Dewch i grwydro... Dinas Tyddewi yn 30

Cadeirlan TyddewiFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Pan mae rhywun yn cyfeirio at ddinas Tyddewi, un o'r pethau cyntaf sy'n dod i'r meddwl yw'r Gadeirlan enfawr a'i chysylltiad gyda nawddsant Cymru, Dewi Sant.

Mae 30 mlynedd i'r mis hwn ers i Dyddewi dderbyn statws dinas yn swyddogol am yr ail dro yn ei hanes.

Er bod Tyddewi wedi'i nodi'n ddinas ers y 12fed ganrif, fe gafodd ei hisraddio yn 1886.

Mae gan y Brenin neu Frenhines yr hawl i ddyrchafu neu israddio statws dinas unrhyw leoliad.

Yn 1994 fe gyhoeddodd Y Frenhines Elisabeth II y dylai Tyddewi dderbyn y statws yn ôl, ac fe gafodd hynny ei wireddu ym mis Mehefin 1995.

Yn atyniad poblogaidd gydag ymwelwyr, mae tua 2,000 yn byw yn y ddinas yng ngogledd Sir Benfro.

Yn hanesyddol mae'n rhan o lwybr y pererinion, gyda dwy daith i Dyddewi yn cyfateb i un daith i Rufain medd un pab yn y 12fed ganrif.

Keith ThomasFfynhonnell y llun, Keith Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Keith Thomas yn byw yn Llanrhian ar gyrion Tyddewi

Ond mae mwy i'r ddinas yma na'r Gadeirlan, dyma atyniadau poblogaidd eraill yn ninas leiaf Prydain, yn ôl y tywysydd Keith Thomas sy'n byw ar y cyrion yn Llanrhian.

"Mae'n lle arbennig sy'n newid yn gyfan gwbl yn yr haf gydag ymwelwyr yn heidio yno.

"Y gadeirlan yw'r prif atyniad, ond mae cymaint mwy i'r ddinas," medd Keith.

Dyma ambell leoliad arall difyr y mae Keith wedi sôn amdano sydd werth ymweld â nhw os yn teithio i ardal Tyddewi.

Harbwr Porthclais

Harbwr PorthclaisFfynhonnell y llun, Wikipedia

Mae Harbwr Porthclais yn dyddio'n ôl i'r 12fed ganrif yn ôl tystiolaeth cerrig sydd yno.

Roedd unwaith yn borthladd prysur o ran diwydiant gyda chychod yn cario bwyd a nwyddau hanfodol ar gyfer y pentrefi arfordirol lleol.

Mae cofnod cyntaf yr harbwr wedi'i ddogfennu yn 1385 gan ei fod yn cael ei ddefnyddio yn yr ymdrech i adeiladu'r gadeirlan.

Erbyn hyn mae'n lle poblogaidd iawn gydag ymwelwyr ac yn lle da i fynd i bysgota crancod.

Oriel y Parc

Oriel y Parc

Mae Oriel y Parc dan warchodaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Yno mae canolfan ymwelwyr, orielau di-ri sy'n arddangos gwaith celf o gasgliad Amgueddfa Cymru.

Pan agorwyd Oriel y Parc, y bwriad oedd rhoi cartref parhaol i arddangosfeydd rheolaidd o waith yr artist Graham Sutherland a "thrysorau o gasgliad Amgueddfa Cymru" fel rhan o oriel tirlun Sir Benfro.

Mae hi'n bosib arddangos gweithiau celf cain yn y galeri gradd A1 yn Nhyddewi am fod modd rheoli gwres a lleithder ac mae yna fesurau diogelwch priodol yn cael eu gweithredu.

Yn ogystal â'r holl waith celf mae siop a chaffi yno hefyd.

Porth Stinan

Porth StinanFfynhonnell y llun, Getty Images

Wrth gerdded ar lwybr yr arfordir byddwch yn pasio safle bad achub Tyddewi ac mae'r golygfeydd tuag at Ynys Dewi yn odidog.

Mae tair orsaf y bad achub yma, ond dim ond un sydd bellach yn weithredol. Mae'r orsaf hynaf yn dyddio'n ôl i 1869.

Mae'r porth yn brysur iawn yn ystod yr haf, gan mai dyma'r man y byddai cychod pleser yn llawn ymwelwyr yn gadael a dychwelyd i fynd ar deithiau i Ynys Dewi.

Mae posib archebu lle ar gwch i ymweld ag Ynys Dewi, ble mae gwarchodfa natur brysur dan ofalaeth yr RSPB.

Mesur y Dorth

Mesur y dorthFfynhonnell y llun, Wikipedia

Pentref bychan, dafliad carreg o Dyddewi yw Mesur y Dorth.

Roedd yn fan gorffwys bwysig i rai oedd ar bererindod i Dyddewi, a'r lle olaf i stopio cyn cyrraedd diwedd eu taith.

Mae craig Mesur y Dorth yn sefyll ar ochr y ffordd. Mae dyddio o'r 7fed ganrif ac yn mesur 1 metr o uchder a 0.5 metr o led, a dyma ble oedd y bara yn cael ei osod ar gyfer y cerddwyr.

Yn ôl y chwedl hefyd, roedd Dewi Sant wedi gorchymyn, mewn amser o dlodi y dylai tafell o fara bod dim mwy na maint y cylch gyda'r groes wedi'i naddu ar y garreg, a hynny er mwyn gallu rhannu rhwng pawb.

Llys yr Esgob

Llys yr EsgobFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae hi'n anodd iawn anwybyddu'r gadeirlan wrth ymweld â'r ddinas, ond y tu ôl i'r addoldy godidog mae adeilad mawr arall, Llys yr Esgob.

Cafodd ei adeiladu rhwng 1328 a 1347 gan Henry de Gower, oedd yn Esgob Tyddewi bryd hynny, ac roedd eisiau troi'r adfeilion a oedd yno'n wreiddiol yn balas arbennig.

Unwaith oedd y Llys wedi'i orffen, dyma ble'r oedd De Gower yn byw, a dyma hefyd ble fyddai'n croesawu pererinion i Dyddewi ac yn cynnal gwleddoedd gwahanol.

Yn ystod y diwygiad yn y 16eg ganrif, fe ddechreuodd y palas droi'n adfail ond mae rhan o'r adeilad dal i sefyll heddiw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig