Comisiynydd: Diwedd pryd ar glud yn 'peryglu' pobl hŷn

  • Cyhoeddwyd
Pryd ar gludFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rhybudd y gallai pobl oedrannus fod "mewn mwy o berygl" wrth i gynghorau gael gwared â gwasanaethau pryd ar glud.

Daw sylwadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira wrth i waith ymchwil Cymru Fyw ddangos nad yw hanner cynghorau Cymru'n darparu gwasanaeth pryd ar glud.

Yn ôl Ms Rochira mae cyfrifoldeb ar awdurdodau i ddiogelu pobl hŷn ac mae gwasanaethau fel pryd ar glud yn dod o dan yr ymbarél honno.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod cynghorau'n "adnabod gwerth" gwasanaethau cymdeithasol i gymunedau, ond bod cynghorau wedi "gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn" oherwydd "toriadau eithriadol".

'Dylestwydd gofalu am bobl hŷn'

Dywedodd Ms Rochira: "Mae angen i ni fod yn cryfhau'n ffocws ar bobl yn eu cartrefi eu hunain.

"Mae angen i ni gryfhau ein dulliau diogelu ac mae unigolyn yn ymweld â thai pobl yn rhan allweddol o'r gwaith hynny.

"Dwi'n credu bod awdurdodau lleol sy'n tocio'r gwasanaethau hyn angen meddwl yn ofalus iawn ynglŷn â'r effaith ar yr unigolyn, nid yn unig ar eu gallu i fwyta ond y dyletswyddau cadw'n ddiogel sydd ganddynt hefyd."

Disgrifiad,

Pryd ar glud: 'Bwyd neilltuol o dda'

Yr ymchwil

Dyw 11 awdurdod lleol ddim yn darparu pryd ar glud: Sir Ddinbych, Casnewydd, Powys, Ynys Môn, Gwynedd, Fflint, Wrecsam, Bro Morgannwg, Conwy, Castell Nedd Port Talbot a Merthyr.

Mae'r 11 arall yn cynnig y prydau ond bydd y gwasanaethau yn Sir Benfro a Sir Gâr yn dod i ben fis Hydref.

Yn ôl y ddau awdurdod bydd gwasanaeth arall yn dod yn ei le ar ôl hynny.

Blaenau Gwent, Abertawe, Ceredigion, Caerdydd, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf yw'r awdurdodau eraill lle mae modd cael pryd ar glud.

Nid dim ond gwneud yn siŵr bod pobl yn bwyta yn iawn yw pryd ar glud medd y comisiynydd, ond mae hefyd yn cynnig cwmnïaeth i bobl ac yn ffordd i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel.

Heb hyn mae mwy o berygl y byddant yn gorfod mynd i'r ysbyty: "Rydyn ni yn eu gwneud nhw [pobl hŷn] yn fwy bregus nag y dylen nhw fod.

"Felly dwi'n deall yr heriau sy'n wynebu cynghorau lleol ond bydden ni yn dweud bod unrhyw gyngor sydd yn terfynu'r gwasanaeth yma angen bod yn siŵr ac yn hyderus nad yw pobl wedyn mewn mwy o risg."

Disgrifiad,

Dylai cynghorau fuddsoddi yn y gwasanaeth pryd ar glud i "leihau'r baich ariannol" yn yr hir dymor meddai Iwan Williams o Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Yn Sir Gâr a Sir Benfro mae'r gwasanaeth pryd ar glud presennol yn dod i ben ym mis Hydref.

Partneriaeth rhwng y cynghorau ac elusen RVS (Royal Voluntary Service) oedd hwn ac fe fydd gwasanaeth arall yn cael ei gynnig yn ei le.

Yn ôl llefarydd Cyngor Sir Gâr, dim "penderfyniad cyllidebol" oedd hyn.

Llai o alw

Mae RVS yn dweud eu bod nhw wedi lleihau'r ddarpariaeth maen nhw'n ei gynnig oherwydd eu bod yn cael llai o waith gan gynghorau yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl Steve Amos, pennaeth gwasanaethau sydd wedi eu comisiynu yng Nghymru a de Lloegr, mae llai o alw wedi bod am y gwasanaeth.

"Ar draws Prydain... yn gyffredinol mae'r galw am wasanaethau fel hyn wedi lleihau am fod yna nifer o ffyrdd y gall pobl dderbyn prydau ers sawl blwyddyn.

"Mae rhai o'r prydau rydyn ni yn darparu ar draws Prydain yn rhai wedi rhewi ac yn y blynyddoedd diwethaf mae yna gynnydd mawr mewn archfarchnadoedd a chyflenwyr eraill sydd hefyd yn gallu cynnig pethau fel hyn yn uniongyrchol i'r drws hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwasanaeth pryd ar glud yn hanfodol i fywydau pobl oedrannus medd Sara Rochira

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn dweud bod angen sicrhau bod mwy o bobl yn ymweld â phobl hŷn yn eu cartrefi ac nid llai.

Y perygl meddai os yw mwy o gynghorau yn penderfynu cael gwared a pryd ar glud yw y bydd yna oblygiadau tymor hir.

"Dwi'n gwybod bod yna heriau ariannol yn wynebu nifer o awdurdodau lleol.

"Ond mae'n well ein bod ni yn gwario'r arian a gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth yn iawn er mwyn cadw pobl yn saff a'u cefnogi, na gorfod gwario'r arian wedyn pan mae rhywbeth wedi digwydd ac mae yna argyfwng."

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod penderfyniadau am wasanaethau'n cael eu gwneud "yn unol â chyfyngiadau cyllideb a blaenoriaethau ym mhob ardal".

Ychwanegodd bod cynghorau'n "adnabod gwerth" gwasanaethau cymdeithasol i gymunedau, ond bod cynghorau wedi "gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn" oherwydd "toriadau eithriadol".