Y sialens sy'n denu gŵr a gwraig i'r brig yn Hyrox

Mered a Jo yn Hyrox GaerdyddFfynhonnell y llun, Mered Pryce
Disgrifiad o’r llun,

Mered a Jo yn Hyrox Gaerdydd

  • Cyhoeddwyd

Pan gychwynnodd Mered Pryce a'i wraig Jo i hyfforddi ar gyfer camp newydd o'r enw Hyrox doedden nhw ddim yn dychmygu byddai'n arwain at y ddau yn cystadlu ym Mhencampwriaethau'r Byd Hyrox 2025 yn Chicago.

Ond dyma mae'r gŵr a'r gwraig o Gaerdydd yn gwneud penwythnos yma ar ôl cymhwyso drwy gyflawni'r gamp mewn amser arbennig.

Dywedodd Mered, sy'n berchen ac yn rhedeg campfa Iechyd Da yn Treganna gyda'i wraig: "Mae fe tipyn bach yn wyllt i ddweud y gwir – o'n i ddim yn disgwyl i'r math hyn o beth i ddigwydd.

"Mae 'na un ferch arall o'r gampfa wedi cyrraedd pencampwriaethau'r byd dwy flynedd yn ôl ac oedd e'n anhygoel i fi weld hi'n cymryd rhan a gweld athletwyr gorau ein byd bach ni yn Hyrox.

"Ges i flas arno fan 'na."

Mered a Jo yn cystadlu fel pâr yng nghystadleuaeth HyroxFfynhonnell y llun, Mered Pryce
Disgrifiad o’r llun,

Mered a Jo yn cystadlu fel pâr yng nghystadleuaeth Hyrox

Camp ffitrwydd yw Hyrox sy' wedi dod yn boblogaidd iawn dros y blynyddoedd diweddar. Mae'n rhaid i gystadleuwyr redeg 1km wyth gwaith, gyda heriau cryfder fel gwthio sled neu chodi pwysau rhwng pob lap.

Ar ôl cystadlu mewn sawl cystadleuaeth Hyrox ym Mhrydain clywodd Mered yn Rhagfyr fod ei amser yn ddigon da i'w gymhwyso ar gyfer pencampwriaethau'r byd yn Chicago wedi iddo gwblhau'r her mewn awr a 20 munud.

Meddai: "O'n i'n mynd i fod yn cymryd rhan gyda Jo yn cefnogi fi. O'n i bach yn hunanol a byddai'r plant yn aros adre!

"Chwe wythnos wedyn oedd Jo hefyd wedi qualifio so mae'r ddau o ni yn mynd mas 'na, yn cystadlu gyda grwpiau ein hunain – fi gyda fy oedran i (oed 50-54) a Jo gyda merched ei hoedran hi (oed 40-44)."

Mae'r ddau wedi cystadlu yn Hyrox fel unigolion ac fel pâr, gan weithio gyda'i gilydd yn Hyrox Gaerdydd i gwblhau'r her mewn awr a chwe munud.

Mered yn tynnu rhaffFfynhonnell y llun, Mered Pryce

Cystadlu

Felly sut beth yw rhedeg campfa fel gŵr a gwraig tra'n hyfforddi ar gyfer un o heriau ffitrwydd mwya'r byd?

Mae Mered yn credu fod y gystadleuaeth yn beth da: "Mae'r ddau o ni'n gystadleuol - mae cefndir chwaraeon gyda'r ddau o ni. Mae'r plant yr un peth.

"Er falle fod yr ardd yn cael ei adael mae'r elfen gystadleuol yn popeth sy'n digwydd yn ein tŷ ni. Pan ni'n neud yr Hyrox ni'n cael chat o flaen llaw am beth yw'r plan a wedyn bant â ni.

"Fi sy'n tynnu nôl a Jo yn dweud 'cwlia lawr, paid mynd cweit mor glou'. Falle bod hi dipyn bach yn gynt na fi os dwi'n onest.

"Penwythnos yma yn Chicago byddwn ni moyn gwybod sut mae'r llall yn neud a sut mae'r rankings.

"Mae 90 yn fy oedran i felly pa mor bell allai fynd? Mae dros 100 o ferched yn oedran Jo – pa mor bell fydd hi'n gallu mynd? Dwi'n siŵr fyddwn ni'n sgrechain i gefnogi ein gilydd ond hefyd bach yn gystadleuol."

ChicagoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i tua 4,500 o athletwyr fod yn cystadlu yn Chicago yn y pencampwriaethau 12-15 Mehefin.

