3 Llun: Lluniau pwysicaf Mali Elwy

Mali ElwyFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Mali Elwy

  • Cyhoeddwyd

Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?

Dyma ddewis y cerddor a'r llenor Mali Elwy. Mali enillodd y goron yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 yn ddiweddar.

Mae hi hefyd yn rhan o fand ei brawd, yr artist reggae Morgan Elwy ac mae hi hefyd wedi rhyddhau traciau gyda'i brawd arall, Jacob.

Nain Mali Ffynhonnell y llun, Mali Elwy

Nain drws nesa. Y ddynes gryfa i mi 'nabod erioed.

Cafodd Nain ddylanwad anferthol arna i – mae'r llwybrau dwi wedi eu dilyn yn fy mywyd i wedi eu siapio ganddi hi yn fawr (ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n teimlo'n ddyfnach wrth fynd yn hŷn). Roedd hi'n ddynes mor arbennig, am gymaint o resymau. Dwi'n ei cholli bob dydd.

Mae'r llun yma o'r cyfnod clo. Fe wnaethon ni ynysu gyda'n gilydd am gyfnod gan fod y ddwy ohonon ni mewn grŵp risg. Un diwrnod, dywedodd Nain ei bod hi'n licio'r syniad o fynd am dro – ac er na aethon ni'n bell (mae'r tŷ dal i'w weld yn y cefndir!), roedd hi wrth ei bodd yn cerdded drwy'r caeau am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd.

Mae cymaint o lawenydd ar ei hwyneb hi yn y llun yma - Nain ar ei gorau. Hwn ydi fy hoff lun i yn y byd.

Mali a'i ffrindiauFfynhonnell y llun, Mali Elwy

Dyma lun ohona i gyda Ela, Lili, Erin ac Elin - fy ffrindiau ers yr ysgol feithrin.

Dwi ddim yn cofio bywyd hebddyn nhw.

Mae amseroedd gorau a gwaethaf fy mywyd i wedi bod yng nghwmni'r merched yma. Maen nhw wrth wraidd cymaint o atgofion – a dwi wir yn credu fod hynny'n gallu creu cysylltiad eneidiol. Mae o'n deimlad alla i ddim hyd yn oed ei ddisgrifio.

Mae hwn yn lun o'r pump ohonom ni ar ein diwrnod olaf yn yr ysgol. Dwi'n 'nabod nhw ers dros ugain mlynedd, maen nhw'n dal i fod yn rai o'm hoff bobl ar wyneb y ddaear.

Mali a'i mamFfynhonnell y llun, Mali Elwy

Does dim un person wedi fy nghefnogi nac fy ysbrydoli fel Mam. Mae hi'n un o'r bobl mwyaf rhyfeddol dwi'n ei hadnabod, a drwyddi hi dwi wedi dysgu beth yw gwir ystyr y gair cryfder – hi ydi fy ffrind gorau.

Cafodd y llun yma ei dynnu ar gopa Ben Nevis, tua chwe mis ar ôl i mi dderbyn llawdriniaeth eithaf mawr. Roedd o'n rhywbeth wnes i 'rioed deimlo y byswn i'n medru ei gyflawni. Roedd o'n dipyn o her, ac yn dipyn o foment pan gyrhaeddon ni'r copa.

Dwi'n hoffi'r llun yma'n ofnadwy. Mae'n fy atgoffa o'r ymdrech, y cwmni – a'r ffaith ein bod ni wedi rhannu'r profiad gyda'n gilydd. Mae'n lun sy'n gwneud i mi wenu, bob tro.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig