Mali Hâf yn ennill cystadleuaeth Roundtable 6 Music

Bydd Mali Hâf yn yn perfformio yng ngŵyl Glastonbury eleni
- Cyhoeddwyd
Mae 2025 eisoes wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus i Mali Hâf.
Ym mis Ebrill fe lwyddodd hi i fod yn un o'r rhai buddugol yng nghystadleuaeth Emerging Talents, gyda'r rhai llwyddiannus yn cael chwarae yng ngŵyl Glastonbury eleni.
Roedd 7,000 o artistiaid wedi ymgeisio ac fe gafodd Mali ei dewis.
Mae hi hefyd wedi creu argraff ar Kate Nash, wnaeth ymateb drwy ddweud ei bod "eisiau clywed mwy o ganu Cymraeg" ar ôl iddi wrando ar un o draciau Mali.

Mae Huw Stephens yn gyflwynydd ar BBC 6 Music ac ar BBC Radio Cymru
Fe ddigwyddodd hyn ar raglen Huw Stephens nos Iau ar BBC 6 Music.
Ar ei raglen mae Huw yn gwahodd tri o banelwyr profiadol o'r diwydiant cerddoriaeth i feirniadu ei jiwcbocs a gweld pa un o'r caneuon sy'n dod i'r brig.
Enw'r eitem yw Roundtable ac mae'r panel yn treulio amser yn dadansoddi ac yn marcio'r caneuon maen nhw wedi eu clywed allan o 10.
Ar y panel y tro hwn oedd Kate Nash sy'n enillydd gwobr yn y BRIT Awards. Fe wnaeth ei halbwm Made Out Of Bricks gyrraedd rhif un yn y siartiau ym Mhrydain nôl yn 2007. Dyma'r albwm sy'n cynnwys un o'i caneuon enwocaf - Foundations.
Jaguar Bingham sydd yn DJ ar BBC Radio 1 a Bimini Bon Boulash sy'n enwog am ymddangos ar RuPaul's Drag Race UK ac sydd hefyd yn artist electroneg oedd y ddau banelydd arall.
Yn rhan o'r rhestr chwarae nos Iau oedd cân H.W.F.M gan Mali Hâf.
Cân Gymraeg yw hon ac fe wnaeth Huw egluro cefndir y gân i'r panelwyr a'r gwrandawyr.
"Anthem genedlaethol Cymru yw Hen Wlad fy Nhadau ond mae hi (Mali) wedi fflipio hwnna i fod yn Hen Wlad fy Mamau, mae'r gân am ferched ac am gael Cymru'n lle mae pobl o bob rhywedd ac o'r gymuned LHDTCRA+ yn gallu teimlo'n saff i fod yn nhw eu hunain, yn emosiynol ac yn gorfforol," meddai.

O'r chwith - Kate Nash, DJ Jaguar Bingham a Bimini Bon Boulash oedd y panelwyr
Roedd y panelwyr wedi'u plesio'n fawr ac yn cyfaddef nad oedden nhw'n deall gair o'r gân.
Dywedodd Kate Nash: "Dwi'n caru'r gân yma. Roedd o'n ddiddorol ac yn swnio'n unigryw a dwi'n caru pobl sy'n gneud cysylltiad gyda'u diwylliant a dwi'n meddwl fod hwn yn cŵl iawn, dwi eisiau clywed mwy o Gymraeg."
Erbyn diwedd y rhaglen, cân Mali Hâf oedd wedi dod i'r brig ac wedi cael yr effaith fwyaf ar y panel.
Mae Mali wedi siarad yn agored eleni am bwysigrwydd canu yn y Gymraeg a beth mae'n golygu iddi.
"Fi 'di clywed llwyth o weithiau - pobl yn dweud 'pan chi'n canu'n Gymraeg chi jest yn neud yr usual circuits; Eisteddfodau, Tafwyl ond ble chi'n mynd wedyn?'
"Wel, mae llwyth o lefydd a gwledydd eraill eisiau clywed cerddoriaeth Gymraeg, nid jest Cymru," meddai.
Bydd Mali yn perfformio yn Glastonbury eleni gyda'r ŵyl yn dechrau ar 25 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd26 Ebrill
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2021