'10 mlynedd' i wella system draffig Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion busnes ardal Abertawe wedi cael gwybod y gallai'r cynlluniau i wella rhwydwaith drafnidiaeth yr ardal gymryd o leiaf deg mlynedd.
Mae yna sôn wedi bod am gael metro rhanbarthol ar gost o £1bn i ardal ehangach ac mae disgwyl i astudiaeth ar ymarferoldeb hynny ddigwydd ym mis Ebrill.
Byddai hynny yn cynnwys gwella cysylltiadau rhwng y ffordd a'r rheilffordd ond mae busnesau yn teimlo bod modd gwneud rhai gwelliannau cyn hynny.
'Ateb tymor hir yw hwn'
Mae Gweinidog yr Economi Ken Skates wedi dweud bod yn rhaid i bobl fod yn 'realistig' am yr amserlen.
Wrth annerch perchnogion busnesau yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe dywedodd Mr Skates: "Mae'r cyfan yn dibynnu ar faint y weledigaeth, mae hefyd yn dibynnu ar natur rhai prosiectau penodol a phryd y gellid bwrw ymlaen â'r gwaith.
"Rhaid i ni fod yn 'realistig'. Gall gymryd 10 mlynedd neu fwy. Mae hwn yn ateb tymor hir i drafnidiaeth y rhanbarth."
Ychwanegodd: "Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn cymryd cam yn ôl a chyflwyno cynllun sy'n addas i'r dyfodol nid un sy'n ceisio gwella yr hyn sy'n bodoli eisoes."
Mae nifer o opsiynau i wella traffig o gwmpas Abertawe a'r ardal wedi cael eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys system tram a thrên un gledren.
Mae arweinydd cyngor Abertawe, Rob Stewart, yn credu y dylai'r arian ddod gan llywodraeth y DU wedi iddynt newid meddwl a chanslo'r cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.
"Gollon ni £700m pan ganslwyd y trydaneiddio," meddai.
'Gweledigaeth fawr'
Ychwanegodd Mr Stewart: "Mae angen i beth o'r arian yna os nad y cyfan ddod yn ôl er mwyn cyllido atebion rhanbarthol - yn eu plith astudiaeth ymarferoldeb."
Ond yn y tymor byr galwodd ar y FirstGroup, sy'n rhedeg gwasanaethau bws Abertawe a threnau GWR, i ystyried opsiynau a fyddai'n galluogi teithwyr i ddefnyddio yr un tocynnau ar y ddau wasanaeth er mwyn cysylltu y rhwydweithiau trên a bws.
Dywedodd Mark Youngman o GWR bod integreiddio yn fater "sylfaenol".
Dywedodd Helen Mary Jones, cyfarwyddwr cynorthwyol melin drafod Academi Morgan ym Mhrifysgol Abertawe: "Dy'n ni ddim am aros i'r seilwaith mawr i ddigwydd.
"Rhaid i ni ddechrau gwneud gwelliannau bach nawr ond ar yr un pryd rhaid i ni gael gweledigaeth fawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd20 Medi 2017