Y Ceidwadwyr i gynnal trafodaethau cyllideb gydag Eluned Morgan

Darren MIllar
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y prif weinidog groesawu cynnig Darren Millar i gynnal trafodaethau yr wythnos diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Bydd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyfarfod â Phrif Weinidog Cymru ddydd Mawrth, ar gyfer trafodaethau cychwynnol i weld a allen nhw ddod i gytundeb ar gyllideb Llywodraeth Cymru.

Mae angen cymorth un o'r gwrthbleidiau ar Eluned Morgan i sicrhau bod cynlluniau gwariant gwerth £27bn yn derbyn cefnogaeth mewn pleidlais yn y Senedd ym mis Ionawr.

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am ddileu y dreth stamp. Mae'n gam anarferol gan nad yw'r blaid fel arfer yn rhan o drafodaethau'r gyllideb yn y Senedd.

Dywedodd ffynhonnell o Lywodraeth Cymru fod y "drws ar agor i bob plaid".

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio am doriadau trychinebus, gan gynnwys "diswyddiadau torfol", os na allen nhw basio'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae hynny am fod y gyfraith sy'n llywodraethu'r Senedd yn gorchymyn toriadau awtomatig os na allai'r Senedd gytuno ar gyllideb.

Mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn dweud eu bod am osgoi hynny - ond y Ceidwadwyr yw'r cyntaf i siarad yn gyhoeddus am unrhyw drafodaethau.

Nos Lun, dywedodd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru nad oes unrhyw drafodaethau'n digwydd rhyngddyn nhw a Llafur ar hyn o bryd.

jane dodds.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jane Dodds ei bod yn "agored i weld sut y gallwn gydweithio i sicrhau bod y gyllideb lawn yn cael ei phasio"

Ond dywedodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ei bod yn "agored i weld sut y gallwn gydweithio i sicrhau bod y gyllideb lawn yn cael ei phasio".

Cefnogodd Ms Dodds Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni, mewn cytundeb oedd yn cynnwys gwaharddiad ar rasio milgwn.

Fe ddigwyddodd hynny cyn marwolaeth AS Llafur Caerffili Hefin David, pan oedd Llafur ond un sedd yn brin o fwyafrif ac yn dibynnu ar un bleidlais ychwanegol.

Mi fydd hi'n anoddach cael mwyafrif os bydd y blaid yn colli isetholiad Caerffili ddydd Iau, gan orfodi Llafur i edrych ymhellach na dim ond y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond mae'n annhebygol y bydd y cyfarfod brynhawn Mawrth rhwng Eluned Morgan a Darren Millar yn arwain at gytundeb ar unwaith.

Ar hyn o bryd, dim ond drafft o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ei wneud nesaf sydd wedi ei gyhoeddi, ac maen nhw wedi gadael £380m o'r neilltu cyn unrhyw drafodaethau gyda'r gwrthbleidiau.

Mae Mr Millar wedi galw am ddileu'r fersiwn Gymreig o dreth stamp, sef y Dreth Trafodiadau Tir.

Mark DrakefordFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford yw'r Ysgrifennydd Cyllid ac mae'n gyfrifol am y broses gyllidebol

Mae Mark Drakeford, sydd fel Ysgrifennydd Cyllid yn gyfrifol am y broses gyllidebol, wedi gwrthod dileu'r dreth yn llwyr, ond mae'n agored i'w diwygio.

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru ac arweinydd y Ceidwadwyr gyfnewid llythyrau ar ôl cynnig cychwynnol Mr Millar yr wythnos diwethaf.

Yn ei llythyr ato, gofynnodd Ms Morgan i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig siarad â Mr Drakeford.

Dywedodd y "byddwn yn falch o gwrdd â chi i drafod y syniadau rydych wedi'u nodi".

"Fodd bynnag, byddwn yn awyddus i'r ysgrifennydd cyllid a llefarydd cyllid eich plaid [Sam Rowlands] gael trafodaethau mwy manwl."

Dywedodd Mr Millar ei fod yn edrych ymlaen at "gyfarfod adeiladol".

Ychwanegodd: "Mae'n hanfodol bod cyllideb Llywodraeth Cymru yn rhoi ein heconomi ar waith ac yn adlewyrchu blaenoriaethau pobl Cymru, nid blaenoriaethau gwleidyddion ym Mae Caerdydd.

"Mae rhan allweddol o'n cynllun i drwsio Cymru yn cynnwys torri trethi, gan gynnwys treth stamp. Bydd hyn yn rhan o'r trafodaethau fydd yn cael eu cynnal."

'Agored i sairad'

Yn ôl ffynhonnell o Lywodraeth Cymru: "Dywedodd y Prif Weinidog yn y Senedd ei bod yn agored i siarad â phob plaid er mwyn osgoi'r canlyniadau dinistriol os na fydd cytundeb cyllideb.

"Mae'r Ceidwadwyr wedi derbyn y cynnig i siarad. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bod mewn cysylltiad yn aml â llywodraeth Cymru drwy eu cytundeb cyllideb y llynedd.

"Mae'r drws ar agor i bob plaid sy'n teimlo y gallan nhw roi eu gwerthoedd ar waith wrth osod cyllideb llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27."

Rhestr lawn o ymgeiswyr isetholiad Caerffili

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Steve Aicheler

Gwlad - Anthony Cook

Y Blaid Werdd - Gareth Hughes

Ceidwadwyr - Gareth Potter

Reform UK - Llŷr Powell

UKIP - Roger Quilliam

Llafur - Richard Tunnicliffe

Plaid Cymru - Lindsay Whittle

  • Gallwch ddysgu mwy am yr ymgeiswyr yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.