Grace Coddington: O Fôn i Vogue

  • Cyhoeddwyd

Yn y gyfres ddogfen newydd In Vogue: The 90s ar Disney+, yng nghanol modelau a sêr byd-enwog fel Kate Moss, Naomi Campbell, Marc Jacobs, a Nicole Kidman a mwy mae Cymraes o’r enw Grace Coddington.

Ffynhonnell y llun, Sean Zanni
Disgrifiad o’r llun,

Grace Coddington yn 2023

Efallai nad yw’r enw yn gyfarwydd iawn i chi ond heb os mi fydd hi wedi dylanwadu ar yr hyn sydd yn eich wardrob.

Mae hi’n fwyaf adnabyddus am ei gwaith gyda’r cylchgrawn Vogue. Gweithiodd gyda fersiwn Brydeinig y cylchgrawn o 1968 ble y bu hi am 19 o flynyddoedd gan weithio’i ffordd fyny i rôl Cyfarwyddwr Ffasiwn. Ymunodd â thîm y fersiwn Americanaidd yn 1988.

Am dros chwe degawd mae hi wedi gweithio ar lefel uchaf y byd ffasiwn a gyda rhai o ffotograffwyr a dylunwyr enwoca’r byd.

Ffynhonnell y llun, Disney+ UK
Disgrifiad o’r llun,

Naomi Campbell – un o fodelau enwocaf y 90au ac un o sêr y gyfres In Vogue: The 90s

Magwraeth ym Môn

Cafodd ei geni yn 1941 a’i magu yn Ynys Môn ble bu hi’n byw am 18 mlynedd gyntaf ei bywyd. Roedd ei theulu’n rhedeg gwesty ym Mae Trearddur, The Trearddur Bay Hotel.

Cafodd addysg breifat mewn ysgol gatholig-Ffrengig, Convent du Bon Sauveur, ger Caergybi a Ffrangeg, nid Saesneg ac yn sicr nid Cymraeg, oedd yn cael ei siarad.

Dywedodd yn ei chofiant, Grace: A Memoir (2012), bod ei mam, a oedd wedi'i geni yng Nghanada ond wedi'i magu ym Môn yn ceisio'u hannog hi a'i chwaer i beidio ystyried eu hunain yn Gymry ond fwy fel ymfudwyr o Swydd Derby.

Ond, o Fôn y daw hi ac mae'r ynys a Chymru wedi bod yn ysbrydoliaeth iddi sawl gwaith.

Ffynhonnell y llun, Anhysbys
Disgrifiad o’r llun,

Gwesty Bae Trearddur fel ag yr oedd pan roedd teulu Grace yn rhedeg y lle

Yn ei chofiant hefyd mae’n sôn am deithio ar y bws i Gaergybi i brynu copi o Vogue, ac am fynd i sinema y dref i wylio’r ffilmiau diweddaraf ble cai ei chyfareddu gan harddwch a glamor y sgrin fawr.

Câi ei hysbrydoli gan y byd hwnnw, ac mae'n ymhelaethu yn y cofiant ei bod hi'n ceisio gwneud dillad tebyg i'r rhai soffistigedig a welai ar y sgrin fawr, a'i bod hi wedi gwneud y rhan fwyaf o'i dillad ei hun pan oedd hi yn ei harddegau gan nodi:

"Ro'n i'n defnyddio patrymau Vogue a ffabrigau o Polykoff's, sef siop ddillad enfawr yng Nghaergybi."

Ffynhonnell y llun, Evening Standard/Hulton Archive/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Grace yn 1967

Ond fel nifer o bobl, gyda’i bryd ar fywyd mwy cyffrous na’r hyn y cynigiai pentref bach glan-môr yn ngorllewin Môn fe symudodd i Lundain. Cyrhaeddodd y ddinas fawr yn 1959 gyda dim ond llond cês bychan glas o eiddo, a thaleb wedi’i dorri o gefn rhifyn o Vogue yn cynnig cwrs pythnefnos i “drawsnewid bywyd” yn ysgol fodelu Cherry Mashall yn Mayfair.

A thrawsnewid ei bywyd y gwnaeth!

Dechreuodd fodelu yn fuan ar ôl symud. Enillodd gystadleuaeth Model Ifanc Vogue 1959.

Aeth yn ei blaen i ymddangos ar glawr Vogue sawl tro ond y tu ôl i’r camera y dyheai fod.

Ffynhonnell y llun, Peter Rand
Disgrifiad o’r llun,

Clawr Vogue Prydain, Medi 1, 1962

Er ei bod yn rym tyngedfennol yn llwyddiant Vogue, yn enwedig yn y nawdegau, ni ddaeth yn enw adnabyddus tan 2009 mewn ffilm ddogfen o’r enw The September Issue, a oedd yn dilyn helynt tîm American Vogue yn rhoi rhifyn mis Medi 2007 at ei gilydd.

