Cynllun Castell Penrhyn i greu ynni o ddŵr gwastraff
- Cyhoeddwyd
Bydd Castell Penrhyn ger Bangor yn arbrofi gyda thechnoleg newydd sy'n amsugno gwres o ddŵr sinc wrth iddo fynd i lawr y draen.
Y bwriad yw lleihau biliau ynni ac allyriadau carbon yr adeilad, sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Bydd y system yn defnyddio'r gwres i gynhesu dŵr sy'n dod i mewn i gaffi'r castell, atyniad sy'n denu degau ar filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae'r sawl sy'n gyfrifol am y prosiect yn dweud y gallai gael ei efelychu mewn ysgolion, ysbytai a thai pobl os yw'n llwyddiant.
Adfer gwres
Wedi'i adeiladu yn y 18fed ganrif ac yn hawlio golygfeydd hardd o'r Fenai ac Eryri, Castell Penrhyn yw'r adeilad mwyaf yng Nghymru yn nwylo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol - a'r trydydd mwyaf drud i'w gadw hefyd.
Mae ganddo gaffi prysur, amgueddfa drenau a dros 100 o ystafelloedd - sydd angen 1.3 miliwn litr o ddŵr bob blwyddyn.
Ers deunaw mis, mae'r staff wedi bod yn gweithio gyda gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor a Choleg y Drindod Dulyn i fonitro eu defnydd o ddŵr.
Wedi'i ariannu gan grant gwerth £50,000 gan yr Undeb Ewropeaidd, daeth y prosiect i'r casgliad bod 'na botensial sylweddol i adfer gwres o'r hyn sy'n cael ei olchi i lawr y draen o gegin y caffi yn benodol.
Mae'r dŵr gwastraff yn llifo drwy bibell o'r gegin - sy'n cynnwys sawl sinc a pheiriannau golchi llestri - drwy selar ac allan o'r adeilad i danc septig.
Yn y selar, roedd tymheredd y dŵr rhwng 40 a 50 gradd Celsius yn rheolaidd, ond erbyn iddo adael y castell, roedd y gwres yn diflannu'n gyflym.
Mewn labordy, fe wnaeth y tîm dreialu ffyrdd gwahanol o ddefnyddio'r biben dŵr gwastraff yn y selar i gynhesu dŵr oedd yn dod i mewn i'r adeilad.
Roedd y rhain yn cynnwys rhedeg pibell yn dod â'r dŵr i mewn drwy'r bibell yn mynd â'r dŵr allan, gosod y biben wastraff mewn tanc dŵr, a chyfuniad o'r ddau.
'Colli cymaint'
Mae'r ymchwil bellach yn ystyried a fyddai ychwanegu pwmp dŵr yn gost effeithiol.
Gan ddefnyddio trydan gallai hwnnw sugno hyd yn oed mwy o wres o'r dŵr - hyd at 40% o'r hyn sy'n cael ei golli ar hyn o bryd.
Byddai cynhesu'r dŵr cyn iddo gyrraedd system wresogi'r castell olygu ei bod hi'n gynt ac yn rhatach i'w droi yn ddŵr poeth ar gyfer tapiau, teclynnau gegin a rheiddiaduron.
Gyda'r profion bron â bod wedi'u cwblhau, y gobaith yw y bydd y system newydd yn cael ei osod yng Nghastell Penrhyn "o fewn yr wythnosau nesaf" meddai Keith Jones, Ymgynghorydd Amgylcheddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
Y bwriad yw arbed arian i'r elusen ar eu biliau ynni, gan olygu bod mwy o bres ar gael i'w wario ar waith cadwraeth.
Mae gan yr adeilad hanes balch o ddatgarboneiddio ei ddefnydd o ynni yn barod - ddwy flynedd yn ôl fe wnaeth y castell symud o system gwresogi olew at ferwedydd biomas, tra bod paneli solar yn cynhyrchu 25% o'i drydan.
"Ry'n ni'n cynhyrchu lot o drydan glan yn barod, ond dwi'n dal i deimlo nad ydyn ni'n gwneud y gorau ohono," eglurodd Mr Jones.
"Mae gymaint yn cael ei golli i lawr y draen pan ry'n ni'n golchi dŵr poeth i ffwrdd. Sut allwn ni gael hynny yn ôl? Dyna beth yw pwrpas y prosiect yma."
Ysbytai ac ysgolion
Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi dweud, os yw'r cynllun peilot yn llwyddiant, y gallai gael ei efelychu ar draws eu hadeiladau hanesyddol drwy Brydain.
Ond yn ôl Dr Prysor Williams, uwch ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, mae 'na oblygiadau mwy pellgyrhaeddol hefyd.
"Mae 'na ddefnyddwyr mawr iawn o ddŵr o fewn ein cymunedau ni - ysbytai, ysgolion, gwestai mawr ac ati," meddai.
"Felly mae'r potensial ar gyfer canfyddiadau'r prosiect yma i gael eu defnyddio yn ehangach yn gyffrous iawn."