'Dwi wedi bod gyda Eisteddfod Pontrhydfendigaid ers y dechrau'

Neli JonesFfynhonnell y llun, Neli Jones
  • Cyhoeddwyd

O drefnu'r rhaglenni i ddod o hyd i feirniaid, mae Neli Jones wedi gweithio'n ddiflino am dros 40 o flynyddoedd fel Ysgrifennydd Eisteddfod Pontrhydfendigaid.

Mae Neli, sy'n dod o'r ardal yn wreiddiol, newydd roi'r gorau i'w rôl ac mae wedi cael ei chydnabod gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei gwaith diflino gyda'r Eisteddfod.

Bu'n hel atgofion ar Bore Cothi ar Radio Cymru.

Meddai Neli, oedd yn yr eisteddfod gyntaf un ym Mhontrhydfendigaid: "Dwi wedi bod yno ers y dechrau. Yn 1964 oedd yr eisteddfod gyntaf, ac roedd y tair eisteddfod gyntaf wedi eu cynnal mewn pabell enfawr ar y cae pêl-droed.

"Dwi'n cofio'r rheiny'n tyfu, ond des i fewn yn 1969 fel cyfeilydd i'r eisteddfod i ddechrau. Ac wedyn, mewn sbel, ga'th y gŵr ei wneud yn ysgrifennydd cyffredinol, ac o'n i'n ei helpu fe. Ac wedyn, ges i fod yn gyd-ysgrifennydd iddo fe am flynyddoedd mawr.

Neli gyda'i gŵr, y diweddar Selwyn Jones, a'i hwyres Glain Llwyd Davies wedi iddi ennill Tlws yr Ifanc yn 2019, gyda'i chwaer Miriam yn ail. Ffynhonnell y llun, Neli Jones
Disgrifiad o’r llun,

Neli gyda'i gŵr, y diweddar Selwyn Jones, a'u hwyres Glain Llwyd Davies wedi iddi ennill Tlws yr Ifanc yn 2019, gyda'i chwaer Miriam yn ail

Partneriaeth

"Oedd e'n gweithio'n dda, mae'n rhaid dweud - o'n i'n gwneud y gwaith papur, a Selwyn yn gwneud y gwaith rhedeg ambyti fel rhywbeth gwyllt!"

Roedd yn bartneriaeth dda ac roedd Selwyn hefyd wedi bod yn weithgar gyda'r Eisteddfod am dros 40 mlynedd nes ei farwolaeth dair blynedd yn ôl.

Meddai Neli: "Mae'r blynyddoedd wedi hedfan, dwi ddim yn gwybod le mae'r amser wedi mynd. Oedd yr holl waith werth e. Mae wedi bod yn bleser, i ddweud y gwir."

Neli gyda'i hwyres Miriam Llwyd Davies a enillodd Gwpan Her Parhaol y diweddar Moc Morgan am berfformiad gorau'r noson yn 'Sadwrn y Sêr' yr Eisteddfod eleni.Ffynhonnell y llun, Neli Jones
Disgrifiad o’r llun,

Neli gyda'i hwyres Miriam Llwyd Davies a enillodd Gwpan Her Parhaol y diweddar Moc Morgan am berfformiad gorau'r noson yn 'Sadwrn y Sêr' yr Eisteddfod eleni.

'Gŵyl yn fwy na eisteddfod'

Mae Neli'n ei disgrifio fel 'gŵyl yn fwy na eisteddfod', ac mae dipyn o waith i'w wneud er mwyn i'r digwyddiad - sy'n para tridiau dros benwythnos ym mis Mai - allu digwydd bob blwyddyn, meddai.

Roedd ei gwaith hi fel ysgrifennydd yn cynnwys: "Trefnu'r rhaglen i ddechrau, rhestr testunau, a wedyn ffeindio beirniad, cysylltu â phobl, llywyddion y dydd a phob math o bethau ar gyfer cysylltu â'r cystadleuwyr neu gyda rhieni'r plant.

