Galw am gysondeb o ran ffioedd cartrefi gofal ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Dylai pob awdurdod lleol yng Nghymru dalu’r un faint am lefydd mewn cartrefi gofal, yn ôl corff sy’n cynrychioli’r sector.
Mae'r swm yn cael ei osod gan gynghorau, ac mae Fforwm Gofal Cymru yn dweud bod gwahaniaeth enfawr rhwng siroedd.
Dywed perchnogion cartrefi fod hynny’n effeithio ar safon y gofal y gallen nhw ei gynnig, ac y gallai arwain at gau mwy o gartrefi.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y Swyddfa Gofal a Chymorth Genedlaethol yn edrych ar roi methodolegau ffioedd cenedlaethol ar waith i sicrhau cysondeb ond y bydd cyfraddau yn amrywio oherwydd ffactorau lleol.
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd12 Mehefin
Mae ffioedd cartref gofal Orme View yn Llandudno wedi codi eleni, ynghyd â phob cartref arall yn y sir.
Daw hynny ar ôl i'r cyngor lleol - Conwy - dorri ffwrdd o system lle’r oedd holl gynghorau gogledd Cymru yn cytuno i osod eu ffioedd gyda’i gilydd.
Ers mis Ebrill, mae Sir Conwy yn gosod ffioedd yn seiliedig ar gyngor aseswr annibynnol, oedd yn awgrymu y dylai'r pris fod yn lawer uwch nag y bu.
Dywedodd Steffan Robbins o gartef gofal Orme View fod y cynnydd wedi gwneud gwahaniaeth: “Rwy’n meddwl ei fod yn gam anhygoel, positif ymlaen.
"Mae Conwy wedi cymryd y cam hwnnw i asesu gwir gost gofal a gwneud yn siŵr eu bod yn darparu ffi sy’n fforddiadwy iddynt, ond hefyd ffi sy’n adlewyrchu’r costau gwirioneddol yr y’n ni’n gweld yn y sector," meddai.
'Siomedig iawn'
Mae’r Hen Ficerdy yn Llangollen yn cael miloedd o bunnoedd y flwyddyn yn llai i bob preswylydd na’r un yn Llandudno, oherwydd mae’n dibynnu ar y ffioedd sy’n cael eu gosod gan y cyngor lleol, Sir Ddinbych.
Er ei fod wedi cynyddu eleni, mae’n llawer llai o'i gymharu â Chonwy.
Bellach mae’r ffioedd am y gofal fwya' sylfaenol yng Nghonwy yn £846 y mis, ond dim ond yn £774 y mis yn Sir Ddinbych.
Dywed Bethan Mascarenhas, sy’n rhedeg y cartref, bod y gwahaniaeth yn golygu mai codi ffioedd ychwanegol ar breswylwyr yw’r unig ffordd i gael dau ben llinyn ynghyd.
"Mae’n siomedig iawn fel darparwr gofal," meddai.
"Fel rhywun sydd wedi buddsoddi’n fawr yn y gwaith y’n ni’n ei wneud, ni wir yn ymdrechu i roi’r lefel orau o ofal o safbwynt bwyd gwych, diod dda, gweithgareddau da, pethau sy’n bwysig i ni, ac yn anffodus mae’r rhaniad rhwng y ffioedd yn gwneud gwahaniaeth i'r hyn gallwch ei ddarparu.”
Dywed Fforwm Gofal Cymru, y sefydliad ymbarél ar gyfer cartrefi gofal Cymru, fod hyn yn tanseilio cartrefi mewn ardaloedd lle nad yw’r ffioedd mor uchel ag y dylen nhw fod, a bod angen i’r anghydraddoldeb ddod i ben.
Dywedodd y cadeirydd, Mario Kreft fod angen i'r swyddfa genedlaethol newydd "sicrhau bod gennym ni gydraddoldeb ledled Cymru, bod o leiaf lefel sylfaenol o gyllid yn cael ei gytuno ar draws yr holl awdurdodau lleol a’r byrddau iechyd.
"Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o loteri côd post,” meddai Mr Kreft.
'Cyfyngiadau ariannol heriol'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: “Rydym wedi gweithio’n galed i daro’r cydbwysedd bregus rhwng ymdopi â chyfyngiadau ariannol heriol a sicrhau ein bod yn cynnal dyfodol cynaliadwy i’r sector gofal yn y sir.”
Dywedon nhw nad oedd "tystiolaeth a gyflwynwyd yn awgrymu bod cyfraddau ffioedd awdurdodau lleol gwahanol yn effeithio ar ddiddyledrwydd cartrefi gofal yn y sir.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Swyddfa Gofal a Chymorth Genedlaethol sydd newydd ei sefydlu nawr yn archwilio dichonoldeb rhoi methodolegau ffioedd cenedlaethol ar waith i sicrhau cysondeb.
"Nid yw hyn yn golygu fodd bynnag y bydd un gyfradd ffioedd genedlaethol ar draws Cymru.
"Bydd cyfraddau ffioedd yn amrywio oherwydd ffactorau lleol fel gwerthoedd tir ar gyfer cartrefi gofal."
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, yr Aelod Plaid Cymru o'r Senedd fod angen "trawsnewid" gwasanaethau gofal.
"Mae'n rhaid i ni weld y llywodraeth yn gwneud hyn yn flaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gennym ni wasanaeth gofal cenedlaethol - fel bod gofal am ddim ar gael i unigolion, fod gweithwyr yn y sector yn derbyn tal teg a bod yna sicrwydd y bydd ein hanwyliad yn derbyn y gofal sydd ei angen arnyn nhw."
Yn ôl Sam Rowlands, Aelod Ceidwadol o'r Senedd, mae'r system bresennol yn golygu fod gwasanaethau gofal yn gweithio yn erbyn gwasanaethau iechyd.
"Mae cannoedd ar gannoedd o wlâu ysbytai yn llawn ar hyn o bryd gan nad yw pobl yn gallu derbyn y gwasanaethau gofal y maen nhw eu hangen.
"Mae angen i'r llywodraeth ryddhau'r gwlâu hynny drwy sicrhau fod gan awdurdodau lleol yr arian sydd ei angen arnyn nhw i allu talu cartrefi gofal yn deg.
"Fyddai hynny'n golygu na fyddwn ni'n gorfod gweld cartrefi gofal yn cau a rhestrau aros yn gwaethygu."