Kneecap: 'Y Gymraeg yn ysbrydoliaeth'
- Cyhoeddwyd
O ddiwedd yr 1960au tan 1998 roedd trais a therfysgaeth yn rhan annatod o fywyd dinasyddion Gogledd Iwerddon.
Ers Cytundeb Dydd Gwener y Groglith (10 Ebrill 1998) mae’r boblogaeth wedi profi cyfnod mwy sefydlog, ble mae’r gwahaniaethau yn parhau ond y trais wedi tawelu.
Mae Kneecap yn fand hip-hop o gymuned gorllewin Belfast, cadarnle gweriniaethol sydd o blaid uno Gogledd Iwerddon â’r Weriniaeth a sefydlu un wladwriaeth i’r ynys.
Mae’r triawd - Mo Chara, DJ Próvaí a Móglaí Bap - yn canu'r mwyafrif o’u caneuon yn yr iaith Wyddeleg, ac maent wedi ennill dilyniant rhyngwladol ers ffurfio yn 2017.
Yma, mae Kneecap yn siarad am eu daliadau gwleidyddol, eu hangerdd tuag at y Wyddeleg, a’r hyn maent yn ei feddwl o’r Gymraeg.
Yn hytrach na chyfyngu ar apêl y band, mae Mo Chara'n credu fod y Wyddeleg wedi bod yn adnodd pwysig i'r band ac yn rhan allweddol o'r llwyddiannau diweddar.
“Oedd ‘na lot o bobl yn dweud bydden ni byth yn llwyddo gan bo' ni’n canu yn y Wyddeleg. Ond y gwir ydy mai'r ffaith bo' ni'n canu'n y Wyddeleg ydy’r rheswm pam bod gymaint o ddrysau wedi agor i ni.
"Rydyn ni’n siarad Gwyddeleg efo’n gilydd ac felly mae canu yn yr iaith yn dod yn hollol naturiol i ni."
Mae Móglaí'n cytuno: “Yn y dechrau doeddan ni’n sicr ddim yn disgwyl llwyddiant tu allan i Iwerddon, achos mae’r sîn hip-hop yn fach yn Iwerddon, heb sôn am hip-hop Gwyddeleg.
"'Nathon ni ddim dechrau canu ar gyfer enwogrwydd, ond ar gyfer ein hardaloedd ni a’n ffrindiau ni. Ond 'dan ni mewn cyfnod ble mae pobl yn gwrando ar gerddoriaeth Arabeg, Basg, Cymraeg a BTS o Korea. Y gwir ydy os fysan ni’n rapio ar y cyflymder 'dan ni’n rapio yn Saesneg bydda neb yn ddeall ni beth bynnag felly waeth ni wneud o’n y Wyddeleg!”
Edmygu'r Gymraeg
Mae'r tri'n ymwybodol o'r brwydro sydd wedi bod yng Nghymru o ran y Gymraeg, ac yn dweud bod sefyllfa'r Gymraeg yn un maen nhw eisiau ei efelychu.
“Pan o’n i yn yr ysgol dwi’n cofio ni gyd yn edrych ar Gymru a meddwl pa mor dda oeddech chi’n amddiffyn yr iaith," meddai Mo, "ac roedd o wastad yn ein hysbrydoli ni wrth edrych ar ddeddfwriaeth ag ati.”
Mae DJ Próvaí (yr aelod yn y balaclafa) yn cyd-fynd â hyn: “Roedden ni’n gweld pa mor wrthryfelgar oedd y Cymry’n rhwygo arwyddion uniaith Saesneg i lawr, y gwaith oedd Cymdeithas Yr Iaith yn ei wneud, ac roedd S4C yn sbardun i ni sefydlu TG4.”
Sefydlwyd y sianel Wyddeleg TnaG (Teilifís na Gaeilge) yn 1996, cyn iddi gael ei hailenwi'n TG4 yn 1999.
Mae Móglaí wedi gweld dros ei hun y Gymraeg yn cael ei defnyddio gan bobl ifanc yng Nghymru: “Mae’r Eisteddfod wedi bod yn mynd 'mlaen ers blynyddoedd maith wrth gwrs, ac mae gennym ni ein fersiwn ein hunain bellach, er ei bod hi lot llai.
"Cyn i ni ffurfio Kneecap tua saith neu wyth mlynedd yn ôl es i i’r Eisteddfod. Dwi’n cofio mynd i Maes B ble roedden nhw’n chwarae’r gerddoriaeth electronig ‘ma ac o'n i'n meddwl fod hi’n anhygoel gweld y bobl ifanc ma’n cysylltu gymaint efo’u hiaith drwy gerddoriaeth fodern.”
