Dirwy i fwyty ar ôl i fachgen ddioddef alergedd difrifol

  • Cyhoeddwyd
ty ashaFfynhonnell y llun, Google

Mae bwyty yn Llanrwst wedi derbyn dirwy o £4,000 ar ôl iddyn nhw weini pryd yn cynnwys cnau i fachgen 16 oed sydd ag alergedd difrifol.

Roedd perchnogion bwyty Tŷ Asha Balti, sy'n gyn-enillydd bwyty cyri gorau Cymru, eisoes wedi pledio'n euog i dorri rheolau diogelwch bwyd mewn gwrandawiad blaenorol.

Clywodd Ynadon Llandudno ddydd Mawrth fod grŵp o bobl wedi ymweld â'r bwyty ac wedi rhybuddio'r staff na ddylai'r bachgen fwyta cnau daear.

Fe wnaeth y bachgen 16 oed ddioddef "adwaith alergaidd difrifol" ac roedd yn rhaid iddo gael dau frechiad EpiPen cyn cael ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd yr amddiffyniad fod powdr cnau daear wedi'i archebu i'r bwyty mewn camgymeriad yn hytrach na'r powdr almon arferol, a'i fod wedi ei gynnwys yn y cyri.

Er bod mesurau diogelwch yn eu lle, dywedodd cadeirydd y fainc nad oedd y cogydd wedi sylwi mai powdr cnau daear oedd wedi'i gynnwys yn y pryd.

Fe ddyfarnwyd £500 o iawndal i'r bachgen a chostau o £2,400 i'r erlyniad.