau yn teithio’r byd ar gyfer rhaglen deledu’n edrych ar sut mae pobl eraill yn delio efo marwolaeth wedi bod yn agoriad llygad, hyd yn oed iddo fo.
O’r teuluoedd sy’n cadw’r corff yn y tŷ am flynyddoedd yn Indonesia, i’r arfer o losgi cyrff yn yr awyr agored yn India, gofynnodd Cymru Fyw iddo ddewis pum peth wnaeth yr argraff fwyaf arno yn ystod ffilmio ar gyfer Marw gyda Kris sy’n dechrau ar S4C ar 10 Hydref.
RHYBUDD: Mae'r darn yma'n cynnwys lluniau o gyrff meirw a allai beri gofid.
1. Agweddau tuag at farwolaeth
Yn Mecsico, bu Kristoffer Hughes yn rhan o ddathliadau Día de los Muertos a chwrdd â theuluoedd sy’n glanhau esgyrn eu hanwyliaid marw. Yn India gwelodd gannoedd o gyrff yn cael eu hamlosgi yn yr awyr agored ac yn Indonesia gwelodd deuluoedd yn gofalu am gyrff marw eu teulu am flynyddoedd cyn eu claddu.
Mae’r cyfan mor wahanol i’n hagweddau ni o osgoi a chuddio marwolaeth yn y gorllewin.
“Mae’r Frenhines Fictoria a’r ffordd wnaeth hi ddim ymdopi efo marwolaeth ei gŵr wedi bod yn ddylanwad mawr ar y ffordd rydan ni’n ‘gwneud’ marwolaeth yn y gorllewin,” meddai Kristoffer Hughes.
“Cyn Fictoria doedd dim diwydiant angladdol fel rydan ni’n ei adnabod o heddiw; roedd y ffordd oeddan ni’n delio efo marwolaeth yn fwy cartrefol a mwy cymunedol. Roedd y meirw’n rhan o’r teulu tan ddiwrnod yr angladd. Dydi hynny ddim yn digwydd rŵan achos rydan ni wedi diwydiannu y ffordd rydan ni’n gwneud marwolaeth.
“Fe wnaethon ni ddechrau gweld marwdai yn cael eu sefydlu a thros ddegawdau, daeth marwolaeth yn brofiad meddygol, nid profiad cymunedol ac ysbrydol.
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd25 Medi
“Rydyn ni’n credu erbyn heddiw mai’r ffordd rydan ni’n ‘gwneud’ marwolaeth ydi’r ffordd ‘gywir’, y ffordd sy’n barchus, yn urddasol. Ond dydyn ni ddim yn delio efo marwolaeth yn dda yn y gorllewin; rydyn ni’n osgoi siarad amdano fo.
“Felly roedd gweld agweddau diwylliannau eraill tuag at farwolaeth a’r ffaith bod pobl mor barod i siarad a chyfeirio at farwolaeth yn chwa o awyr iach.”
2. Plant ddim yn cael eu cysgodi oddi wrth farwolaeth
“Roedd gweld plant yn Mecsico ac Indonesia yn ll’nau esgyrn, yn trin cyrff marw, rhai wedi marw ers blynyddoedd, i ni, yn rhywbeth strêt allan o horror film. Ond iddyn nhw roedd o’n urddasol, yn ffordd i ddangos parch ac yn ffordd i anrhydeddu eu hynafiaid,” meddai Kristoffer.
Ym mhentref Pomuch yn Mecsico mae hen draddodiad o godi cyrff anwyliaid a glanhau eu hesgyrn a’u harddangos.
“Fe wnaeth fy synnu bod gan y plant yno ddim ofn. Roedd un hogyn bach yn cydio yn femur ei hen nain ac wrthi efo’i gadach. Yr un pryd roedd ei nain yn dweud stori am sut oedd yr hen nain yn cerdded drwy ei bywyd ac yn cefnogi ei theulu; roeddan nhw’n gwneud y stori’n addas i’r rhan o’r corff roedd y plant yn ei lanhau – ac oedd o’n biwtiffwl!