Gyda 500,000 yn cystadlu yn y gemau Hyrox rownd y byd mae'n golygu mai llai na 1% fydd o'r athletwyr yn y gemau yn Hyrox.

Mae'n rhaid cystadlu ym mhencampwriaeth byd ar lefel pro sy'n golygu codi pwysau trwm iawn, yn ôl Mered: "Mae digon o bobl yn eu 50au yn redwyr da dros ben, yn rhedeg hanner marathon yn gyflym ond pan mae hefyd angen gwthio pwysau 202kg dyna pryd maen nhw'n gweld e'n anodd.

"Mae'n rhaid gwthio sled 202kg. Ar lefel pro mae'r sleds yn fwy trwm, mae'r wallballs chi'n taflu uchder o 10 troedfedd yn fwy trwm.

"Mae rhywun fel fi gyda cefndir rygbi bach mwy cartrefol gyda pwysau trwm so oedd angen i fi neud y gwaith caled o wella'n redeg i. Dyna le mae'r pwyslais wedi bod yn fy ymarfer i dros y ddwy flynedd ddiwethaf - mynydd o redeg dwi wedi bod yn neud."

Mae gan Jo, sy'n hyfforddwr personol ac yn arwain gwersi yn Iechyd Da, gefndir cryfder a chwarae rygbi a phêl-droed hefyd.

Mered yn cystadlu gyda 'wallball'Ffynhonnell y llun, Mered Pryce

Felly beth sy'n denu'r ddau at Hyrox?

Yn ôl Mered: "Y sialens. Droies i'n 50 bron dwy flynedd a hanner yn ôl a jest cyn troi yn 50 oedd fideos ar youtube ynglŷn a Hyrox. O'n i'n ffansio fe a gan bod ni'n neud dosbarthiadau circuits nes i ddechrau newid elfen i siwtio Hyrox.

"Y peth gore amdano yw rasio yn erbyn bois sy'n iau na fi. Dydy hanner y bois ddim yn gwisgo tops, mae sixpacks gyda nhw i gyd.

"Dwi yn fy 50au yn leinio lan yn erbyn nhw a s'dim byd yn well na croesi'r llinell o'i blaenau nhw. Mae hwnna'n rhoi hwb i hen ddyn!"

Er gwaetha'r gystadleuaeth mae'r awyrgylch yn un da, meddai Mered: "Mae fe'n gyfeillgar dros ben, mae fe'n lyfli.

"Yn y gystadleuaeth Hyrox yng Nghaerdydd oedd rhyw 26 o ni o Iechyd Da yn cystadlu. Oedd yr ifancaf yn 21, yr hynaf yn 68.

"Chi'n cystadlu yn erbyn eich hunain yn gynta'. Y cam cyntaf yw cwblhau'r dasg, unwaith ti'n gwybod ti'n gallu cwblhau yr holl beth mae hynny'n wych. Wedyn sut chi'n gallu gwella, sut fi'n neud i gymharu gyda pobl eraill yn y grŵp yma.

"Yn fy sefyllfa i sut dwi'n cymharu yn erbyn fy ngwraig i! Falle bydd pobl yn mynd heibio chi ond sym elfen o ysgwyddau yn gwthio. Mae fe'n gefnogol.

"Chi'n gallu gweld yr athletwyr gorau sy'n neud y pwysau trwm. A mae fe'n wych i weld pa mor anhygoel maen nhw'n neud.

"Ac eto ti'n gweld pobl yn eu 60au a 70au, mae hwnna'n wych i weld a 'na gyd chi'n gallu neud yw clodfori pobl."

Gan weithio, hyfforddi a chystadlu a magu plant gyda'i gilydd mae bywyd yn brysur i'r ddau ac mae Mered yn ei ddisgrifio fel 'Un jygl mawr':

"Mae fe'n lyfli – sym pob gŵr a gwraig yn gallu dweud bod nhw'n cael amser gyda'i gilydd o hyd. Dyw e ddim yn waith, ni ddim yn eistedd lawr tu ôl cyfrifiadur.

"Mae pobl yn dod i'r gampfa er mwyn enjoio. Mae'r ddau o ni'n gallu bod yn ran o hwnna so mae'n amser ni gyda'n gilydd yn amser hwylus.

"Mae fe'n gweithio'n grêt i ni – ond rhyw bryd fydd angen hala bach o amser yn yr ardd i dacluso fe lan!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig