Ail ddyn yn euog o lofruddio llanc yng Nghei Connah

  • Cyhoeddwyd
Matthew James Cassidy
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Matthew Cassidy mewn bloc o fflatiau yn ardal stryd fawr Cei Connah.

Mae ail ddyn wedi ei gael yn euog o lofruddio llanc yn ystod ffrae dros werthu cyffuriau.

Bu farw Matthew Cassidy, 19 oed ac o Lannau Mersi, ar ô cael ei drywanu naw o weithiau ar risiau bloc o fflatiau yng Nghei Connah, Sir Y Fflint fis Mai y llynedd.

Wedi achos wnaeth bara am bythefnos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, fe benderfynodd mwyafrif y rheithgor fod Leslie Baines, 48, oedd yn byw yng Nghei Connah, yn euog.

Bydd Baines a'i gyd-ddiffynnydd 20 oed o Lerpwl, David Woods, yn cael eu dedfrydu fis nesaf.

Roedd Woods hefyd wedi gwadu llofruddiaeth ond fe newidiodd ei ble yn ystod yr achos.

Fe gymrodd y rheithgor ychydig dros ddau ddiwrnod i ystyried y dystiolaeth a bore Iau fe ddywedodd y barnwr y byddai'n derbyn rheithfarn trwy fwyafrif.

Penderfynodd y rheithgor o 10 i ddau fod Baines yn euog.

Ffynhonnell y llun, Andrew Price
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Leslie Baines yn honni ei fod yn nhŷ ei fam adeg y llofruddiaeth

Wedi'r dyfarniad fe glywodd y llys fod Baines wedi'i gael yn euog o 58 o droseddau ers 1982, a bod 12 o'r troseddau'n ymwneud â thrais.

Yn ystod yr achos, fe ddywedodd yr erlyniad mai ffrae rhwng ddau giang dros werthu cyffuriau yn ardal Glannau Dyfrdwy wnaeth arwain at farwolaeth Mr Cassidy.

Woods oedd arweinydd un o'r grwpiau.

Dywedodd yr erlyniad bod Baines hefyd â rhan yn y farwolaeth er nad oedd yn gwbl glir a oedd wedi trywanu Mr Cassidy yn bersonol.

Roedd o leiaf wedi annog a chefnogi Woods, yn ôl bargyfreithiwr yr erlyniad, Paul Lewis QC. Ar un adeg yn ystod yr achos roedd awgrym mai rôl Baines oedd atal Mr Cassidy rhag gadael yr adeilad.

Clywodd y llys fod Woods i'w glywed mewn recordiadau cudd yng ngharchar Altcourse, Lerpwl yn cyfaddef wrth berthnasau a ffrindiau.

Yn ogystal â phledio'n euog i lofruddiaeth, fe wnaeth Woods gyfaddef i gyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder. Roedd wedi rhoi tystiolaeth ffôn ffug i'r heddlu gan roi'r bai'n gyfan gwbl ar Baines.

Cafodd dau ddyn eu gweld yn gadael y fflat ac roedd tystiolaeth DNA yn cysylltu'r ddau ddiffynnydd â'r adeilad.

Bydd Woods a Baines yn cael eu dedfrydu ar 21 Mai.