Chris Coleman yn gadael ei swydd fel rheolwr Sunderland

  • Cyhoeddwyd
Chris ColemanFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chris Coleman oedd rheolwr Cymru rhwng Ionawr 2012 a Tachwedd 2017

Mae Chris Coleman wedi cael ei "ryddhau o'i gytundeb" fel rheolwr Sunderland ar ôl i'r clwb ddisgyn o'r Bencampwriaeth.

Fe wnaeth Coleman adael ei swydd fel rheolwr tîm cenedlaethol Cymru ym mis Tachwedd i olynu Simon Grayson gyda'r clwb yng ngogledd Lloegr.

Cafodd ei gadarnhau y bydd Sunderland yn chwarae yn Adran Un y tymor nesaf wedi iddyn nhw golli i Burton y penwythnos diwethaf.

Mae dirprwy Coleman, a chyn-hyfforddwr Cymru, Kit Symons hefyd wedi gadael y clwb.

Gwerthu'r clwb

Dim ond y llynedd wnaeth Sunderland ddisgyn o'r Uwch Gynghrair, a'r tymor nesaf fydd y tro cyntaf ers 30 mlynedd iddyn nhw chwarae yn nhrydedd adran pêl-droed Lloegr.

Mae perchennog y clwb, Ellis Short hefyd wedi cadarnhau ei fod wedi cytuno i werthu'r clwb.

Fe wnaeth Coleman ennill dim ond pum o'i 29 gêm fel rheolwr Sunderland.

Er hynny, roedd wedi dweud wrth y BBC yn dilyn y gêm y penwythnos diwethaf ei fod yn gobeithio aros fel rheolwr y clwb y tymor nesaf.