Ateb y Galw: Dr Anwen Jones

Dr Anwen Jones Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dr Anwen Jones

  • Cyhoeddwyd

Dr Anwen Jones, sy'n ddarlithydd ffisioleg ac iechyd gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ydi panelydd chwaraeon newydd rhaglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru.

Rhwng ei gwaith academaidd, ei diddordeb mewn athletau - roedd hi'n bencampwr Cymru o dan 23 oed yn rhedeg 400m dros y clwydi - a blynyddoedd o fyw gyda'i gŵr, cyn-gapten tîm rygbi Cymru Alun Wyn Jones, mae ganddi wybodaeth am sawl maes chwaraeon.

A heddiw, mae hi'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Dr Anwen Jones Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannnwr
Disgrifiad o’r llun,

Dr Anwen Jones ar y llethrau sgio pan yn iau

Mynd ar wyliau sgio, ar drip o Frynaman, i Santa Caterina pan o'n i'n bedair mlwydd oed. Ma' atgofion hapus gyda fi - y plant i gyd yn sgio mewn gwersi gyda'i gilydd a'r rhieni yn cael llond bol o win ar ôl sgio trwy'r dydd.

Dwi'n cofio hefyd gweld un o'r merched hynaf, Ffion Thomas yn sgio mewn siorts llachar pinc a phorffor lawr y slope, a meddwl bo' hi'n rili cŵl!

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Ma' rhan ohonof i yn mynd i ddweud Brynaman - does unman yn debyg i adre. Ges i fy magu ym Mrynaman a fan hyn bues i tan fy mod i'n mynd i brifysgol yn Loughborough - man pell i ferch o Frynaman!

Ma' fy atgofion i o Frynaman yn rhai hapus ofnadwy, mynd i 'sledgo' ar y Mynydd Du a mynd i'r sinema (sydd dal ar agor!).

Y MwmbwlsFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Y Mwmbwls - un arall o hoff leoliadau Dr Anwen Jones

Nawr ar yr adeg hon o'm mywyd, fydden i hefyd yn dweud Y Mwmbwls, achos fan hyn dwi wedi magu fy nhair merch, a fan hyn ma' 'adre' nawr. Dyw'r merched ddim yn sylweddoli pa mor lwcus ma' nhw yn cael mynd i'r traeth ac i nôl hufen iâ Joe's yn syth ar ôl ysgol!

Ar ddiwedd y dydd, fy hoff le yw ble mae fy nheulu i.

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Alun Wyn Jones yn codi'r gwpan gyda thîm rygbi CymruFfynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Alun Wyn Jones yn codi'r gwpan wedi i dîm rygbi Cymru ennill y Gamp Lawn yn 2019 - roedd 'na hen ddathlu wedi'r fuddugoliaeth yn y gêm olaf yn erbyn yr Iwerddon

Ma' hwn yn un anodd - dwi 'di bod yn lwcus i gael cwpl o nosweithiau ffantastig!

Efallai yr un sydd yn aros mas yn fy nghof i yw ar ôl i dîm rygbi Cymru ennill Grand Slam 2019! Nethon ni ddathlu gyda teulu yn gynta' yn y stadiwm, gyda dwy o'n merched ni, Mali ac Efa (o'dd Loti heb gyrraedd y byd!), ac wedyn mynd mas i Gaerdydd a nôl i'r gwesty lle wnaeth y parti fynd ymlaen tan oriau bach y bore - good times!

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Yn benderfynol, dewr ac yn ffyddlon.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Efallai fod hwn ddim yn 'gywilydd' arferol, ond mae e'n rhywbeth sydd yn codi cywilydd arna i.

Ar ôl i Loti (ein trydedd ferch) gael ei geni, dwi'n cofio rhywun yn dweud wrtha i pan o'n i mas yn y parc ('sa i'n gwybod pwy o'dd y person yma, dwi ddim yn nabod nhw), ma' rhaid bod Alun yn drist bo' fi 'di rhoi merch arall iddo, a shwt bydde fe'n dwli cael bachgen.

