'Angen i Gymru gystadlu i ddenu ymwelwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae diffyg ymwybyddiaeth o Gymru yn cyfyngu ar botensial y diwydiant ymwelwyr yma.
Dyna farn dyn o Gaernarfon sydd â 35 mlynedd o brofiad yn y maes twristiaeth.
Mae Martin de Lewandowicz, sydd wedi bod yn tywys ymwelwyr o gwmpas rhai o brif atyniadau'r gogledd ers yr '80au, yn dweud bod diffyg gwybodaeth elfennol am Gymru yn golygu nad ydy'r wlad yn dod i feddwl y mwyafrif o bobl fel rhywle i ymweld ag o.
Ond yn ôl Martin mae'r rheiny sy'n llwyddo i ddod i Gymru wrth eu boddau hefo'r profiad maen nhw'n ei gael.
"Dwi'n gweithio hefo Americanwyr, ac mae'n syndod i mi, wastad, nad ydyn nhw wedi clywed unrhyw beth am Gymru," meddai.
"Pan maen nhw'n cyrraedd, maen nhw wrth eu boddau yma!
"Mae angen creu rhyw fath o ddelwedd neu syniad o Gymru ar draws y byd. Mae digon o botensial yma ond mae angen strategaeth gliriach ynglŷn â'r hyn sy'n cael ei farchnata - a sut."
Dechrau yng Nghastell Caernarfon
Mae'r arweinydd teithiau o ardal Caernarfon bellach hefyd yn gweithio yn rhai o brif ddinasoedd ac atyniadau cyfandir Ewrop - ac mae'n dweud mai fel dinesydd Ewropeaidd y mae o'n gweld ei hun.
"Daeth fy nhad yma o Wlad Pwyl, ac roedd ei fam yntau yn Ffrances. Roedd Mam yn hanner Cymraes a hanner Saesnes - felly dwi jyst yn meddwl amdanaf fy hun fel un o bobl Ewrop.
"Roeddwn i wedi syrthio mewn cariad hefo archaeoleg, wedi ennill gradd ac yn bwriadu mynd ymlaen i wneud ymchwil.
"Ond pan stopiwyd ariannu ymchwil i raddau helaeth yn yr 80au fe wnes i ddechrau gweithio hefo teithiau tywys o gwmpas Caernarfon fel ffordd o ennill pres.
"Dyma brif geidwad y castell yn dweud wrtha i un diwrnod, 'pam na ddoi di i mewn yma?'
"Mi es i i mewn, a chael cytundeb hefo Cadw. Roeddwn i'n trefnu teithiau mewn pum castell am gyfnod."
Mae Martin bellach yn gweithio gyda chwmni teithiau o America sy'n cael ei redeg gan Rick Steves - cyflwynydd teledu ac awdur sy'n adnabyddus yn y maes twristiaeth yno.
"Dros ugain mlynedd yn ôl fe welodd Rick fi yn gweithio yng Nghastell Caernarfon, a ges i wahoddiad i ymuno hefo'i gwmni fo. A'r dyddiau yma dwi'n gweithio'n bennaf rhwng Inverness yn yr Alban, a Rhufain yn yr Eidal.
"Dwi'n dechrau ym mis Mawrth hefo taith Fenis-Fflorens-Rhufain, wedyn taith o Ewrop, wedyn yr Alban - ddwywaith - ac yna taith i deuluoedd - allan o Lundain a gorffen yn Fflorens."
Hefyd o ddiddordeb
Un o nodweddion teithiau cwmni Rick Steves, sy'n cyrraedd Cymru ar eu ffordd drwy Brydain, ydy ymweliad â fferm yr amaethwr a'r cyflwynydd teledu, Gareth Wyn Jones, yn Llanfairfechan.
"Rydyn ni'n cael teithiau bob dydd Sadwrn dros yr haf a weithiau ar ddydd Llun hefyd," meddai Gareth.
"Mae'n gyfle i bobl ddod yn rhan o'r wlad. Felly maen nhw'n dysgu pa mor bwysig i Gymru ydy ffermio mynyddig, er enghraifft.
"Rydyn ni'n cynnig profiad unigryw iddyn nhw, ac yn dysgu rhyw gymaint o Gymraeg iddyn nhw hefyd er mwyn recordio fideo ar ddiwedd yr ymweliad i'w roi ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae hynny'n help iddyn nhw gofio'r profiad - a hefyd yn help i ni farchnata'r fferm - a Chymru - i weddill y byd."
Gyda thymor gwaith Martin ar fin dechrau am flwyddyn arall, mae ei amserlen eisoes yn llawn.
Ond mae ei angerdd yn amlwg yng Nghymru o hyd.
Mewn arolwg a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn 2016 mae awgrym cryf bod cael profiadau Cymreig, gan gynnwys gweld a chlywed yr iaith Gymraeg, yn rhywbeth sy'n apelio i nifer fawr o ymwelwyr, a bod yr elfennau hynny yn bwysicach i ymwelwyr o dramor nag i rai o weddill y Deyrnas Gyfunol.
Yn ôl Martin, mae ymwelwyr sy'n mynd ar y daith o wledydd Prydain yn aml iawn yn hapus iawn eu bod wedi bod yng Nghymru.
"Yn y sylwadau mae pobl yn eu rhoi ar ddiwedd eu teithiau, mae lot fawr ohonyn nhw'n dweud mai Cymru oedd eu hoff wlad.
"Oherwydd ei fod yn gymaint o syndod iddyn nhw, maen nhw'n gwerthfawrogi'r hyn maen nhw'n weld ac yn ei glywed."