Gwrthod cais am siop sglodion 24 awr y dydd Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Siop SglodionFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae siop sglodion Parc Lane ar hyn o bryd ar agor bob nos tan 23:00

Mae Cyngor Caerdydd wedi gwrthod cais i agor siop sglodion 24 awr y dydd gyntaf y DU.

Roedd Parc Lane Fish and Chips ar Heol y Frenhines yng nghanol y brifddinas wedi gofyn am yr hawl i gadw eu drysau'n agored bob awr o'r dydd saith diwrnod yr wythnos, ac i weini alcohol tan hanner nos.

Ond roedd yr heddlu, trigolion a busnesau lleol wedi gwrthwynebu gan ofni y byddai caniatáu'r cais yn arwain at gynnydd mewn sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.

Mae gan y cwmni 21 diwrnod i apelio yn erbyn y penderfyniad ar ôl i'r cyngor wrthod y cais mewn datganiad ysgrifenedig ddydd Llun.