'Melin Melyn yn therapiwtig ar ôl colli Dad'

Aled Glynne a'i fab Gruff GlynFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Y diweddar Aled Glynne Davies a'i fab Gruff Glyn

  • Cyhoeddwyd

Wrth i un o fandiau mwyaf difyr Cymru gyhoeddi manylion eu halbwm cyntaf, mae ‘na dristwch tu cefn i’r cyffro gan na fydd un o’u ffans mwya’ o gwmpas i’w werthfawrogi.

Ond fe fydd Aled Glynne Davies o hyd yn rhan o hanes grŵp ei fab gan fod y record wedi ei gyflwyno er cof amdano. Ac mae Gruff Glyn, prif leisydd Melin Melyn, yn sicr y byddai'n falch iawn ohonyn nhw.

Ffynhonnell y llun, CLARE MARIE BAILEY
Disgrifiad o’r llun,

Gruff Glyn: "Er bod ni’n cael lot o hwyl, 'da ni’n gymryd o o ddifrif."

Mae wedi bod yn ddwy flynedd i’w gofio, ac anghofio, i Gruff.

Mae ei grŵp Melin Melyn wedi denu sylw cynyddol ar y cyfryngau ac wedi bod yn perfformio ar draws Prydain, yr Iseldiroedd, ac mewn gwyliau di-ri.

Maen nhw ar fin gwneud gwibdaith o Gymru ar benwythnos 4-6 Hydref - gan chwarae yng Nghasnewydd, Arberth a Bethesda - er mwyn dathlu rhyddhau eu sengl newydd Fantastic Food ar 2 Hydref. Ac mae nifer o gigs eraill ar y gweill dros y misoedd nesaf i hyrwyddo eu halbwm cyntaf Mill on the Hill fydd allan fis Mawrth.

Ond yn gysgod dros y cyfan mae nos Calan 2022, pan chwalwyd byd Gruff wedi i’w dad fynd ar goll ger ei gartref yng Nghaerdydd.

Cafwyd hyd i gorff cyn-olygydd Radio Cymru rai dyddiau yn ddiweddarach, ac ym mis Medi 2024 daeth cwest i’r casgliad bod Aled Glynne Davies wedi marw'n ddamweiniol ar ôl syrthio i Afon Taf.

'Roedd Dad wrth ei fodd efo'r band'

Trwy’r cyfnod mae’r band wedi bod yn ddihangfa i Gruff.

“Mae bod yn y band wedi bod mor therapiwtig a chathartig. Mae o wedi bod yn help mawr i fi," meddai.

“Roedd Dad wrth ei fodd efo’r band ac oedd o’n rhan hanfodol… roedd o’n dilyn ni bob man, ac roedd Mam a Dad - a Mam yn dal i roi - llety i’r band.”

Ymysg yr holl deyrngedau i Aled Glynne wedi ei farwolaeth, roedd sôn am ei synnwyr digrifwch a’i hoffter o dynnu coes, felly does ryfedd bod grŵp sydd mor chwareus a llawn hwyl at ei ddant.

Meddai Gruff: “Mae genno ni EP o’r enw Happy Gathering ac os ti’n edrych ar y llun mae ‘na rywun wedi gwisgo fel gafr yn y llun ar flaen yr EP - a Dad ydi hwnnw.

“’Da ni wedi rhoi er cof am Dad - er cof am Aled Caled - ar yr albym newydd sy’n dod allan.

“Un o’n hoff ganeuon i ar yr albym ydi Pigeon and the Golden Egg a phan ddaeth o draw yma ym mis Rhagfyr cyn iddo fo farw… nesh i ddeud ‘tyrd yma Dad, dwi 'di sgwennu demo newydd, be’ ti’n feddwl o hon?’ Ac roedd o wrth ei fodd efo hi.”

Ffynhonnell y llun, Edie Morris
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r EP Happy Gathering yn cynnwys pedair cân, gan gynnwys Nefoedd yr Adar a Hold the Line. Mae'r band yn sgwennu caneuon Cymraeg a Saesneg

Ffurfiwyd Melin Melyn yn 2019, ac fel gyda melin go iawn, mae ‘na fwy yn mynd ymlaen na sy’n amlwg ar yr olwg gyntaf.

Mae’r gerddoriaeth - sydd wedi ei ddisgrifio fel pop a chanu gwlad seicadelic - yn chwareus, ond yn gelfydd. Mae’r geiriau yn codi gwên - ond tydi’r pynciau ddim yn rhai ffwrdd â hi. Mae Jelly vs Blomonj yn trafod tor-calon dwys ac I Paint Dogs yn sôn am wneud gwaith di-ddim i ddal dau ben llinyn ynghyd.

“Er bod y gerddoriaeth yn gallu cael ei glywed fel rhywbeth doniol a ddim yn ddifrifol o gwbl, mae ‘na lwythi o bynciau difrifol - os mai dyna be ydi serious - yn ein caneuon ni, tydi nhw ddim yn ganeuon comedi,” meddai Gruff.

