Y Gymraeg, iaith ein plant?

- Cyhoeddwyd
Mae'r dasg o fagu plant yn Gymry Cymraeg mewn ardaloedd y tu allan i gymunedau naturiol Cymraeg wedi profi'n un heriol i sawl rhiant.
Er hyn, mae nifer o Gymry sy'n byw dramor wedi sicrhau bod yr iaith yn cael ei throsglwyddo o un genhedlaeth i'r nesaf.
Mae teulu Gwydion Lyn yn un o 12 sy'n cael sylw yn y gyfrol Iaith Heb Ffiniau gan Sioned Erin Hughes - llyfr am deuluoedd sy' wedi magu eu plant yn Gymry Cymraeg mewn amrywiol leoliadau ledled y byd.
Magu Cymry ym Mrwsel
Mae Gwydion bellach wedi ymgartrefu ac yn gweithio ym Mrwsel. Mae ei efeilliaid Mari a Fflur, sy'n 10 oed, yn rhugl yn y Gymraeg, yn ogystal â Fflemeg, Ffrangeg a Saesneg.
"O'n i heb feddwl na fyddwn ni ddim yn byw yng Nghymru, ond â dweud hynny doeddwn ni ddim wedi meddwl chwaith na fyddwn i byth yn gadael," meddai Gwydion sy'n wreiddiol o Gaerdydd ac Abertawe.
"Ond doedd e' ddim yn gwestiwn o gwbl a fyddwn i yn magu'r plant yn siarad Cymraeg."

Mae'r teulu erbyn hyn yn byw yn Vossem ar gyrion y brifddinas Brwsel
Cafodd ei wraig, Elin, ei magu yn Plymouth ond roedd ei theulu yn wreiddiol o Betws ger Rhydaman. Roedd yn gweithio i'r llywodraeth a hi gafodd y cyfle i fynd ar secondiad i'r Comisiwn Ewropeaidd ym Mrwsel yn 2012.
"'Roedd Elin yn gwbl gefnogol. Roedd yna ddealltwriaeth y byddwn i yn siarad Cymraeg gyda'r efeilliaid a byddai hi yn siarad Saesneg a Ffrangeg.
"Mae Elin wedi bod ar gwrs Wlpan ac roedd hi'n gallu darllen i'r plant ifanc pan oedden nhw'n iau."

Roedd teledu Cymraeg yn help mawr wrth geisio magu'r plant yn yr heniaith
Cymorth y cyfnod clo
Dywedodd fod sicrhau mai dim ond teledu Cymraeg roeddent yn ei glywed yn y blynyddoedd cynnar wedi bod o fudd mawr wrth ddysgu'r iaith. Hefyd, yn annisgwyl, roedd y cyfnod clo yn ystod Covid yn gymorth wrth gryfhau'r iaith.
"Mewn un ffordd fe wnaeth cyfnod Covid ein helpu, pan oedd y plant yn iau doedd yna ddim ysgol.
"Bryd hynny doedd dim gwaith cartref, a byddai Mam a Dad yn rhoi awr a mwy o'u hamser drwy Facetime bob pnawn a hynny wrth sgwrsio yn Gymraeg a hwiangerddi ac ati.
"Heb hynny byddai'r Gymraeg ddim mor gryf ag mae nawr."

Mae'r efeilliaid Mari a Fflur yn mynchu ysgol cyfrwng Fflemeg ym Mrwsel
Rhugl mewn Fflemeg
Ond mae yna heriau o hyd, meddai Gwydion.
Mae'r plant yn mynychu ysgol Fflemeg-ei-hiaith ym Mrwsel, a dyna hefyd yw iaith y buarth wrth i blant chwarae gyda'i gilydd.
"Mewn un ystyr, erbyn nawr, mae angen mynd i lefel uwch - mae'n nhw'n dweud eu bod yn gwybod am air yn y pen wrth sgwrsio yn Gymraeg, ond bod hynny yn Fflemeg, a'u bod yn gorfod holi am y gair Cymraeg.
"Pan dwi'n gofyn i'r plant pa iaith mae nhw'n siarad yn gyntaf y drefn yw Fflemeg, Saesneg, Cymraeg ac yna Ffrangeg.

Gwydion, Fflur a Mari gyda Mam-gu a Tad-cu
"Ond mae'r iaith yn helpu'r plant for yn ymwybodol o ddiwylliant y teulu.
"Maen nhw wedi cael y cyfle i ddysgu'r iaith; os daw hi pan mae'n nhw'n 18 oed i ddweud 'na'i ddim ei ddefnyddio eto', dyna fydd, ond o leiaf mae nhw wedi cael y cyfle."
Dywed y golygydd Sioned Erin Hughes ei bod yn gobeithio y bydd Iaith heb Ffiniau yn "ffisig i'r galon" ac er y sôn am dranc y Gymraeg gan rai fod yna "gymaint i'w ddathlu yn dal i fod" wrth i'r 12 teulu adrodd eu gwahanol straeon.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd10 Mai 2017
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2023