Dim hwn oedd yr unig adeg wnaeth pobl do'n i ddim yn nabod rhannu eu hopiniwn nhw ar fy nhair merch, ac yn y dyddie cynnar fe wnes i ddechre mynd yn rili trist am hwn. O'dd gyda ni dair merch iach, a fi dal ddim yn gwybod pam bod pobl ddieithr yn gorfod rhoi eu opiniwn nhw am ein bywyd ni!

Dwi bach yn well yn anwybyddu'r bobl hyn nawr! Credwch chi byth, ma' rhai pobl dal yn gofyn i fi os fyddwn i'n cael babi rhif pedwar er mwyn efallai cael bachgen!

Dwi ddim yn gallu coelio pam fydde rhywun sydd ddim yn nabod ni yn teimlo fel bo' nhw'n gallu dweud be' mae nhw'n meddwl wrtha i am ein plant ni.

Mae gen Alun a finne dair merch, iachus, hapus, a ni mor mor lwcus i gael nhw.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Cwpl o ddyddiau yn ôl dwi'n siŵr. Ers cael y plant dwi'n crio llawer mwy! Crio pan dwi'n drist, crio pan dwi'n overwhelmed (tri o blant a gŵr!), a chrio pan fyddai'n hapus!

Nes i grio yn Steddfod yr Urdd wrth i mi wylio fy merch hyna' yn perfformio yn y gân actol (ac yn dod yn drydedd!). Fi'n crio dagrau hapus trwy'r amser.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Dwi'n bach o perfectionist, rhywbeth positif, ond gallu bod yn beth drwg hefyd. Dwi wastad eisiau popeth i fod yn berffaith, bach o control freak!

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Fi'n dwli ar The Holiday. Dwli gwylio fe bob Nadolig. Blwyddyn diwethaf o'n i fod i fynd i wylio'r ffilm gyda cherddorfa byw ond o'n i ddim yn gallu mynd, so croesi bysedd fe fydd e'n digwydd eto yn Abertawe'r flwyddyn hon!

Dwi'n hoff o ddarllen llyfrau Sophie Kinsella, ma' nhw'n ddoniol ac yn rhwydd i bigo lan ar ôl rhoi'r plant i'r gwely.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Anwen ac Alun Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dr Anwen Jones ac Alun Wyn Jones

Ma' hwn yn soppy, ond fy ngŵr Alun Wyn.

Do'n i ddim yn gweld e llawer, a ddim yn cael llawer o amser gyda'n gilydd pan o'dd e'n chwarae rygbi. Er iddo fe ymddeol, ma' pawb yn credu bod e adre mwy, ond dwi'n gweld e llai. A pan ddwi yn gweld e ma' gennym ni dri o blant!

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dr Anwen Jones yn blentyn yn gwneed y ddawns flodauFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dr Anwen Jones yn Eisteddfod Genedlaethol Dinefwr 1996

Bues i yn un o ferched Dawns y Blodau yn Eisteddfod Dinefwr 1996. Amser hynod o hapus ac atgofion sydd wedi aros gyda fi (hyd yn oed yr ymarferion, tair gwaith yr wythnos am flwyddyn!),

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Sgio yn Val Thorens, o dan awyr las a haul, ar eira ffres gyda theulu a ffrindiau sydd agosaf ata i. Stopio i gael Aperol yng nghanol dydd.

Wedyn bwyta bwyd da, dawnsio gyda Mali, Efa a Loti, ac yfed rosé neis i orffen y nosweth cyn rhoi'r merched i'r gwely a chael cwtsh gyda nhw!

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Mali, Efa a LotiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Un o'r llunie cynta o Mali, Efa a Loti gyda'i gilydd.

Ma' Mali ac Efa yn edrych yn hŷn yn y llun yma gan bod Loti wedi cyrraedd - wedi tyfu lan dros nos. Roedd e hefyd yn amser ble roedd Alun a finne yn hapus bod ein teulu bach ni yn gyflawn gyda tri o blant. 'Da ni'n lwcus iawn.

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Falle fod hwn bach yn boring, ond fi'n joio fod yn Anwen Jones! Teimlo'n hynod o lwcus i fyw y bywyd dwi'n byw, gyda fy nheulu bach i.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig