Enwebiad i ffilm Gymraeg myfyriwr am fywyd fferm deuluol
- Cyhoeddwyd
Mae ffilm ddogfen fer Gymraeg am fywyd teuluol mewn pentref gwledig ger Aberystwyth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Teledu Myfyrwyr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng Nghymru.
Fe gynhyrchodd Meleri Morgan Dwy Chwaer a Brawd y llynedd fel prosiect blwyddyn olaf cyn graddio mewn Drama ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae'r ffilm, sydd wedi ei henwebu yn y dosbarth ffeithiol, yn cael ei disgrifio fel portread dadlennol o fywyd "tri chymeriad arbennig a hoffus iawn" yn eu 80au a 90au.
Dywedodd Ms Morgan, sydd o Fwlch-llan ger Tregaron, bod yr enwebiad wedi ei "synnu'n fawr".
"Pan chi'n gweithio'n galed i orffen darn o waith prifysgol mae'r agwedd greadigol yn gallu diflannu gan eich bod yn canolbwyntio cymaint ar gwblhau'r darn mewn pryd.
"Rwy'n falch bod pobl eraill yn mwynhau'r ffilm gymaint ag y gwnes i fwynhau ei gwneud."
'Cymeriadau arbennig'
"Yn syml, roeddwn yn ceisio dal y tri chymeriad yn eu cynefin.
"Mae wastad diddordeb wedi bod mewn pobl ac yn y genhedlaeth hŷn. Does dim lot o ffilmiau dogfen fel hyn."
Mae'r ffilm 15 munud o hyd yn rhoi cipolwg 'pry ar y wal' ar ddiwrnod yn hanes y ddwy chwaer a brawd wrth iddyn nhw fynd o gwmpas eu gwaith ar fferm deuluol.
"Rwy'n hynod o lwcus fy mod wedi darganfod y stori yma a'r cymeriadau arbennig yma.
"O'r ymateb hyd yma, mae llawer yn dweud bod modd lleoli'r stori unrhyw le yng Nghymru - mae'r golygfeydd a'r cymeriadau yn rhai mae pobl yn eu nabod."
'Rhagoriaeth'
Roedd Ms Morgan yn gyfrifol am yr holl waith camera a golygu.
Fe gafodd y ffilm ei dangos yn wreiddiol yn y Sinemaes ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Modedern.
Mae Dwy Chwaer a Brawd eisoes wedi cael cydnabyddiaeth ar ôl ennill gwobr am y Ffilm Ryngwladol Orau gan Fyfyriwr mewn gŵyl ffilmiau yn Iwerddon fis Medi y llynedd.
Wrth groesawu enwebiad diweddaraf ei chyn-fyfyriwr, dywedodd y darlithydd Cynyrchiadau Cyfryngol, Elin Morse, ei fod yn "adlewyrchiad o ragoriaeth ei gwaith ac yn dilyn ei llwyddiant haeddiannol yng Ngŵyl Ffilmiau Dogfen Wexford".
Mae 14 o ffilmiau wedi eu henwebu mewn pum categori , dolen allanolac fe fydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn Theatr yr Atriwm, Prifysgol De Cymru, Caerdydd ar 31 Ionawr.