Geraint Jones: O'r Parc Cenedlaethol i'r Eisteddfod Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
“Helpu pobl yw’r peth pwysicaf i mi, nid oes gen i unrhyw ddiddordeb mynd i baffio ‘da neb.”
Dyna eiriau Geraint Jones o Bontyglasier, Sir Benfro.
Fel arfer ar ôl ymddeol mae pobl yn arafu i lawr ychydig, ond mae'n well gan Geraint gadw’n brysur.
Ers ymddeol o’i waith gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae Geraint yn gweithio fel swyddog diogelwch, ond nid yw’n or-hoff o’r gair ‘bownser’.
Mae o hefyd yn gweithio i fecws lleol yn Aberteifi yn ystod y dydd ac yn arolygwr drysau yn y nos ac ar benwythnosau.
Mae’n byw bywyd i'r funud yn dilyn cyfnod o salwch difrifol yn 2020; ar ôl goroesi hynny, mae’n benderfynol o wneud y mwyaf o fywyd gyda’i ddiddordebau a’i fywyd.
'Cadw’r ddysgl yn wastad'
Dechreuodd Geraint weithio i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro nôl yn 1980.
“Parcmon o’n i i ddechrau, warden yn y bôn yn gyfrifol dros adran ogleddol y parc rhwng Llandudoch, Abergwaun, Cwm Gwaun a mynyddoedd y Preseli," meddai.
Ar ôl rhyw dair blynedd cafodd swydd Swyddog Cyswllt Amaeth ei greu.
"Roeddwn yn gwybod yn syth wedyn mai dyna’r swydd i mi, a bues i’n gwneud y swydd honno nes i mi ymddeol yn 2020," meddai.
"Cadw’r ddysgl yn wastad rhwng y gymuned amaethyddol a’r gymuned gadwriaethol o'n i yn y bôn ac roeddwn wrth fy modd yn gwneud hynny."
Un o brif ddiddordebau Geraint y tu allan i'r gwaith oedd cerddoriaeth fyw.
Roedd yn arfer bod yn aelod o’r band Rocyn, yn canu ac yn chwarae’r gitâr ac roedd yn gyfaill agos iawn i'r diweddar Richard ac Wyn Jones o Ail Symudiad.
Gwelodd gyfle i allu mynd i gyngherddau a gwyliau i fwynhau cerddoriaeth fyw a chael ychwaneg o arian am wneud hynny hefyd drwy gwblhau ei gymwysterau diogelwch.
“Dwi wrth fy modd gyda cherddoriaeth byw a mynd i gyngherddau ac mae cael bod yn swyddog diogelwch yn y gwyliau a’r cyngherddau yma’n wych.
"Dwi’n cael gwylio’r bandiau a sicrhau fod pobl eraill yn cael mwynhau'r bandiau yn ddiogel hefyd.” meddai.
Yn ôl Geraint cafodd y cyfnod clo effaith mawr ar wyliau a chyngherddau cerddorol, ond mae'n falch nawr o allu helpu mewn rhai o’r gwyliau mawr sy'n dechrau ffynnu eto.
"Dwi wedi bod yn lwcus iawn yn cael gweithio mewn gwyliau fel Tafwyl a gigs eraill yn ne Cymru a gweld bandiau ardderchog," meddai.
"O ran gweithio fel arolygydd drysau, does gen i ddim diddordeb ymladd gyda neb dim ond ceisio rhesymu.
"Dwi’n gwneud y gwaith yma nawr ers sawl blwyddyn a dwi’n credu mai dim ond un waith dwi wedi cael fy mwrw i’r llawr a hynny mewn gŵyl ger Tyddewi, ond doedd dim modd rhesymu gyda’r bachan yna.
“Mae siarad gyda phobl yn rhesymol ac yn gymedrol yn rhan o’r swydd a dyna’r ffordd o gael pobl i weld synnwyr weithiau cyn i bethau fynd rhy bell."
Cyfnod o salwch
Daeth cyfnod ansicr ym mywyd Geraint nôl yn 2020. Ychydig fisoedd cyn dyddiad ei ymddeoliad, cafodd ei daro’n ddifrifol wael.
