Newid yn y gwynt

  • Cyhoeddwyd

Dyma gwestiwn sy'n hollti'n swyddfa ni lawr y canol ar hyn o bryd. Pwy aiff gynta - Theresa May neu Carwyn Jones? Mae'n amlwg bod awdurdod y ddau arweinydd yn dadmer yn gyflym ar hyn o bryd ond p'un sy'n debyg o syrthio gyntaf?

Gadewch i ni ystyried sefyllfa Carwyn Jones yn gyntaf. Does dim dwywaith bod newid wedi bod yn yr awyrgylch o fewn y grŵp Llafur er troad y flwyddyn.

Yn yr wythnosau poenus hynny rhwng marwolaeth Carl Sargeant a'r Nadolig, roedd y rhan fwyaf o aelodau'r grŵp yn cadw eu pennau lawr gyda theimladau o sioc a galar yn dominyddu popeth.

Gyda threigl amser mae hynny wedi newid. Hyd y gwn i does neb o fewn y grŵp Llafur yn cynllwynio ond mae'r awch am arweinyddiaeth a syniadau newydd yn amlwg. Marwolaeth Carl Sergeant oedd y sbarc efallai ond mae'r anniddigrwydd yn ddyfnach na hynny a does gan Carwyn fawr o gyfalaf gwleidyddol ar ôl ar y meinciau Llafur.

Beth mae hynny'n ei olygu? Beth bynnag oedd ei gynlluniau gwreiddiol, rwy'n amau y bydd Carwyn yn sefyll lawr o fewn y deuddeg mis nesaf. Mae'r union amseriad yn dibynnu i raddau ar gasgliadau'r gwahanol ymchwiliadau i farwolaeth Carl Sargeant ac mae'n anodd credu na fydd y rheiny yn cynnwys o leiaf peth beirniadaeth o'r camau a gymerwyd gan Carwyn Jones. Does dim modd dweud bod 'dim byd o'i le pan mae dyn wedi marw.

O safbwynt yr olyniaeth does dim dwywaith bod y wobr o fewn cyrraedd Mark Drakeford os ydy hwnnw'n ei chwennych. Os ydy Mark yn ei wrthod yna gallwn ddisgwyl i rywun fel Mick Antoniw godi'r cledd Corbynaidd. Yr hyn na fydd yn digwydd yw pleidlais dros barhau ar yr un trywydd - fel y digwyddodd pan olynodd Carwyn Jones Rhodri Morgan. Nid un o'r 'parau saff o ddwylo' - Kens a Vaughans y byd yma fydd yn cyrraedd y brig.

Yn y cyfamser, ar ben arall yr M4 diffyg olynydd amlwg sydd wedi diogelu Theresa May hyd yma - ond mae rhwystredigaeth Ceidwadwyr San Steffan yn hynod o debyg i deimladau Llafurwyr y Bae. Crisialir y peth yn yr hashnod y mae ambell i aelod Ceidwadol wedi dechrau defnyddio i ddisgrifio'r llywodraeth #DullDullDull. Fel dywedodd rhywun, 'mae pob change yn newid' ac rydym yn agosáu at drothwy lle fyddai unrhyw newid o gwbwl yn gam poblogaidd ar y meinciau cefn.