Rhybudd o garchar i ddyn am yrru'n beryglus
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Ddulyn wedi cael rhybudd i ddisgwyl dedfryd o garchar wedi iddo bledio'n euog i achosi anafiadau difrifol drwy yrru'n beryglus.
Fe wnaeth Dean Howard, 26 oed o ardal Georgetown y ddinas, gyfadde'r drosedd wrth yrru ei gar Ford Focus ar yr A5 yn Nyffryn Ogwen ar 21 Ebrill eleni.
Bu ei gar mewn gwrthdrawiad â beic modur Darren Hamilton Smith, ac fe gafodd Mr Smith ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol iawn.
Yn y gwrandawiad yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun, dywedodd y Barnwr Philip Harris-Jenkins fod dedfryd o garchar yn "anochel".
Cafodd Howard ei rhyddhau ar fechnïaeth tan 8 Mehefin er mwyn paratoi adroddiadau ac er mwyn i'r llys gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyflwr meddygol Mr Smith.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2018