Pryder am 'ddisgyblaeth a lles' ysgol yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Dyffryn NantlleFfynhonnell y llun, Eric Jones/Geograph

Mae 'na bryder am "ddisgyblaeth" a lles yn un o ysgolion uwchradd Gwynedd, gyda'r awyrgylch yno wedi ei ddisgrifio fel un "anghyfforddus".

Mae copi o lythyr anfonwyd gan undebau addysg at gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes wedi dod i law rhaglen y Post Cyntaf.

Fe gafodd y llythyr ei anfon gan dri arweinydd undeb addysg fis diwethaf, yn amlygu gofidiau rhai aelodau staff yno.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym yn ymwybodol o ohebiaeth ddiweddar yr undebau athrawon am Ysgol Dyffryn Nantlle.

"Fel sy'n arferol, mae swyddogion o'r cyngor yn darparu cymorth a chefnogaeth arbenigol i'r corff llywodraethol, a byddwn yn parhau i gydweithio efo'r ysgol."

Galw am ymyrraeth?

Yn ôl cynrychiolwyr UCAC, NASUWT Gwynedd a NEU Gwynedd, mae'r sefyllfa mor "ddifrifol" yn yr ysgol, fel eu bod nhw'n ystyried y posibilrwydd o ofyn i'r awdurdod lleol ymyrryd.

Mae'r BBC yn deall bod cyfarfod wedi ei gynnal rhwng rhai cynrychiolwyr o'r undebau a rhai o gorff llywodraethu'r ysgol.

Yn ôl y llythyr fe gafodd pryderon y staff dysgu eu hamlygu i'r Uwch Dim Rheoli fis Tachwedd 2017 am ddisgyblaeth, lles staff a nifer o faterion eraill, ond er hynny mae'r pryderon hyn yn parhau.

Mae'r ohebiaeth yn codi'r pryderon canlynol:

  • Bod staff dysgu'r ysgol yn teimlo dan fygythiad wrth iddynt geisio mynd ati i drafod y materion dan sylw;

  • Bod unigolion yn cael eu targedu yn gwbl ddi-sail a bod hynny wedi arwain at sefyllfa ble mae'n anodd trafod gyda'r pennaeth a hynny'n sicr wedi arwain at ddiffyg hyder ac ymddiriedaeth yn yr arweinyddiaeth;

  • Bod y sefyllfa sydd ohoni'n cael effaith andwyol ar les a morâl staff yr ysgol.

Gwelliannau

Cafodd y llythyr ei arwyddo gan Dilwyn Roberts-Young o UCAC, Sion Amlyn o NASUWT Gwynedd a Neil Foden o NEU Gwynedd.

Mae Garem Jackson, Pennaeth Adran Addysg Cyngor Gwynedd a Mary Hughes, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Nantlle wedi cael copi ohono.

Yn Ebrill 2015 cafodd yr ysgol, sydd â tua 400 o ddisgyblion, ei rhoi dan fesurau arbennig gan y corff arolygu ysgolion, Estyn.

Fe gafodd y pennaeth presennol Alwen Watkin ei phenodi'n 2015.

Mae gwelliannau wedi eu cyflwyno ers ei phenodiad ac ers rhyw flwyddyn mae'r ysgol wedi ei thynnu o fesurau arbennig.