Adran Dau: Casnewydd 2-1 Swindon
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth dwy gôl yn yr hanner cyntaf roi Casnewydd ar ben ffordd i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf mewn pum gêm.
Padraig Amond a Ben Tozer sgoriodd i'r Alltudion yn erbyn tîm oedd a gobaith o gyrraedd y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
Llwyddodd Paul Mullin i daro nôl i'r ymwelwyr ar ôl awr o chwarae ond doedd hynny ddim yn ddigon.
Cafodd Rollin Menayese o Swindon ei anfon o'r cau wrth i Gasnewydd sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ers mis Ionawr.
Mae Casnewydd yn codi i'r 12 safle yn Adran Dau.