Galw am roi asid ffolig mewn holl gynnyrch blawd
- Cyhoeddwyd
Dylai asid ffolig gael ei ychwanegu at yr holl gynnyrch blawd sy'n cael ei werthu yn y DU, yn ôl AS o Gymru.
Mewn dadl yn San Steffan ddydd Mercher bydd Owen Smith yn dadlau y byddai ychwanegu asid ffolig at flawd yn haneru nifer y babanod sy'n cael eu geni â spina bifida ac anenseffali.
Mae 87 gwlad ar draws y byd eisoes wedi newid eu deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod yn rhaid i asid ffolig gael ei ychwanegu at flawd a chynnyrch perthnasol.
Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod galwadau i wneud yr un peth, ond yn ôl Mr Smith fe ddylen nhw feddwl eto.
'Cam syml'
"Bob wythnos ym Mhrydain mae dau o blant yn cael eu geni gyda sbina biffida ac anseffali, a bob dydd mae dau feichiogrwydd yn cael eu terfynu o ganlyniad i ddiagnosis o spina bifida," meddai.
"Rydyn ni wedi gwybod ers dros 20 mlynedd bellach fod modd o leiaf haneru'r nifer yna os ydyn ni'n cymryd cam syml a gorfodi blawd i gael ei gryfhau gydag asid ffolig.
"Dwi'n meddwl bod hyn yn rhywbeth y gallai ac y dylai'r llywodraeth ei wneud. Mae 80 o wledydd, gan gynnwys yr UDA, eisoes wedi gwneud a dwi'n credu y dylen ni hefyd."
Mae diffyg asid ffolig yn un o'r pethau sy'n gallu arwain at ddiffygion niwral mewn plant yn y groth, ac mae'n datblygu'n gynnar mewn beichiogrwydd.
"Dyna pam fod y cyngor cyffredinol yn y DU yn dweud y dylai merched sy'n mynd yn feichiog ychwanegi asid ffolig i'w diet," meddai AS Llafur Pontypridd.
"Mae llawer o fenywod sydd ddim yn gwneud hynny, yn enwedig rhai o gefndiroedd dosbarth gweithiol.
"Y broblem yw bod y diffygion yma'n datblygu yn gynnar yn y beichiogrwydd felly mewn gwirionedd mae'n rhaid i chi gymryd asid ffolig cyn beichiogi er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio.
"Yr unig ffordd o sicrhau hynny yw i'w gyflwyno mewn cynnyrch blawd."
Mae llywodraethau Cymru a'r Alban wedi datgan cefnogaeth i'r syniad, ac ym mis Rhagfyr 2017 fe wnaeth y ddwy lywodraeth ysgrifennu at Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Jeremy Hunt yn galw arno i gyflwyno'r newid ar lefel DU gyfan.