Disgybl gydag anableddau yn cael ei adael ar fws ysgol
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio wedi i fachgen ysgol gydag anableddau gael ei adael ar fws ysgol.
Roedd Alex, sy'n 13 oed a gyda Syndrom Down, yn teithio o Ysgol Y Deri ym Mhenarth i'w gartref yn Y Barri.
Fe ddaeth teulu'r bachgen yn bryderus wedi iddo fethu a dychwelyd adref ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
Cafodd y bachgen ei ddarganfod ar y bws yng nghanolfan cwmni bysiau CJ Contract yn Y Barri.
'Dicter a phanig'
Dywedodd ei fam, Victoria Jones, ei bod yn "ddig" a bod y digwyddiad wedi ei rhoi mewn "panig".
Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi ymddiheuro am y digwyddiad gan ddweud eu bod wedi dod a'u cytundeb gyda'r cwmni cludiant i ben.
Ychwanegodd Ms Jones: "Fel rhiant, roedd pob math o bethau yn mynd trwy fy meddwl. Roeddwn yn meddwl efallai ei fod wedi ei ollwng yn y tŷ anghywir neu rywbeth."
Ar ôl cysylltu gyda'r ysgol, fe edrychodd staff ar gamerâu cylch cyfyng a gweld nad oedd Alex wedi mynd oddi ar y bws.
Dywedodd Mrs Jones ei bod hi'n teimlo rhyddhad mawr pan gafodd Alex ei ddychwelyd iddi ychydig dros awr yn ddiweddarach: "Pan welais y bws yn dod, fe wnes i dorri i lawr."
'Methiant annerbyniol'
Dywedodd David Davies, Pennaeth Cyrhaeddiad i Bawb, Cyngor Bro Morgannwg: "Rydym yn flin am yr effaith y mae'r digwyddiad hwn wedi'i gael ar y disgybl a'u teulu.
"Roedd y digwyddiad hwn yn fethiant annerbyniol gan y darparwr cludiant preifat ac fe gafodd ei gontract ar gyfer cludo'r disgybl ei derfynu ar unwaith.
"Mae ymchwiliad i'r digwyddiad bellach yn cael ei gynnal yn unol â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru ac fe fydd camau priodol yn cael eu cymryd yn dilyn y casgliad."
Fe gadarnhaodd Mr Davies fod staff yr ysgol bellach yn darparu cwnsela i'r disgybl.
Mae'r cwmni bysus wedi gwrthod gwneud sylw.