“Mae gen ti rywun fel y Welsh Whisperer sy’n wych am wneud be’ mae o’n 'neud, mae gen ti Flight of the Conchords yn wych yn neud be’ ma' nhw’n 'neud. Does ‘na r'un un cân dwi 'di sgwennu yn bwrpasol i fod yn ddoniol.”

Dechrau band am y tro cyntaf yn 32 oed

Er bod cerddoriaeth wedi bod yn rhan bwysig o fagwraeth Gruff, Melin Melyn ydi ei fand cyntaf - sy’n anarferol i rywun yn ei 30au.

“Pan o’n i tua 32 - classic story - mynd trwy dorcalon, trwy breakup ac wedyn meddwl 'stwffia hyn, wnâ i ddechrau sgwennu caneuon',” meddai.

“Nesh i sgwennu Jelly Vs Blomonj - eto cân mae pobl yn chwerthin arni ond cân am fod yn hollol isel ar ôl mynd trwy breakup, ond dwi wrth fy modd efo hi.

"Wedyn cychwyn chwarae efo boi o’n i wedi cwrdd yn y caffi o’n i’n gweithio ynddo fo o’r enw Will (Barratt), sydd rŵan yn un o fy ffrindiau agos i a sy’n chwarae gitâr yn y band.

“Roedd Cai (Dyfan) a fi wedi cael sesiwn o chwarae cynt achos roedd o wedi cynllunio drama o’n i wedi bod ynddi yn y Sherman ac wedyn pigo pobl eraill (Garmon Rhys, Rhodri Brooks a Dylan Morgan) i fod yn involved a dyna ni!”

Ffynhonnell y llun, Edie Morris
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Mill on the Hill yn cael ei ryddhau fis Mawrth 2025. Meddai Gruff: "'Da ni wedi rhoi lot fawr iawn o waith fewn i'r albym"

Actorion ydi Gruff a'r gitarydd Garmon Rhys, ond pan mae rhywun yn dibynnu ar actio am ei fara menyn, weithiau mae’n rhaid chwilio yn rhywle arall am flawd. Felly fe ddatblygodd Melin Melyn fel ffordd o gael bod yn greadigol yn hytrach nag eistedd o gwmpas yn disgwyl i’r ffôn ganu i gynnig gwaith.

Gyda’r aelodau yn byw yng Nghaerdydd, Bryste, Caernarfon a Llundain, a dau efo plant, tydi trefnu ymarferion ddim yn hawdd. Ond pan maen nhw’n cyfarfod i ymarfer maen nhw'n gweithio'n galed, meddai Gruff.

Ffrwyth eu llafur ydi Mill on the Hill, albym gysyniadol lle mae pob aelod o’r band yn felinwr sy’n gorfod cadw’r felin i droi ym mhentref Melin. Nid blawd, ond cerddoriaeth sy’n cael ei gynhyrchu gan y melinwyr.

“Mae pobl weithiau yn cwestiynu gwerth cerddoriaeth ond y ffaith ydi mae pawb angen cerddoriaeth yn eu bywyd - dwi’n grediniol o hynny," meddai.

"Mae’r syniad yma o be' fasa’n digwydd i bentref Melin petai’r felin yn stopio. Felly 'dan ni’n creu gymaint o gerddoriaeth â gallwn ni er mwyn cadw pawb yn hapus.”

'Pethau da yn dod allan o rywbeth mor drist'

Un sydd ddim o gwmpas i'w fwynhau, wrth gwrs, fydd tad Gruff.

“Y gwir amdani ydi mi fasa’r albym wedi gallu dod allan yn gynt ond dwi byth yn difaru ar bethau fel yna yn sbïo nôl," meddai Gruff. "Mae’r albym yma allan pan mae o fod i ddod allan ac mi fasa Dad mor, mor falch ohona ni gyd.

"Roedd o’n meddwl y byd ohona ni gyd, roedd o’n meddwl y byd o’r band - fasa fo wrth ei fodd. Bechod bod o ddim yma, ond mae efo ni - in spirit.”

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cyn ymuno gyda'r BBC fel newyddiadurwr yn 1978 roedd Aled Glynne yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth Mynd am Sbin ar Sain Abertawe

Ac er cymaint y golled, mae Gruff yn cael cysur yn ei brofiad ers ei brofedigaeth. Fel ei felinwyr dychmygol sy'n creu'r gerddoriaeth sy'n angenrheidiol i fywyd, yn y byd go iawn mae 'na bobl go iawn yn creu cariad i leddfu'r boen a gwneud pethau ychydig yn haws.

“Nid jest y fi a’n nheulu i a’n ffrindia fi a’r band sy’n mynd trwy alar - mae o’n rhywbeth mae pawb yn mynd drwyddo fo.

“Dwi wedi ymuno â chymuned newydd o alarwyr ac mae ‘na gysur i’w gael yna a ti’n dysgu pethau newydd. Dwi’n cwrdd â phobl newydd, ti’n gweld perthnasau yn wahanol.

“Mae ‘na lot o bethau da i ddod allan o rywbeth mor drist a dwi’n meddwl bod lot o hynny yn dod hefyd achos pa mor hyfryd oedd Dad ac mai dyna’r rhodd ti’n ei gael.”

Pynciau cysylltiedig