Gwyddeleg tu hwnt i'r dosbarth
Er bod y ddarpariaeth o addysg Wyddeleg wedi ehangu dros y blynyddoedd diweddar mae'r band yn cydnabod bod yna her i annog plant i ddefnyddio'r iaith tu hwnt i dir yr ysgol.
Dywed Mo: “Fel yng Nghymru, mae’r iaith weithiau’n cael ei gweld fel pwnc yn yr ysgol.
"O ganlyniad i hyn mae ‘na glybiau ieuenctid Gwyddeleg wedi agor yng ngorllewin Belfast, ac maen nhw'n gwneud argraff fawr."
Mater o flaenoriaethu ydy hi wedi bod yn hanesyddol, yn ôl Móglaí: “Roedden ni’n brwydro am amser hir i gael addysg Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon ac fe gafodd yr ysgol gynradd Wyddeleg gyntaf ei hagor yn 1972, a’r ysgol uwchradd gyntaf yn 1981.
"Felly, roedd yr adnoddau a’r ymdrech i gyd yn mynd tuag at yr addysg yn y dosbarth a doedd ‘na ddim lot o feddwl am bethau i gwneud yn y Wyddeleg tu allan i’r ysgol."
Mae DJ Próvaí'n gwybod am yr hanes o wahardd y Gymraeg o'r dosbarth, ac mae'n dweud bod hanes debyg yng Ngogledd Iwerddon. “Dwi’n gwybod oedd gennych chi’r Welsh Not yma, ac roedd yr un peth yn wir i ni hefyd - roedd plant yn cael y gansen neu'r ffon yn yr ysgol am siarad Gwyddeleg.
"Ond erbyn hyn mae’r holl beth ‘di troi mewn cylch, ble roedd pobl yn cael eu curo ac efo cywilydd o’r Wyddeleg, bellach maen nhw’n ei defnyddio ac yn falch o’i siarad.”
Mae'r band yn ymwybodol iawn bod heriau ieithyddol yn rhan o broblemau ehangach sy'n plethu nifer o wahanol agweddau, fel tai fforddiadwy i'r ifanc a swyddi i bobl leol.
“Mae’n rhaid chi fod yn barod i dorri’r rheolau weithiau," meddai Mo. "All y Wyddeleg ddim aros yn iaith fach draddodiadol neis efo ffidlau a chwpanau o dê – neith hynny ddim ysbrydoli neb."
Mae sefyllfa'r Wyddeleg yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon i'r statws yn y Weriniaeth, ac mae Mo yn credu ei fod yn fwy o safiad i'w siarad yn y gogledd.
“Mae'n rhaid i chi gofio bo' ni 'di diodda 100 mlynedd yn fwy o ormes ddiwylliannol na nhw yn y de."
Mae Móglaí'n credu ei fod hi'n iach, ac yn angenrheidiol, fod pobl o bob cefndir yn siarad Gwyddeleg.
“Mae 'na ddelweddau gwahanol o’r iaith, ond y gwir ydy fod o’n bwysig cael y siaradwyr gwahanol; y w****** dosbarth canol yn Nulyn, y ‘sgỳm’ dosbarth gweithiol a phawb yn y canol, gan gynnwys yr hogia ar y ffermydd. Falle bo’ ni ddim yn cytuno ar wleidyddiaeth ond allwn ni o leia’ anghytuno tra'n siarad Gwyddeleg!
“Dim ysbrydoli pobl oedd y prif amcan pan nathon ni ddechrau canu i ddweud gwir – y prif amcan oedd i fwynhau defnyddio’r iaith. Dydy’r rhan fwya’ o’r bobl yn ein gigs ni ddim yn siarad Gwyddeleg, ond maen nhw falle’n gwybod y gytgan, ac mae hynny’n grêt. Doedd y bobl yma ddim yn meddwl bod yr iaith yn rhywbeth iddyn nhw, ond wrth gwrs dydy hynny ddim yn wir, 'dan ni isio i bawb fwynhau'r iaith."
'Kneecap' y ffilm
Er bod y band wedi bodoli ers saith mlynedd, mae enwogrwydd y band wedi ffrwydro yn dilyn rhyddhau'r ffilm ddiweddar, Kneecap.
Cafodd y ffilm ei rhyddhau yn gynharach eleni gydag aelodau o'r band yn chwarae eu hunain, ynghyd ag actorion mwy profiadol fel Michael Fassbender, Josie Walker a Simone Kirby. Cafodd y ffilm ei dangos gyntaf yng Ngŵyl Ffilm Sundance ym mis Ionawr.
