Datganoli tâl ac amodau yn 'hwb' i statws athrawon

  • Cyhoeddwyd
dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am syniadau ar gyfer y ffordd fwyaf effeithiol o ystyried tâl ac amodau gwaith athrawon yng Nghymru unwaith y bydd y cyfrifoldeb yn cael ei ddatganoli ym mis Medi.

Yn ôl yr ysgrifennydd addysg mae datganoli'r grym yn cynnig cyfle i godi statws dysgu fel proffesiwn yng Nghymru.

Mae Kirsty Williams yn dweud fod y llywodraeth yn "benderfynol o sicrhau bod athrawon yng Nghymru yn cael yr un faint o gyflog ag athrawon yn Lloegr" ar ôl i'r cyfrifoldeb gael ei ddatganoli.

Mae'r llywodraeth hefyd wedi sefydlu tasglu i edrych ar gyflog ac amodau athrawon ysgol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Mick Waters i edrych ar sut i wella'r system bresennol.

'Dim llai na Lloegr'

Bwriad Llywodraeth Cymru yw sefydlu partneriaeth rhwng yr undebau athrawon, cyflogwyr a'r llywodraeth i gytuno ar amodau gwaith a thâl athrawon.

Byddai unrhyw argymhellion gan y tasglu yn cael eu hystyried yn fanwl gan banel o arbenigwyr cyn i weinidogion wneud y penderfyniad terfynol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am dâl ac amodau gwaith athrawon o fis Medi eleni - cyn gosod lefelau tâl ac amodau gwaith am y tro cynta' erbyn Medi 2019.

"Rwyf eisiau cydweithio â'r proffesiwn a helpu athrawon i wneud eu gwaith hyd gorau eu gallu," meddai Ms Williams.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Mae hyn yn golygu edrych ar bopeth y gallwn ni ei wneud i'w helpu, boed hynny'n strwythur teg a synhwyrol ar gyfer pennu cyflogau ac amodau, ffyrdd newydd o leihau biwrocratiaeth yn yr ystafell ddosbarth neu system well ar gyfer datblygiad proffesiynol.

"Fel llywodraeth, rydym yn benderfynol o sicrhau bod athrawon yng Nghymru yn cael yr un faint o gyflog ag athrawon yn Lloegr.

"Bydd y model yr ydym yn ymgynghori arno yn sicrhau bod undebau, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru yn gallu dod ynghyd i drafod a chytuno ar ffordd ymlaen sy'n deg, yn synhwyrol ac yn gynaliadwy.

"Mae'n rhaid i ni edrych hefyd ar y darlun cyfan. Dyma gyfle i ddatblygu model cenedlaethol yng ngwir ystyr y gair, model cenedlaethol sy'n ymgorffori dull o gefnogi a rhoi hwb i'r proffesiwn."

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Gwener ac yn para tan 4 Mai.