Y llofruddiaeth yn Sir Gâr a synnodd y wlad yn 1829

Cerdyn post o GaerfyrddinFfynhonnell y llun, Wikicommons
  • Cyhoeddwyd

Yn fuan ar fore 14 Mehefin,1829, tra'n gofalu am ei ddefaid ar Fynydd Pencarreg yn Sir Gaerfyrddin daeth ffermwr o'r enw Timothy Davies o hyd i gorff merch ifanc mewn nant fechan.

O archwilio'i chorff, daeth i'r amlwg ei bod wedi cael ei llofruddio. Yn fuan wedyn, cafodd y corff ei adnabod fel un Hannah Davies.

Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn adrodd hanes un o droseddau mwyaf drwg-enwog yng Nghymru'r cyfnod.

'Anrhydeddu bywyd' Hannah Davies

Yn amlach na pheidio, wrth edrych ar hanes troseddol mae tueddiad i ganolbwyntio ar gymeriad y llofrudd ond mae cyfrifoldeb arnom i edrych ar y dioddefwr a hynny er mwyn anrhydeddu eu bywyd ac i ddeall gwir effaith y drosedd a gafodd ei gyflawni.

Roedd Hannah Davies yn ferch i Daniel Abel, Tan-y-gaer ar ochr mynydd Pencarreg, ryw dair milltir o dref Llanbedr Pont Steffan.

Ers mis Hydref 1828 roedd Hannah – fel cymaint o ferched ifanc mewn ardaloedd gwledig – wedi bod yn gweithio fel morwyn ar fferm Rhiw-saith-bren ym mhlwyf Llanfihangel Rhos-y-Corn, tua wyth milltir o gartref ei thad.

Tua naw o'r gloch, ar nos Sadwrn 13 Mehefin 1829 roedd Hannah wedi gadael Rhiw-saith-bren gyda'r bwriad o ymweld â'i thad yn Nhan-y-gaer, ond ni lwyddodd i gyrraedd pen ei thaith.

Mynydd PencarregFfynhonnell y llun, Wikicommons
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Hannah ei darganfod ar Fynydd Pencarreg, ddim yn bell o'i chartref

Ymledodd y newyddion am lofruddiaeth Hannah yn gyflym ar draws y wlad. Ar y cyfan roedd pobl wedi dychryn o glywed am y fath ddigwyddiad erchyll ond roedd hefyd wedi ennyn chwilfrydedd pobl o bell ac agos.

Ymhen dyddiau, roedd cylchgronau'r cyfnod yn honni bod miloedd wedi teithio i gartref Hannah er mwyn gweld ei chorff.

Wynebu'r gosb eithaf

Daethpwyd o hyd i'r person a oedd yn gyfrifol am lofruddio Hannah yn fuan iawn.

Ers ychydig fisoedd roedd Hannah wedi bod yn canlyn Dafydd Evans, gŵr lleol 20 oed. Mae'n debyg bod Hannah wedi trefnu i gwrdd â Dafydd tra'r oedd yn cerdded adref i dŷ ei thad pan ymosododd arni'n annisgwyl gyda bilwg – offeryn i dorri llwyni neu goed bach.

Dangosodd y post-mortem fod Hannah yn feichiog. Yn ystod cwest i'w marwolaeth, datgelodd ei chwaer, Sarah, ei bod yn ymwybodol o gyflwr Hannah a'i bod ar ddeall bod Hannah wedi dweud wrth Dafydd ei bod yn feichiog hefyd a bod hyn wedi chwarae rhan yn y llofruddiaeth giaidd.

O fewn oriau o ganfod corff Hannah arestiwyd Dafydd ar gyhuddiad o achosi ei marwolaeth.

Yn Llys y Sesiwn Fawr ar 16 Medi 1829 cafwyd Dafydd Evans yn euog o lofruddio Hannah Davies a'i ddedfrydu i gael ei ddienyddio trwy grogi hyd nes marwolaeth.

BilwgFfynhonnell y llun, Wikicommons
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Hannah ei llofruddio gyda bilwg

Ar 21 Medi 1829, casglodd torf o 10,000 o bobl o flaen carchar Caerfyrddin i weld Dafydd Evans yn wynebu'r gosb eithaf. Mae'r digwyddiad wedi dod yn un adnabyddus – i gyd, am y rhesymau anghywir.

Yn ystod ei ddienyddiad, mi dorrodd y trawst a oedd yn dal y rhaff gan achosi Dafydd i ddisgyn i'r llwyfan islaw. Roedd Dafydd Evans yn credu'i fod wedi'i achub, ac na fyddai'n cael ei grogi wedi'r cyfan.

Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd ym mhapur newydd The Carmarthen Journal gwaeddodd Dafydd mewn Saesneg clapiog "No hang again! No! no! no! Gentlemen, was no hang twice for same thing", cyn erfyn yn y Gymraeg na allai gael ei 'gosbi' am yr eildro am yr un drosedd.

Ofer fu ei ymbil. Aeth yr awdurdodau ati i drwsio'r grocbren ac fe gafodd ei ddienyddio.

Rhannu'r stori ar faled

Cafodd bywyd a marwolaeth annhymig Hannah ei goffáu mewn baled a gyfansoddwyd yn fuan wedyn gan ddyn o'r enw Stephen Jones.

Y dyddiau hynny, roedd baledi yn ffordd bwysig i rannu newyddion, straeon a digwyddiadau lleol yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle'r oedd nifer helaeth o'r boblogaeth yn anllythrennog a phapurau newydd yn brin.

Yn aml, roedden nhw'n cael eu canu neu eu darllen yn uchel, ac yn ffordd boblogaidd a phwerus o ledaenu gwybodaeth a chadw atgofion cymunedol yn fyw.

Baled gan Stephen JonesFfynhonnell y llun, Wikicommons
Disgrifiad o’r llun,

Baled gan Stephen Jones oedd yn adrodd hanes trist llofruddiaeth Hannah Davies

Yn y faled, mae Jones hefyd yn rhybuddio eraill sut i ymddwyn yn 'iawn' a pharchu gwerthoedd cymdeithasol a chrefyddol y cyfnod:

Boed hyn o dro yn rybydd i bawb o'r i'enctyd gwiw

i 'mwrthod â'r fath bechod a gweddïo mwy ar Dduw

am nerth i rodio'r llwybrau sy'n tywys tua'r nen

fel byddont gyda'r Iesu mewn mwyniant byth, amen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.