Chwedl y delynores, y ceiliog a'r creision ŷd

Disgrifiad,

Wyddoch chi fod na gysylltiad posib rhwng y delynores Nansi Richards a chreision ŷd?

  • Cyhoeddwyd

Mae wedi ei gyhoeddi fod y cwmni Kellanova - oedd gynt yn cael ei alw yn Kellogg Company - yn agor 'ffatri grawnfwyd fwyaf Ewrop' yn Wrecsam.

Ond wyddoch chi am y cysylltiad tipyn hŷn rhwng y cwmni grawnfwyd a Chymru; y stori mai Cymraes oedd tu ôl i'r syniad o gael ceiliog ar focs Corn Flakes?

Disgrifiad o’r llun,

Nansi Richards; telynores Maldwyn ac arbenigwraig marchnata Kellogg's?!

Yn ôl y sôn, roedd y delynores Nansi Richards yn ymweld ag America, pan aeth i gartref Will Kellogg, sefydlydd y cwmni.

Roedden nhw'n ceisio meddwl am ffordd o farchnata'u cynnyrch, ac fe awgrymodd 'Delynores Maldwyn' y dylen nhw ddefnyddio ceiliog, oherwydd y tebygrwydd rhwng enw'r cwmni a'r gair Cymraeg.

Ymddangosodd y masgot, Cornelius Rooster, ar y bocsys grawnfwyd am y tro cyntaf yn 1957, gyda'i liwiau coch a gwyrdd yn brawf pellach o'i wreiddiau Cymreig.

Mae'r ceiliog ar focs Corn Flakes ers hynny, ac yn logo adnabyddus ledled y byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ceiliog 'Cymreig' Kellogg's

A oes gwirionedd i'r stori yma? Wel... o bosib ddim. Oes prawf pendant? Nagoes.

Ond pam sbwylio stori dda gyda'r gwir?!

Pynciau cysylltiedig