Beti George: ‘Mae’r rhaglen yn golygu popeth i fi’
- Cyhoeddwyd
“Dwi’n mwynhau pob cyfweliad ac mae’n dod o’r galon.”
I ddathlu 40 mlynedd o’r rhaglen Beti a’i Phobol ar Radio Cymru, mae’r gyflwynwraig Beti George wedi bod yn hel atgofion am rai o’i gwesteion.
Meddai’r ddarlledwraig, sy’ wedi bod yn wyneb ac yn llais cyfarwydd ar deledu a radio ers yr 1970au: “O’n i ddim yn meddwl y bydde fe’n para am 40 mlynedd ond mae fel ddoe i 'weud y gwir. Mae’r blynyddoedd yn hedfan.
“Mae’n neis bod y rhaglen yn cael sylw gan ei bod hi wedi para cyhyd.
“Mae’n golygu popeth i fi. Yr oedran ydw i, dwi mor falch bod fi’n cael y cyfle i' neud hyn achos mae fe’n cadw’n ymennydd i i weithio. Ac mae mor bwysig wrth bod un yn heneiddio i gadw fynd ac i wneud pethe ac mae rhaglen fel hyn yn rhoi hynny.”
Mae’r rhaglen wedi darlledu bob blwyddyn ers 1984 ac erbyn hyn mae Beti wedi trafod bywydau cannoedd o westai, yn bobl enwog ac yn bobl sy'n disgleirio mewn amryw o feysydd.
Meddai: “Mae gan bob un stori ac wrth gwrs mae’r straeon yn amrywio. Ac alla’i ddweud mai prin iawn yw'r bobl hynny dwi’n ffeindio’n anniddorol.
"Y gwir yw bod fi’n mwynhau bob un.”
Bu Beti yn trafod rhai o’i gwesteion mwyaf cofiadwy gyda Cymru Fyw.
Steffan Lewis, Aelod Seneddol Plaid Cymru
I fi yr un sy’n sefyll mas ac i fi mae hwn yn Rhif 1 - Steffan Lewis.
Siaradais i ag e yn Rhagfyr 2018 ac oedd e wedi marw o fewn mis i'r sgwrs - roedd ganddo ganser y coluddyn ac oedd e’n gwybod fod y diwedd yn dod. Doedd hi ddim yn raglen morbid, oedd Steffan mor bositif ac fe aeth e drwy’r cyfan o safbwynt ei iechyd - y ffordd ‘nath e ymateb i’r deiagnosis a phethau fel hyn.
Yn aml mae dyn yn meddwl, a ddylen i drafod pethau fel hyn ar raglen fel Beti, ond o’n i mor falch fod Steffan yn croesawu’r cyfle i siarad yn agored. Roedd e’n dweud fod e wedi trafod ei afiechyd o’r dechrau yn agored ac oedd e’n dweud gymaint o gysur oedd pobl wedi gael (o hynny).
Roedd pobl oedd e ddim yn adnabod yn cysylltu gyda fe ac wedi ffurfio grŵp o bobl oedd yn mynd trwy’r un fath o brofiad. Ac roedd y grŵp yn cysylltu gyda’i gilydd drwy’r amser ac yn siarad am beth oedd yn digwydd ac yn cefnogi ei gilydd ac oedd e’n dweud fod hwnna wedi bod yn cymaint o gymorth iddo fe i ddelio â’i sefyllfa.
Roedd e wir yn ysbrydoledig ond o’n i’n meddwl, dyma seren y dyfodol o safbwynt gwleidyddiaeth a gymaint o golled oedd hi. Felly bydden i’n ei roi e ar ben y rhestr.
Y bardd R.S Thomas
Rhaid i fi enwi R.S Thomas. Roedd e’n un o’r enwogion ac hefyd dwi’n credu mai dyna’r tro o’n i mwya’ nerfus i fynd i holi rhywun oherwydd o'n i'n meddwl am y llun ohono fe’n pwyso ar ddrws stabl gyda’r llygaid yna â dim cynhesrwydd ynddyn nhw a finne ddim yn arbenigwr ar farddoniaeth yn enwedig barddoniaeth Saesneg.
Ond pan gyrhaeddon ni’r stiwdio ac oedd e’n disgwyl amdano ni ym Mangor oedd e’r dyn mwya’ cynnes ac yn fodlon ateb unrhyw gwestiwn. A gafon ni hwyl yn gwneud y ddwy raglen. Mi wnes i enjoio mas draw.
Y cerddor David ‘Datblygu’ Edwards
Unwaith eto do’n i ddim yn 'nabod Dave 'Datblygu' ond o’n i’n gwybod am ei drafferthion e ac o’n i’n hoff iawn o’i gerddoriaeth a’r ffordd oedd e’n edrych ar y Cymry. O’n i’n cytuno gyda popeth oedd e’n dweud bron.
Fe es i lawr i Aberteifi i gwrdd ag e ac oedd e newydd ddod mas o’r ysbyty, oedd e’n mynd i’r ysbyty yn weddol gyson achos oedd e’n dioddef o afiechyd meddwl. Fe wnes i fwynhau ei gwmni. O’n i jest ishe rhoi cwtsh iddo fe achos o’n i’n gwybod fel oedd e, oedd yr alcohol wedi achosi gymaint o drafferthion iddo fe. Fe gelon ni gyfweliad ac oedd e wedi mwynhau y cyfweliad hefyd.