Wrth edrych nôl dros y cyfnod hwn, mae Geraint yn ystyried ei hun yn eithriadol o lwcus ei fod dal yma.
Mae'n diolch pob dydd am wybodaeth drylwyr un meddyg ifanc dan hyfforddiant wnaeth syfrdanu'r doctoriaid profiadol yn Ysbyty Hwlffordd gyda'i diagnosis.
"Doeddwn i ddim wedi bod yn teimlo fel fi fy hun ers sbel," eglurodd.
"Doeddwn methu siarad, gweld na sefyll, roeddwn yn siŵr fy mod wedi cael strôc.
“Erbyn cyrraedd yr ysbyty ac ar ôl cael profion di-ri, daeth cadarnhad gan y doctoriaid nad strôc oedd e, ond doedden nhw methu deall beth oedd y cyflwr."
Cafodd ddiagnosis o’r cyflwr Miller-Fisher Syndrome sy’n effeithio ar y cyhyrau, gyda'r system awto-imiwnedd yn troi ar y corff, a hynny gan fod un doctor penodol yn digwydd bod yn sefyll ar bwys ei wely.
“Dwi'n ei chofio hi'n iawn. Roedd hi'n sefyll gyda chriw o ddoctoriaid profiadol oedd yn ceisio gweithio mas beth oedd yn bod gyda fi.
"Sefyll yn y cefndir yn arsylwi oedd hi, a'r peth nesaf dyma hi'n dweud ei bod hi'n credu mai Syndrom Miller-Fisher oedd arna i.
"Roedd hyd yn oed y doctoriaid profiadol wedi’u syfrdanu, ond wedi rhagor o brofion, a galwad ffôn i uned arbenigol yn Nhreforys, roedd hi’n llygaid ei lle."
Bryd hynny roedd cyflwr Geraint yn gwaethygu ac mae'n grediniol y gallai ei sefyllfa fod wedi bod llawer gwaeth os nad oedd y meddyg ifanc honno yn gweithio'r diwrnod hwnnw.
Ar ôl derbyn y driniaeth gywir daeth Geraint yn ôl at ei hun a dechrau mwynhau bywyd eto.
Roedd wedi ymddeol o'r Parc erbyn hyn ac yn chwilio am waith i'w gadw'n brysur yn ystod y dydd.
Gwelodd hysbyseb i ddosbarthu bara ar ran busnes becws newydd yn Aberteifi.
Nawr mae'n gweithio i gwmni Crwst ac yn dosbarthu nwyddau ar draws y sir ac yn mwynhau bod allan unwaith eto yn gyrru o amgylch sir mae'n ei adnabod mor dda.
O ran y gwaith diogelwch mae'n parhau i weithio mewn gwyliau cerddorol ac yn gweld bandiau enwog a rhai llai adnabyddus.
"Dyna sy'n grêt am y gwaith hwn, dwi'n cael amrywiaeth o fandiau.
"Nes i weithio yn Neuadd y Frenhines Arberth un flwyddyn a gweld band o'r Alban o'r enw The Haggis Horns. Roedden nhw'n arbennig," meddai.
Yn ogystal â'r gigs cerddorol, mae hefyd yn mwynhau gweithio mewn ralis Ffermwyr Ifanc ac yn benodol yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Mae'r cwmni dwi'n gweithio iddyn nhw gyda chytundeb 'da'r Eisteddfod a dwi'n joio cael bod yno yn cwrdd â phobl a'u helpu nhw mas os oes raid."
Bwriad Geraint at y dyfodol yw byw bywyd i'r funud a mwynhau'r holl brofiadau mae'n eu cael drwy ddosbarthu bara a chael bod yn swyddog diogelwch.
Yn barod mae ganddo un llygad ar fis Awst 2026. Dyna pryd bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Sir Benfro ac mae'n edrych ymlaen at gael rhoi'r siaced oren lachar ymlaen eto yn ei fro enedigol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Medi
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2023
- Adran y stori