Ffynhonnell y llun, Evan Falk/WWD/Penske Media drwy Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Anna Wintour gyda Grace Coddington yn ystod Wythnos Ffasiwn Efrog Newydd yn 2017

Yn fan hyn y gwelwyd ei pherthynas ag Anna Wintour – golygydd Vogue (a’r ysbrydoliaeth tu ôl i gymeriad Meryl Streep yn The Devil Wears Prada yn ôl y sôn).

Creodd argraff fawr ar y gwylwyr fel yr unig un a fyddai’n anghytuno ag Anna!

Wrth siarad am Grace yn y gyfres In Vogue: The 90s, mae Anna Wintour yn dweud:

"Ro'n i'n teimlo'n lwcus i'w chael hi yn Vogue. Roedd ganddi lygaid nad ydw i'n honni sydd gen i. Roedd hi'n gweld pethau nad oedd llawer ohonon ni'n ei weld, a hi oedd yn eu gweld nhw gyntaf."

Môn mam... ffasiwn?

Un sydd wedi dilyn gyrfa Grace, ac wedi llwyddo ym myd ffasiwn ei hun, yw Elin Mai.

Ffynhonnell y llun, Elin Mai

Mae Elin yn un o sefydlwyr cwmni Style Doctors ac yn gweithio fel ymgynghorydd ffasiwn ar draws sawl safle. Mae hithau yn un o Fôn hefyd, a chafodd ei sylw hi ei ddenu gan Grace am amryw resymau.

“’Nes i glywed am Grace Coddington tua 25 mlynedd yn ôl, pan o’n i’n coleg a dwi wedi dilyn ei gyrfa hi o hynny ymlaen.

“Pan ti’n dod o Sir Fôn – dydy o ddim yn fashion capital of the world – a ti’n clywed am rywun sydd wedi bod yn llwyddiannus ac yn dod o rwla mor fach â Sir Fôn, ac yn un o’r bobl mwyaf eiconig yn y byd ffasiwn, wedyn ti’n meddwl: reit, mae hyn yn bosib, ella fedrith hogan fach o Langristiolus ’neud o yn y byd ffasiwn hefyd os ydy rhywun fel Grace Coddington wedi gallu.”

Ffynhonnell y llun, Michael Loccisano/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn sioe Casgliad Calvin Klein, Gwanwyn 2016 gyda Anna Wintour a Kendall Jenner

“Be’ oedd yn unigryw amdani oedd bod hi’n cael gwthio boundaries bob tro. Oedd hi’n dod allan efo petha’ doedd neb wedi’i ’neud o’r blaen.

"Ganddi hi oedd y vision. Fysa hi’n dod fyny efo thema, yn cysylltu efo designers oedd efo casgliadau oedd yn mynd efo’r thema a wedyn fysa hi’n tynnu popeth at ei gilydd i ddweud stori efo’r llunia’."

Erbyn hyn meddai Elin, mae dylanwad hysbysebu ar gylchgronau mor enfawr dydy’r "prestige oedd gan shoots" y gorffennol ddim bellach yn bodoli ar y fath lefel.

“Oedd [Grace efo Vogue] mewn cyfnod ofnadwy o dda yn y 90s a’r 00s – oedd gynno nhw budgets massive, oedden nhw’n gallu cael models amazing, a mynd i lefydd amazing. Dydi hynny ddim yn digwydd gymaint ddim mwy.”

Ysbrydoliaeth i Gymry eraill?

“Ella bod hi’m yn siarad Cymraeg, ond mae hi yn dweud ‘Dw i o Sir Fôn’, mae’n hi’n falch o ddod o Sir Fôn.

"Mae lot o bobl yn meddwl bod rhaid i chdi dyfu fyny yn rhywle lle ti’n subjected i lot o ffasiwn i fod yn y byd ffasiwn. Os oes rhywun yng Nghymru yn meddwl ‘oce 'sna ddim llawer o siopa o gwmpas, a 'swn i wrth fy modd gweithio mewn ffasiwn’ – mi fyswn i'n dweud mae o’n bosib.

"Achos oedd gan Grace access i lot llai bryd hynny a mae hi wedi cael gyrfa huge.

"Mae hi wedi cael dylanwad enfawr ar y byd ffasiwn, ac ella fedar rhywun arall o Sir Fôn fod mor ddylanwadol â hi [yn y dyfodol] hefyd!”

Pynciau cysylltiedig