Y cerddor Lleuwen Steffan
Ar Beti a’i Phobol ‘nath Lleuwen Steffan gyhoeddi am y tro cyntaf ei thrafferthion hi gyda iechyd meddwl a gwneud hynny mor agored a didwyll. Dwi ddim yn credu bod pobl wedi sylweddoli yr uffern mae hi wedi bod trwyddo fe.
Yr Athro Geraint Jones
Y pynciau sy’n cael eu trafod ar y rhaglen sy'n ddiddorol. Achos pan mae dyn yn trin pynciau sy’ mor ddieithr i fi, er enghraifft gyda Yr Athro Geraint Jones o Brifysgol Llundain – i feddwl fod ‘na asteroid wedi ei enwi ar ei ôl e a fod ei enw yn y Guinness Book of Records am ddarganfod comet gyda’r gynffon hiraf erioed.
Y darlithydd Dr Nia Wyn Jones
‘Nath Nia Wyn Jones drafod bod yn traws mewn ffordd mor ddealladwy.
I bobl oedd yn gwrando bydden i’n meddwl eu bod nhw’n deall achos bod hi’n esbonio’r peth mor agored.
Y digrifwr Dewi ‘Pws’ Morris
Fe wnes i fwynhau gyda Dewi Pws - fe oedd gwestai Nadolig cynta’r gyfres. Y peth cynta’ wedodd e oedd: 'os na ti’n galw fi’n ti, yna dwi ddim yn neud y rhaglen'. Felly oedd rhaid i fi alw e’n ti.
O’n i’n gyfarwydd ‘da fe beth bynnag – oedd ei rieni wedi bod yn gefn i fi pan o’n i’n dechrau darlledu yn Abertawe. Oedd hi’n braf cael cwmni Dewi ac mae’n golled enfawr.
Sgwrsiodd Beti gyda Dewi eto ar gyfer pennod arall o Beti a'i Phobol yn 2008.
Y cyfarwyddwr Yassa Khan
Oedd Yassa Khan mor annisgwyl, yn sôn am ei gefndir e yn cael ei fagu yng Nghaernarfon. Roedd ei dad mewn a mas o’r carchar.
‘Nath e brofi hiliaeth ac oedd e’n sôn am fod yn fab i droseddwr oedd yn y carchar mwy na heb – oedd e mor ddiddorol. Roedd y storiau oedd gyda fe yn anhygoel felly mae’n werth sôn am Yassa.
Mae e’n cynhyrchu ffilmiau erbyn hyn ac mae ‘na stori arbennig am ei ffilm cyntaf, Pink. Roedd e yn y brifysgol yn Lerpwl a’i dad yn dod mas o’r carchar ac aeth e i gwrdd â fe mewn car. Yn bwt y car mi oedd ‘na ddegau o filoedd o arian oedd wedi cael ei nodi fel arian oedd wedi cael ei ddwyn ac felly oedd ‘na rhyw nod pinc ar bob un o’r papurau ‘ma.
Aeth tad Yassa i ryw fflat gyda Yassa ac oedd ei dad yn gwybod ffordd i gael gwared ar y nodyn pinc ‘ma fel bod e’n gallu defnyddio’r arian papur. Yn y bath oedd yr arian papur ac roedd dŵr y bath yn troi’n binc a dyna pam mae Yassa wedi galw’r ffilm yn Pink.
Ac mae e wrthi yn neud fersiwn hir o fywyd ei dad. Mi wnes i fwynhau ei gwmni e, oedd e mor annisgwyl.
Y cyflwynydd Dai Jones
Un o’r nosweithiau mwyaf doniol dwi wedi bod ynddi, o flaen cynulleidfa yn Bow Street, oedd gyda Dai Jones – oedd e ar ei orau. Oedd straeon ffantastig gyda fe ac wrth gwrs oedd e’n chwarae i'r gynulleidfa.
O’n i’n trafod marwolaeth gyda fe a dwi’n cofio gofyn iddo pwy fydde fe’n lico cwrdd ac oedd e’n gobeithio fydde fe ddim yn cwrdd â rhai pobl! Oedd e mor ddoniol.
Y cerddor Cerys Hafana
‘Nes i fwynhau Cerys Hafana yn fawr. Oedd hi’n ddiddorol iawn. Mae pobl yn meddwl am Beti fel rhaglen sy’n siarad efo hen bobl ond dyw hynna ddim yn wir o gwbl. Dwi wrth fy modd yn holi pobl ifanc.
Mae Cerys Hafana yn un o’r rhai cofiadwy achos mae wedi cydio yn y delyn deires ac wedi trawsnewid ei sŵn. Mae hi'n arbrofi, a dyna be' dwi’n licio gyda cherddorion.
Mae’n rhaid symud ymlaen, mae’n rhaid arbrofi, mae’n rhaid mentro. Dyna pam dwi’n mwynhau cwmni pobl ifanc yn fawr iawn.
Mewn rhaglen arbennig i nodi 40 mlynedd o Beti a'i Phobol ar Radio Cymru am 6pm nos Sul 6 Hydref, Beti George sy'n holi ei mab Iestyn George am ei waith gyda'r cylchgronau NME a GQ, yn marchnata’r Manic Street Preachers yn y dyddiau cynnar ac am ei fagwraeth ganddi hi. Fe gyflwynodd Jamie Oliver i sylw'r byd, ac roedd yna ar ddechrau perthynas David a Victoria Beckham. Mae bellach yn darlithio yn Brighton ac yn dad i ddau.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2019