Mae'r rheswm pam fod DJ Próvaí'n gwisgo balaclafa ar y llwyfan yn cael ei esbonio yn y ffilm, ac mae bellach yn rhan ganolog o ddelwedd y band.
“Un peth dwi’n gobeithio bod y ffilm yn gwneud ydy annog pobl tu allan i Iwerddon i fynd nôl i’w ieithoedd brodorol nhw a’u defnyddio nhw - mae 'na ormod o ieithoedd lleiafrifol yn cael eu colli,” meddai DJ Próvaí.
Ffans unoliaethol
Er bod hanes o raniadau dyfn iawn yng Ngogledd Iwerddon, mae'r band yn dweud bod rhai pobl o'r 'ochr arall' bellach yn eu dilyn.
“Ers i’r ffilm gael ei rhyddhau mae ‘na lot mwy o bobl yn deall be' 'di’r syniad o Kneecap", meddai Móglaí.
"Bysa rhywun o’r ochr unoliaethol ddim yn gwrando ar ein cerddoriaeth ni fel arfer, achos y ddelwedd. Ond ers i’r ffilm gael ei rhyddhau rydyn ni ‘di cael negeseuon gan artistiaid hip-hop o’r ochr unoliaethol sydd eisiau dysgu’r iaith a dod i ‘nabod y diwylliant Wyddeleg. Am amser hir roedden nhw wedi eu hamddifadu o’r diwylliant yma achos y syniad y byddai dysgu’r Wyddeleg yn gwanhau eu diwylliant nhw.
“Ond mae ‘na agwedd gan lawer o’r unoliaethwyr bellach sy'n dweud ‘rydyn ni ar yr ynys ‘ma ers 500 mlynedd, pam na alla i ddysgu am yr hanes a bod yn Brydeiniwr ac yn Wyddel?’”
Mae DJ Próvaí yn ategu i beth mae Móglaí'n dweud: “Mae ‘na bobl fel Linda Ervine o ddwyrain Belfast - sydd ddim yn ardal ble mae’r Wyddeleg yn cael ei siarad fel arfer - sy'n ymgyrchu dros yr iaith a’r diwylliant Gwyddelig.
"'Nath hi helpu i sefydlu clwb Cymdeithas Athletau Gwyddelig (GAA) yn nwyrain Belfast, a hefyd ysgol gynradd Wyddeleg. Mae’r bobl yma’n derbyn nad yw siarad Gwyddeleg yn difetha eich hunaniaeth Brydeinig, unoliaethol.
"Dwi’n meddwl bo' hynny’n wir am Gymru hefyd – mae ‘na rai sy’n siarad Cymraeg ac sy’n falch o fod yn Brydeinwyr."
Pwysigrwydd hiwmor
“Mae’r traddodiad o adrodd straeon yn gryf iawn yn Iwerddon" meddai Mo, "felly dyna ‘dan ni’n trio ei wneud drwy ein cerddoriaeth. Hip-hop ‘di un o’r genres mwya’ yn y byd a dweud straeon yn rhan bwysig ohono, felly mae’r iaith a’r gerddoriaeth yn mynd yn dda efo’i gilydd."
Rhan bwysig o adrodd stori Kneecap yw i ddefnyddio hiwmor, fel esboniai Móglaí.
“Mae hiwmor yn ffordd o ddelio gyda phethau difrifol yn Iwerddon, ac mae pobl yn ymateb yn well i bethau os 'da chi’n gwneud rhywbeth gyda hiwmor.
"Mae caneuon Gwyddeleg rhan amlaf â rhywbeth eitha’ depressing amdanyn nhw, ond mae ‘na draddodiad o ddefnyddio hiwmor hefyd - ac mae hyn yn wir o’r Rebel Songs. Mae defnyddio hiwmor yn ffordd o adennill pŵer a chymryd rheolaeth dros ein hanes ein hunain, a dyna’r traddodiad rydyn ni’n trio ei efelychu."
Mae Mo Chara hefyd yn gweld pwysigrwydd hiwmor wrth gyfleu negeseuon gwleidyddol.
“Mae pobl ‘di cael llond bol o gerddorion a phobl yn llygaid y cyhoedd yn pregethu o hyd, felly mae’n bwysig i ddefnyddio comedi. Allwch chi ddim cymryd eich hunain o ddifri yn Iwerddon, ac os ydych chi mae peryg ‘newch chi droi fewn i Bono.”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddrodeb:
- Cyhoeddwyd30 Medi
- Cyhoeddwyd12 Awst 2023
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023