"Mae wedi bod yn bleser, dwi wedi gwneud lot o ffrindiau ar hyd y blynyddoedd."

Ac un o'r pleserau mwyaf dros y blynyddoedd i Neli yw gweld y plant a phobl ifanc yn tyfu fyny ac yn mynd ymlaen i fod yn berfformwyr llwyddiannus.

Meddai: "Ni wedi cael yn yr eisteddfodau cynnar pobl fel teulu'r O'Neills o Bontarddulais - Dennis, Patricia, Doreen ac Andrew, yn mynd ymlaen yn y byd cerddorol.

"Wedyn, Shân Cothi wrth gwrs, mae'n rhaid i ni beidio anghofio Shân. Roedd hi'n cystadlu lot yn yr eisteddfodau. A Rhian Lois sydd wedi mynd ymlaen i'r byd opera. Robyn Lynn hefyd, y ddau yn gwneud mor dda. Wedyn, Jessica Robinson a Bethan Dudley i enwi dim ond ychydig."

Syr David T James oedd y noddwr ar gyfer yr eisteddfod gyntaf yn 1964 a'i syniad e oedd i gynnal yr Eisteddfod.

Meddai Neli: "Wrth gwrs roedd hi mor boblogaidd yn y babell ar y cae pêl-droed benderfynodd e fod eisiau adeilad parhaol i'r Steddfod. Ac mi ga'th yr hen bafiliwn ei adeiladu."

Ar ôl tân yn y pafiliwn ar ddechrau'r ganrif adeiladwyd pafiliwn newydd sy'n cael ei ddefnyddio bob blwyddyn erbyn hyn.

Roedd yr eisteddfodau cyntaf yn dra wahanol i'r ŵyl erbyn heddiw, yn ôl Neli: "Mae wedi bod yn eisteddfod eithaf poblogaidd ar hyd y blynyddoedd.

"Ond wrth gwrs, erbyn hyn, mae pethau wedi newid i fel o'n nhw ar y dechrau pan oedd y corau mawr yn dod, a roedd y pentre i gyd yn llawn bysus yn parcio ym mhob man.

"Roedd corau yn dod o bob man - o Lundain, Stoke-on-Trent, côr o America yn dod yn flynyddol am sawl blwyddyn. Ni'n colli'r pethau yna nawr, wrth gwrs. Mae pethau wedi newid. Ond ni'n dal i gael corau a phartion lleol yn cystadlu o hyd."

Neli'n llongyfarch enillydd Tlws yr Ifanc eleni, Hari Del GriffithsFfynhonnell y llun, Neli Jones
Disgrifiad o’r llun,

Neli'n llongyfarch enillydd Tlws yr Ifanc eleni, Hari Del Griffiths

Cymuned

Ni fydd Neli yn segur - mae hi hefyd wedi bod yn dysgu piano i blant ers blynyddoedd ac yn parhau i wneud hynny heddiw.

Ac mae hefyd yn weithgar gyda chapel Rhydfendigaid: "Dwi'n flaenor ac yn organyddes yn y capel ac yn athrawes ysgol Sul hefyd. Mae gennym ni ysgol Sul gref yn Rhydfendigaid gyda dros 20 o blant yn dod."

Eisteddfod eleni oedd yr Eisteddfod gyntaf iddi fod wedi ymddeol yn swyddogol o'i swydd fel Ysgrifennydd ond bydd Neli yn parhau i fod ar Bwyllgor yr Eisteddfod ac mae wedi dechrau meddwl am Eisteddfod 2026 yn barod!

Meddai: "Mae pawb ar y pwyllgor yn tynnu pwysau chwarae teg. Mae cymaint o bobl ynghlwm wrth y Steddfod ac yn helpu ar y penwythnos yn enwedig. Ni'n lwcus iawn i ddweud y gwir i gael nifer o wirfoddolwyr yn barod i wneud."

Pwyllgor yr eisteddfod yn 2024Ffynhonnell y llun, Neli Jones
Disgrifiad o’r llun,

Pwyllgor yr Eisteddfod yn 2024

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.