“Roedd fy llygaid i reit wlyb, a wnes i sbïo draw at Gwion, y cynhyrchydd, ac oedd o’n beichio crio oherwydd bod y plant ’ma mor gyfforddus ac yn cael eu trochi yn storis eu hen nain.
“I ni yn y gorllewin mae hynna i gyd yn edrych yn amharchus ac yn ddi-chwaeth, ond iddyn nhw dyna ydi’r ffordd gywir o ymdopi a ‘gwneud’ marwolaeth achos mae’n anrhydeddu’r ymadawedig.
“Rydyn ni'n mynd i bellter i osgoi gweld corff sy’n edrych ‘fatha’i fod wedi marw: 'da ni’n embalmio nhw, eu coluro nhw a dweud eu bod nhw’n cysgu.”
3. NOR – Compostio Dynol neu Amddaearu
“Mi wnaeth hwn chwalu mhen i gymaint! I’r graddau fod pethau yn fy mywyd i yn mynd i newid; dwi’n gwybod rŵan mai dyma ydw i eisiau,” meddai Kristoffer.
“NOR ydi natural organic reduction, sef Terramation - Amddaearu yn Gymraeg, neu gael dy droi yn ddaear.”
Yn y ganolfan yma mae’r corff yn cael ei roi mewn blwch gyda gwellt, llwch lli a blodau ac o fewn 30 diwrnod, oherwydd y gwres aruthrol sy’n cael ei greu yn naturiol, mae’r corff wedi torri i lawr yn gyfan gwbl.
Ymhen 30 diwrnod arall, ar ôl cael ei gymysgu gyda’r esgyrn sydd wedi eu chwalu’n llwch, mae’r cyfan wedi troi’n bridd. Mae wedyn yn cael ei roi i’r teulu i’w ddefnyddio fel compost.
“Wnaethon ni siarad efo dynes oedd wedi colli ei mab drwy hunanladdiad a wnaethon ni eistedd yna a bwyta salad roedd o wedi ei ‘dyfu’,” meddai Kristoffer.
Roedd y wraig, meddai Kristoffer, yn edrych ar ei gardd ac yn teimlo bod ei mab yno’n rhan ohoni yn y coed a’r blodau.
4. Sylweddoli bod ffordd arall
Wedi dros 30 mlynedd yn gweithio yn y diwydiant marwolaeth cafodd Kristoffer sylweddoliad bod y ffordd rydyn ni’n trin ein meirw, yn ei hanfod, yn annaturiol.
“Dwi’n ymwybodol o’r ffaith nad ydi’r diwydiant marwolaeth yn wyrdd a ddim yn gyfeillgar i’r ecoleg o gwbl. Mae’n defnyddio nwy, mae’n gwenwyno’r ddaear drwy embalming fluid, mae’r beddi’n cael eu leinio efo bric a dydi’r cyrff ddim yn pydru’n iawn; mae 'na gymaint sy’n anecolegol am y diwydiant marwolaeth.
“Beth wnaeth fy synnu i gydag NOR, am y tro cyntaf yn fy ngyrfa ro’n i’n dyst i ddiwydiant sydd, yn fy meddwl i, yn mynd y ffordd iawn. Mae’r blaned yma’n ein bwydo ni, yn gwneud yn siŵr bod ganddon ni bob adnodd rydyn ni ei angen ac wedyn pan rydan ni’n marw, mewn ffordd rydan ni’n troi yn ei herbyn hi.
“Ro’n i’n sefyll yn yr adeilad mawr lle roedden nhw’n gwneud yr human composting yma ac o’n i’n meddwl ‘mae’r cyrff yma’n drysor i’r ddaear, nid yn rhywbeth sy’n mynd i ddefnyddio ei hadnoddau hi’.
“Ar y foment honno wnes i sylweddoli y gallith fy nghorff i fod yn anrheg, ddim yn faich ar y ddaear. Mae’n cyrff ni’n llawn o faeth ac rydyn ni’n wastio’r adnodd yna drwy ei daflu i mewn i ffwrnes neu arch sydd ddim yn mynd i bydru am 100 o flynyddoedd.
