Cyngor Gwynedd i ddod a nawdd Ffermwyr Ifanc i ben
- Cyhoeddwyd
Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi pleidleisio i ddod a nawdd mudiad ffermwyr ifanc y sir i ben.
Ar hyn o bryd mae Clwb Ffermwyr Ifanc Meirionnydd yn derbyn grant blynyddol o £20,000 gan y cyngor, ac Eryri'n derbyn £16,000.
Mae'r cyngor wedi cytuno i ariannu gwerth naw mis o grant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ond wedi hynny bydd y grant Gwasanaethau Ieuenctid yn dod i ben.
Dywedodd cadeirydd CFfI Meirionnydd, Dafydd Evans, y bydd y penderfyniad yn cael "effaith ddinistriol ar y clybiau".
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud eu bod yn ail fodelu Gwasanaethau Ieuenctid er mwyn ei foderneiddio ac arbed arian.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod angen iddyn nhw wneud arbedion o £270,000 ac nad yw'r gwasanaeth presennol yn cyrraedd anghenion pobl ifanc.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2017