Ysgol newydd wedi'r cyfan i blant anghenion ychwanegol yn Sir Gâr

- Cyhoeddwyd
Bydd ysgol newydd yn cael ei hadeiladu i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn Llanelli wedi'r cyfan.
Daw wedi i Gyngor Sir Caerfyrddin ddweud y llynedd nad oedd modd parhau â'r cynllun gwreiddiol oherwydd costau adeiladu.
Roedd rhieni a chymuned yr ysgol wedi bod yn ymgyrchu ers y penderfyniad hwnnw yn galw am sicrhau adeilad newydd.
Wrth nodi'r ymatebion a dderbyniwyd i'r adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth arbenigol bresennol ar gyfer ADY yn Llanelli, fe benderfynodd aelodau cabinet y cyngor ddydd Llun i ymgymryd â chostau pellach a gwaith dichonoldeb dylunio ar gyfer dau o'r chwe opsiwn.
Mae'r ddau opsiwn yn golygu adeiladu ysgol newydd.
Beth yw'r ddau opsiwn?
Opsiwn 4 - Adeiladu ysgol newydd ar gyfer 150 o ddisgyblion, a datblygu cynlluniau i adeiladu dwy ganolfan newydd - fyddai ynghlwm ag ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd - ar gyfer plant â Chyflyrau Sbectrwm Awtistig (CSA).
Byddai'r opsiwn yma yn costio £42m-£58m, gyda £27m-£35m o hwnnw am adeilad newydd i Ysgol Heol Goffa.
Mae'r cynnig yn nodi y byddai modd lleihau'r gost yn sylweddol pe bai modd cwrdd â'r galw am ddarpariaeth i blant â CSA heb adeiladu'r ddwy ganolfan arbenigol newydd.
Opsiwn 5 - Adeiladu ysgol newydd ar gyfer 250 o ddisgyblion, fyddai'n cynnwys darpariaeth ar gyfer plant â CSA.
Byddai'r opsiwn yma yn costio £36m-£51m.
Y Cynghorydd Darren Price, arweinydd Cyngor Sir Gâr, fu'n rhoi ei ymateb i Elen Davies
Dywedodd Owen Jenkins, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa ei fod yn "hapus dros ben" gyda'r penderfyniad, ond bod angen pwyso ar y cyngor nawr i gadw at eu haddewid.
"Ni wedi bod fan hyn wyth mlynedd yn ôl pan addawyd ysgol newydd sbon i ni bryd hynny.
"'Dan ni hefyd blwyddyn yn ddiweddarach ers iddyn nhw gyhoeddi bod nhw ddim yn meddwl bwrw ymlaen oherwydd costau.
"Yn sicr, 'dan ni yn mynd i weithio'n adeiladol ac yn gynhyrchiol gyda'r Cyngor Sir i fwrw ymlaen a sicrhau bod y cynllun yn cael ei wireddu.
"Y peth da yw nawr, bod nhw wedi cydsynio i gael rhagor o waith mwy manwl i ddatblygu yr opsiynau, er mwyn iddyn nhw gael gwneud penderfyniad ar ba opsiwn i fwrw ymlaen gyda."

Bydd yn rhaid pwyso ar y cyngor i gadw eu haddewid, medd Owen Jenkins, cadeirydd y llywodraethwyr
Ychwanegodd Phill Newell, is-gadeirydd llywodraethwyr Heol Goffa: "Fi'n falch iawn bod nhw wedi derbyn y ddau opsiwn - mae hynny'n golygu y bydd adeilad gyda ni.
"Hyd yn oed bod addysg rhagorol yn digwydd yn yr ysgol sydd gyda ni nawr, mae Heol Goffa yn dangos ei hoedran.
"Fi'n trial edrych arno fe'n fwy positif y tro hyn.
"Mae'r awdurdod wedi edrych mewn i addysg arbennig yn Llanelli yn fanwl.
"Tro hyn, fi'n credu mae'r adroddiad gyda David Davies, mae hwnna wedi dangos y ffordd ymlaen i ni."

Mae adeilad Ysgol Heol Goffa yn dangos ei hoedran bellach, medd Phil Newell
Yn ôl y cynghorydd Glynog Davies, aelod cabinet Plaid Cymru dros addysg, pa bynnag un o'r ddau opsiwn newydd fydd yn cael ei ddewis, byddai'n fwy na'r un a gafodd ei ohirio - sef ysgol i 120 o ddisgyblion.
Yn ôl Owen Jenkins, rhaid peidio anghofio'r straen mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi ei gael ar gymuned yr ysgol.
"Ni'n hapus dros ben nawr bod 'na gynlluniau positif wrth i ni symud ymlaen, ond pan chi'n adlewyrchu dros y flwyddyn ddiwethaf, nid yn unig y straen mae fe wedi gosod ar holl gymuned yr ysgol ond hefyd mae e'n dangos dyfnder y teimladau tuag at yr ysgol.
"Mae'r holl gymuned tu hwnt i ffiniau'r ysgol wedi ymateb a dweud wrth yr awdurdod lleol yn blwmp ac yn blaen beth maen nhw'n meddwl o'r ysgol."
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2024
Yn siarad gyda BBC Cymru wedi'r cyfarfod, dywedodd arweinydd y cyngor Darren Price eu bod yn "hynod o awyddus nawr i symud ymlaen cyn gynted ag sydd yn bosib".
Ond mae'n cydnabod bod "y gost tu allan i'n gafael ni, tu allan i'n rheolaeth ni".
"Mae'r costau adeiladu wedi cynyddu yn ddirfawr dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny yn realiti mae'n rhaid i ni a phob cyngor arall fyw â fe," meddai.
"Er mwyn symud i'r cam nesaf, mae angen mwy o eglurder ynglŷn â chostau er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael gwerth am arian.
"Ni'n awyddus iawn i sicrhau bod pa bynnag opsiwn ni'n penderfynu arno yn mynd i weithio i Lanelli am flynyddoedd i ddod.
"Ni wedi sicrhau bod hyn ar dop ein rhestr ni o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a dyna yw'r ffocws nawr - delifro cyn gynted ag sydd yn bosib."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.