“Dwi’n meddwl y bydd NOR yn cael effaith ar y diwydiant yn y tymor hir achos rydyn ni’n rhedeg allan o le i gladdu a does 'na ddim ond hyn a hyn o nwy fedrwn ni ei ddefnyddio i losgi cyrff.”
RHYBUDD: Mae lluniau o gyrff meirw yn rhan nesaf yr erthygl.
5. Yr agosatrwydd rhwng y meirw a’r byw
“Pan mae rhywun yn marw yn ein diwylliant ni, yn yr ysbyty efallai, mae’r teulu yn eistedd efo’r person, mae’r person yn cymryd eu hanadl olaf, mae’r teulu yn cael eu gyrru allan a dydi’r rhan fwyaf o bobl ddim yn gwybod be' sy’n digwydd i’r person yna o’r foment yna ymlaen.
“Maen nhw wedi cael eu cuddio yn rhywle caeedig, sef marwdai, ble ro’n i’n gweithio.
“Maen nhw’n llefydd sy’n codi ofn ar bobl. Mae 'na bellter yn y gorllewin rhyngon ni a chorff marw.”
Ond nid felly mae pethau i bobl y Toraja yn Indonesia.
“Pan ti’n marw yn Tana Toraja, iddyn nhw dwyt ti ddim wedi marw, ti’n berson sy’n sâl neu sy’n cysgu. Mae’r enaid yn dal i fodoli o gwmpas y corff. Mae’r corff yn cael ei gadw yn y tŷ ac yn cael ei fwydo, ei ail-wisgo ac yn cael offrymau o sigaréts a gwin bob dydd mewn arch yn agored.”
Bu’r criw mewn angladd i dad a mab yr oedd eu cyrff wedi bod yn y tŷ ers iddyn nhw farw dair blynedd ynghynt.
Dim ond yn yr angladd, pan mae byffalo yn cael ei aberthu, oedd yn beth digon erchyll i’w weld meddai Kristoffer, mae’r teulu’n ystyried bod y person wedi marw.
“A’r munud oedd hynna’n digwydd roedd y galaru mor ffyrnig yn ei ynni ac yn ei rym, welais i erioed y ffasiwn beth,” meddai am y profiad.
Mae’r angladdau yma’n achlysur cymunedol enfawr sy’n para bron i wythnos. Mae traddodiad hefyd o godi cyrff o’u heirch bob blwyddyn a’u twtio, eu hail-wisgo a rhoi eitemau fel sbectol newydd, sigaréts ac ati iddyn nhw. Mae’n ddathliad o’r hynafiaid gydag awyrgylch ‘rhyfeddol o arbennig’ yn ôl Kristoffer.
“Be' oedd yn bwysig yn y defodau yma oedd eu bod nhw’n gwneud y peth iawn er mwyn iachâd yr ymadawedig – y broses o symud o’r byw i’r marw.”
Sut mae crynhoi profiad y ffilmio?
“Mae wedi bod yn brofiad hollol anfarwol! Dwi’n gobeithio y gwneith pobl werthfawrogi bod 'na wastad ffordd arall o ‘wneud’ marwolaeth,” meddai Kristoffer Hughes. “Ond plîs siaradwch amdano; does na ddim osgoi eich bod yn mynd i farw.
“Ac yn y cyfamser – byw!
“Mae ganddon ni’r anrheg yma o fywyd ac mae o mor sbesial, oherwydd ei fod yn mynd i ddod i ben.
“Felly mae angen chwarae efo pob lliw yn y bocs creons! ‘Na’th o wneud i fi feddwl ‘paid â wastio dy amser’.
“Mae wedi fy newid i fel person ac wedi bod yn brofiad trawiadol a dwys i ni fel criw hefyd. Mae yna rywbeth unigryw yn y berthynas fydd ganddon ni fel criw rŵan, ac roedd hynny’n hollol annisgwyl ac yn rhywbeth dwi erioed wedi ei gael o’r blaen mewn job teledu.”
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd9 Chwefror
- Cyhoeddwyd1 Chwefror