Gosod camerâu cyflymder ar yr A5104 yn Sir Ddinbych
- Cyhoeddwyd
Fe fydd camerâu cyflymder yn cael eu gosod ar ffordd yn Sir Ddinbych mewn ymgais i leihau gwrthdrawiadau.
Mae pedwar gwrthdrawiad angheuol ac 18 gwrthdrawiad difrifol wedi digwydd dros gyfnod o dair blynedd ar yr A5104 rhwng Corwen a Phontblyddyn.
Mae disgwyl i'r gwaith o osod y camerâu ddechrau ar y ffordd 11 milltir o hyd ddydd Mercher, a'i gwblhau erbyn dydd Gwener.
Mae'r datblygiad yn dilyn nifer o dreialon aflwyddiannus i geisio lleihau'r uchafswm cyflymder.
Dywedodd aelod o gabinet Cyngor Sir Ddinbych, Brian Jones: "Mae pob sefydliad sydd wedi bod yn ymwneud â'r datblygiadau ar y ffordd yma wedi bod yn edrych ers peth amser am ddatrysiad i'r sefyllfa yma, ac i wella diogelwch i ddefnyddwyr y ffordd."